BLWYDDYN SYLFAEN
Mae Blwyddyn Sylfaen Integredig y Dyniaethau yn cynnig cyflwyniad arloesol a chyffrous i Addysg Uwch, ac mae wedi’i chynllunio i ddarparu mynediad ehangach at raddau anrhydedd achrededig. Os nad ydych yn bodloni ein gofynion mynediad traddodiadol ar gyfer cael mynediad uniongyrchol at ein rhaglenni gradd, efallai y gallwch chi ddechrau eich astudiaethau â Blwyddyn Sylfaen. Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â myfyrwyr ym Mlwyddyn 1 eich gradd ddewisol. Mae pob un o’n cydweithwyr sy’n addysgu ar lefel Blwyddyn Sylfaen yn meddu ar brofiad helaeth o addysgu ym maes Addysg Uwch. Byddwch yn parhau i gael eich addysgu gan lawer ohonynt wedi i chi fynd ymlaen i astudio gradd. Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, bydd y cydweithwyr hyn yn eich cynorthwyo i ennill y wybodaeth hanfodol a’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i ffynnu ar ein cyrsiau gradd.
Dyma sampl o destunau y byddwch yn eu hastudio yn ystod eich Blwyddyn Sylfaen:
Cyflwyniad i Fod yn Ddynol Ysgrifennu a Datblygu Sgiliau Academaidd Cyflwyniad i Ymchwil
Myfyrio Beirniadol a Datrys Problemau Traethawd Ymchwil
Mae myfyrwyr sy’n cwblhau ein Blwyddyn Sylfaen yn y Dyniaethau yn mynd ymlaen i’w llwybrau gradd dewisol wedi’u paratoi’n drylwyr â sylfaen wybodaeth gref, sgiliau academaidd cadarn, a lefelau uchel o hyder, yn deillio o flwyddyn gefnogol a dreuliwyd yn y Brifysgol. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gyflawni marciau rhagorol ar eu cyrsiau gradd, sicrhau rolau amlwg o fewn y Brifysgol (gan gynnwys Cynrychiolydd Myfyrwyr, Llysgennad a swyddi interniaeth), a chael eu cydnabod am y gwahaniaeth a wnânt i’r rheiny o’u cwmpas. Cewch deimlo’n rhan o’r gymuned mewn amgylchedd hamddenol ac anogol lle byddwch yn cael eich addysgu mewn ffyrdd cynhwysol a dynamig. Gydag athroniaeth addysgol bersonoledig a chefnogol, byddwch yn cael eich annog i gyrraedd eich potensial academaidd gorau. Mae ein carfan amrywiol, gyda myfyrwyr o amryw wledydd a chefndiroedd, yn cyfoethogi profiad myfyrwyr, ymhellach. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am fodiwlau a chyrsiau, ewch i dudalennau gwe ein cyrsiau.
Made with FlippingBook HTML5