Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.

Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,

byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith

Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb

Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol

Cwblheais flwyddyn yn astudio dramor ym Mhrifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada. Y rhan orau oedd cael teithio a chwrdd â nifer fawr o bobl newydd. Caniataodd hyn i mi ehangu fy

ngorwelion a thyfu fy rhwydwaith proffesiynol.

Byddwn yn argymell y profiad 100%; mae wedi bod fy hoff ran o’m gradd hyd yn hyn.

HELENA BAILEY Blwyddyn Dramor: Prifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada

Made with FlippingBook HTML5