Donor Report 2020 CYM

ADRODDIAD I RODDWYR

EICH CEFNOGAETH: EIN DIOLCH. 2020

1,135 CYFANSWM Y RHODDWYR

£1,430,309 RHODDION ARIANNOL A DDERBYNIWYD

855 POBL SY’N RHOI AM Y TRO CYNTAF 1.06% CANRAN Y

100% CANRAN EICH

CYN-FYFYRWYR SY’N RHOI RHODDION A’CH RHODD CYMORTH A WARIWYD AR YR ACHOS O’CH DEWIS 0% Y FFI WEINYDDOL YR YDYM YN EI ‘BRIGDORRI’ O’CH RHODD 17 NIFER Y PROSIECTAU A ARIANNWYD GAN RODDION NA FYDDENT WEDI CYCHWYN FEL ARALL 19 OEDRAN Y RHODDWR IEUENGAF 92 OEDRAN Y RHODDWR HYNAF 55:45 CYMHAREB RHODDWYR GWRYWAIDD: BENYWAIDD 32 NIFER Y GWLEDYDD YR YDYM WEDI DERBYN RHODDION GANDDYNT 614 NIFER YR ORIAU GWIRFODDOLI 136 NIFER Y

GWIRFODDOLWYR

CROESO Annwyl gyn-fyfyrwyr a chyfeillion,

Yn ogystal â’n gweithgaredd sy’n ymwneud â Covid-19, mae ymchwilwyr a staff ein Prifysgol wedi parhau i ganolbwyntio ar heriau mawr, mwy hirdymor ein byd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhoddion gan gyn- fyfyrwyr a chyfeillion wedi cefnogi nifer o brosiectau sy’n ymdrin â rhai o broblemau mwyaf cymhleth y byd, megis colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd, a gwella cysylltiadau hiliol. Mae rhai o’r prosiectau gwych hyn wedi’u cynnwys yma hefyd. Yn olaf, hoffwn ddiolch o galon i’n gwirfoddolwyr. Maent wedi rhoi amser sy’n werthfawr dros ben, yn enwedig i’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr ifanc y mae nifer ohonynt wedi elwa’n aruthrol o’r gefnogaeth hon yn ystod cyfnod mor anodd. Gobeithiaf, er enghraifft, y cewch eich ysbrydoli fel y gwnes i, gan dystlythyr ein gwirfoddolwr a chyn-fyfyriwr a raddiodd ym 1982, Sandeep. Diolch eto am eich cefnogaeth wych, sydd wedi bod mor hanfodol i ni eleni. Gobeithiwn yn fawr y gallwn weld nifer ohonoch eto yn fuan ac yn y cyfamser, gobeithiaf y byddwch chi a’ch teuluoedd yn cadw’n ddiogel ac yn iach

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anhygoel i bawb. Mae cychwyniad pandemig byd-eang, a’i effeithiau parhaus a deimlir ledled y byd ac ar gymaint o agweddau o’n bywydau, wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio gyda’n gilydd. Rydym ni, fel sawl sefydliad arall, wedi dibynnu’n fawr ar nerth ein cysylltiadau wrth i ni addasu i’n byd newydd, mwy rhithwir. Yn ystod blwyddyn ein canmlwyddiant, mae wedi bod yn ddefnyddiol gallu edrych yn ôl ar dros ganrif o hanes ein gwydnwch yn wyneb adfyd. Er gwaetha’r heriau, rwy’n hynod falch o gymuned Prifysgol Abertawe a’n hymateb ni i ddigwyddiadau 2020. Mae ein safle fel sefydliad ymchwil arweiniol wedi ein galluogi i gefnogi ymatebion cenedlaethol a rhyngwladol i Covid-19, o archwilio triniaethau meddygol newydd, i ddarparu tystiolaeth a deallusrwydd sy’n hysbysu polisïau ac yn mynd i’r afael ag effeithiau’r feirws ar ein cymdeithas. Rwyf yr un mor falch, o’n rhwydwaith gwych o gyn- fyfyrwyr a chefnogwyr, sydd wedi bod mor hael eu cefnogaeth, yn foesol ac yn ariannol, i waith y Brifysgol, ac rwy’n falch o allu rhannu cipolwg o’r gwaith hwnnw gyda chi yma. Mae hi wedi bod yn ysbrydoledig i weld yr holl ffyrdd y mae pobl wedi dod at ei gilydd i ymateb yn gadarnhaol a gyda phwrpas, ar lefel unigol ac ar y cyd. Mae eich rhoddion a’ch cefnogaeth chi yn rhan allweddol o’r ymdrechion hynny, wrth gyllido gwaith na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall, a helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr mwyaf bregus yn derbyn cefnogaeth y Gronfa Galedi Myfyrwyr.

Yr Athro Paul Boyle Is-ganghellor

EIN HYMATEB I’R CORONAFEIRWS Mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran y gwaith ymchwil i lawer o agweddau ar bandemig y •

Datblygu gosodion copr gwrth-heintiol a hawdd i’w cynnal a chadw ar gyfer drysau mewn lleoedd clinigol Archwilio profiadau myfyrwyr parameddygol sydd wedi parhau â’u hymarfer clinigol yn ystod y pandemig

coronafeirws newydd. Gyda’ch cymorth chi, rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddefnyddio ein harbenigedd a helpu i ddarparu atebion. Mae cyn-fyfyrwyr a chyfeillion Prifysgol Abertawe wedi cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar rai o elfennau pwysig y gwaith hanfodol hwn. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydych chi wedi ein helpu i ariannu prosiectau ymchwil, yn cynnwys • Astudio trallwysiadau gwaed plasma gan ddefnyddio rhoddion gan gleifion Covid-19 sydd wedi gwella, fel triniaeth ar gyfer achosion Covid-19 difrifol • Gwaith nodi a datblygu triniaethau newydd ar gyfer heintiau feirws, a gynorthwyir gan gyfrifiaduron • Ymchwilio i ledaenu gwybodaeth anghywir yn y cyfryngau cymdeithasol, a’i goblygiadau ar gyfer y pandemig

Dadansoddi agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd ynghylch cadw pellter cymdeithasol

• •

Meithrin ymatebion rhag-gymdeithasol i Covid-19

Cefnogi ein myfyrwyr drwy eu profiadau o’r pandemig

Darllenwch ragor er mwyn cael dealltwriaeth o rai o’r prosiectau hynod ddiddorol hyn.

plaid eu hun mewn cymhariaeth â’r blaid arall. Y rheswm dros hyn, yn rhannol, oedd ymddiried yn eich grŵp eich hun ac anymddiried ym mhobl y tu allan i’r grŵp. Yn bwysicach fyth, gwnaethant ddangos bod y cyhoedd yn cefnogi’r polisïau a gynigir gan arbenigwyr ac yn ymddiried ynddynt yn fwy nag y maent yn ymddiried ym mholisïau a gynigir gan y blaid o’u dewis. Mae hwn yn ganfyddiad pwysig,” meddai Dr Jiga-Boy, “oherwydd ei fod yn gwrthddweud y gred boblogaidd bod y cyhoedd cyffredinol ‘wedi cael digon ar arbenigwyr’. Mewn gwirionedd, yn ystod adegau o argyfwng fel hyn, mae’n dangos efallai y bydd y “Ymdrech anhygoel gan y gr ^ wp yw’r prosiect hwn, ar y cyd â chydweithwyr o brifysgolion ledled y byd,” meddai Dr Jiga-Boy.“Derbyniais £3,672 gan Gronfa’r Angen Mwyaf Prifysgol Abertawe, y gwnaethom ei ddefnyddio ym mis Ebrill 2020 er mwyn talu cyfranogwyr ar gyfer un arbrawf a gynhaliwyd yn yr UD 1 a dwy astudiaeth yn y DU 2 .Cafodd y protocol, y deunyddiau a’r cynllun dadansoddi data eu cofrestru ymlaen llaw cyn casglu’r data 3 a chaiff yr erthygl gyntaf ei chyflwyno’n fuan er mwyn cael ei hadolygu gan gymheiriaid. cyhoedd wedi ‘cael digon’ ar wleidyddiaeth a gwleidyddion pleidiol yn hytrach. “Roedd y cyllid hwn yn hanfodol ar gyfer ein galluogi i gasglu data mewn cyfnod mor fyr.Fel arfer, bydd yn cymryd llawer o amser, ymdrech ac arian i recriwtio samplau o gyfranogwyr sy’n ddigon mawr.Mae natur brys a byrhoedlog y pandemig hwn wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwaith, ac ni allen ni fod wedi casglu data o ansawdd cystal heb gymorth gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion a gefnogodd Gronfa’r Angen Mwyaf.Yn syml, gwnaeth y gronfa ein galluogi i wneud cymaint dros gyfnod mor fyr.Mewn byd delfrydol, byddai angen y math hwn o gymorth ar unrhyw ymchwilydd er mwyn cynyddu gwybodaeth.Rydym ni’n ddiolchgar o gael y cymorth hwn ar yr adeg hon.”

YMATEBION RHAG-GYMDEITHASOL I COVID-19 Ym mis Mawrth 2020, gwnaeth rhoddion gan gyn-fyfyrwyr alluogi Dr Gabriela Jiga-Boy i gychwyn prosiect ynghylch ‘meithrin ymatebion rhag-gymdeithasol i bandemig Covid-19’, gan gyfuno seicoleg gymdeithasol a gwyddor wleidyddol. Mae llawer o bynciau wedi’u polareiddio yn ôl safbwyntiau pleidiau: mae’r ‘effaith plaid cyn polisi’ yn dangos y bydd safbwyntiau pobl o ran pleidiau gwleidyddol yn eu gwneud yn fwy tebygol o gefnogi polisïau a gynigir gan y blaid honno mewn cymhariaeth â’r un polisi a gynigir gan yr wrthblaid. Er enghraifft, yn yr UD o leiaf, bydd pobl yn fwy tebygol o gymeradwyo polisi ynghylch y newid yn yr hinsawdd os caiff ei gynnig gan eu plaid eu hun, er gallai’r polisi fod o fudd i’r gymdeithas gyfan. Mae’r effaith hon yn gallu bod yn niweidiol o ran y cyhoedd yn cydymffurfio ag argymhellion i reoli pandemig Covid-19. Roedd Dr Jiga-Boy a’i chydweithredwyr am ddysgu a oedd ymateb y cyhoedd i bandemig Covid-19 yn y DU a’r UD yn fater pleidiol: a yw pobl yn fwy tebygol o gefnogi’r argymhellion pan ddaw’r rhain gan wleidyddion y maent eisoes o’u plaid, yn wahanol i’r blaid arall. Gwnaeth y canlyniadau gadarnhau’r rhagfynegiad hwn: roedd pleidleiswyr y Democratiaid / Llafur a’r Gweriniaethwyr / Ceidwadwyr yn cefnogi polisi er mwyn lleddfu Covid-19 pan roedd yn dod o’u

1 (N = 2000, CPrime Panels gan Cloud Research) 2 (N = ~1000 yr un, Prolific Academic) 3 https://osf.io/75h3p

COPTER: ASTUDIAETH COFRESTRU MYNEDIAD EHANGEDIG THERAPI PLASMA YMADFER COVID-19 Dyfarnwyd grant gwerth £2,000 gan gronfa ymateb brys i'r coronafeirws a ariennir gan gyn-fyfyrwyr i'r Athro Greg Fegan i'w alluogi i wneud gwaith paratoadol ar astudiaeth o effeithiau posib defnyddio 'plasma ymadferol' i drin cleifion â Covid-19 difrifol. Plasma gwaed yw hwn a roddwyd gan gleifion sydd wedi gwella yn sgil cadarnhad bod haint SARS-CoV 2 ganddynt, a allai gynnwys gwrthgyrff amddiffynnol. Mae'r gwaith yn golygu addasu’r system casglu data a ddefnyddiwyd mewn astudiaeth ar raddfa fawr yn yr UD gan glinigau MAYO i gasglu data ar gyfer cofrestrfa yng Nghymru a fydd yn helpu gwyddonwyr i ddeall yn well a allai therapi plasma ymadferol wella canlyniadau ar gyfer cleifion ac os felly, sut. Gwneir y gwaith hwn mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwaed Cymru ac imiwnolegwyr yn Ysbyty Prifysgol Cymru sy'n arwain y gwaith.

GWAITH NODI A DATBLYGU TRINIAETHAU

NEWYDD AR GYFER HEINTIAU FEIRWS, A GYNORTHWYIR GAN GYFRIFIADURON Mae grant gan Gronfa Ymateb Brys i’r Coronafeirws yn galluogi Marcella Bassetto, sy’n ddarlithydd yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, i ddod o hyd i driniaethau newydd a allai helpu i atal canlyniadau marwol y coronafeirws. Mae gan goronafeirysau dynol hynod bathogenig, gan gynnwys SARS-CoV, MERS-CoV a SARS-CoV-2, y gallu i achosi i’n systemau imiwnedd or-ymateb, sy’n arwain at lidio difrifol yn yr ysgyfaint a niwmonia difrifol, sy’n gyfrifol am gyfraddau marwolaeth uchel. Caiff yr ymateb ei sbarduno gan ryngweithiad rhwng protein coronafeirws a phrotein dynol, sy’n achos allweddol y broses lidio. Nod y prosiect yw dod o hyd i weithredwyr y gallent atal canlyniadau marwol y coronafeirysau hyn, a choronafeirysau newydd y gallent ddod i’r amlwg yn y dyfodol. Defnyddir technegau a gynorthwyir gan gyfrifiaduron, fel docio protein- protein, deinameg foleciwlaidd a sgrinio llyfrgell o gyffuriau masnachol presennol yn rhithwir, er mwyn nodi atalwyr y rhyngweithio rhwng y proteinau. Diolch i’r cymorth gan gyn-fyfyrwyr, caiff y ‘llwyddiannau’ rhithwir gorau a nodir eu prynu a’u gwerthuso er mwyn asesu eu gallu i atal y symptomau difrifol a achosir gan goronafeirysau rhag datblygu.

Yn ystod fy mlwyddyn olaf,

roeddwn i’n wynebu’r posibilrwydd y byddwn i’n ddigartref ar ôl cwblhau fy astudiaethau.Roedd y straen a’r gofid yn dechrau cael effaith negyddol ar fy ngwaith paratoi ar gyfer arholiadau.Gwnaeth y bwrsariaethau a’r cyllid ychwanegol fy ngalluogi i ddatrys fy mhroblemau llety ac ymdrechu’n galetach ar gyfer fy arholiadau.

Myfyriwr yn ei flwyddyn olaf sydd wedi ymddieithrio

CALEDI MYFYRWYR YN YSTOD Y PANDEMIG Wrth i bob blwyddyn fynd heibio, mae heriau newydd a datblygol yn ymddangos ger ein bron y mae’n rhaid inni eu datrys gyda’n gilydd.Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn hynod heriol, gydag effaith pandemig y coronafeirws yn cael ei theimlo ym mhopeth yr ydym yn ei wneud ac ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Gronfa Caledi Myfyrwyr yn hanfodol, nawr yn fwy nag erioed, er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr mwyaf bregus.Mae’n darparu cymorth ariannol hanfodol ac ar frys i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser nad oes ganddynt unman arall i fynd.Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, gofalwyr, a myfyrwyr nad oes ganddynt riant sy’n byw. Eleni, mae’r galw am ein gwasanaethau wedi cynyddu y tu hwnt i bob rhagolwg. Mae’r caredigrwydd a’r cydymdeimlad yr ydym yn eu gwerthfawrogi cymaint yn ein cymuned ymMhrifysgol Abertawe wedi bod mor bwysig yn ystod y misoedd diwethaf.Mae’r arian a roddwyd gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion wedi ein galluogi i ddarparu cymorth yn syth i lawer o fyfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol ar yr adeg

hon – y mae llawer ohonynt yn teimlo effaith negyddol Covid-19.

Hefyd, mae’r Gronfa Caledi Myfyrwyr wedi darparu Pecynnau Croeso wedi’u llenwi ag ystod o eitemau cartrefol defnyddiol, megis dillad gwely, llestri cegin a nwyddau glanhau, ar gyfer y myfyrwyr nad ydynt yn gallu gofyn am gymorth gan eu teuluoedd. Mae’r ddarpariaeth bwrsariaethau ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal, a gofalwyr, wedi cael ei chynyddu ar gyfer 2020/21, ac mae ein Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio, sydd wedi cael ei chyflwyno am y tro cyntaf, gan ddarparu cymorth ariannol y mae gwir angen amdano i fyfyrwyr sydd heb deulu i’w cefnogi. Gyda’ch cymorth chi, ac er gwaethaf gorfod symud ein gwasanaethau ar-lein, rydym yn parhau i gynnig cymorth i ystod helaeth o fyfyrwyr, o’r rheini sy’n gadael gartref am y tro cyntaf, neu’r rheini sy’n gorfod aros gartref, i’r rheini sy’n byw yn lleol sydd â’u teuluoedd ifanc eu hunain. ”Mae eich rhoddion yn cefnogi ein hymrwymiad parhaus i fyfyrwyr ymMhrifysgol Abertawe sydd dan anfantais. Diolch eto am eich haelioni a’ch ystyrioldeb.” - Alison Maguire, Rheolwr Arian@BywydCampws

CYMORTH RHENG- FLAEN I FYFYRWYR Mae gweld dros fil o’n myfyrwyr meddygol a gofal iechyd yn gwirfoddoli yn ystod pandemig Covid-19 wedi bod yn foment balch i’r Brifysgol: • Cafodd myfyrwyr meddygol yn eu blwyddyn olaf eu sefydlu fel meddygon ar ôl i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gynnig eu cofrestru’n gynnar dros dro.

Mae prifysgolion ledled y DU, fel Prifysgol Abertawe, yn gwneud gwaith bendigedig i gyfrannu at ymdrechion y DU i fynd i’r afael â phandemig Covid-19, felly rydym wrth ein boddau’n parhau i gefnogi myfyrwyr a chymunedau lleol yn ystod y cyfnod critigol hwn.

Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander

Anfonwyd 662 o’n myfyrwyr nyrsio i weithio i’r byrddau iechyd. Gwnaeth pob myfyriwr bydwreigiaeth yn ei flwyddyn olaf gynorthwyo bydwragedd cymwysedig. Gwnaeth dros gant o’n myfyrwyr parameddygol gofrestru i weithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Rydym yn hynod falch o’n holl fyfyrwyr.Mae ar y byd angen pobl alluog a gofalgar fel y rheini.Maen nhwwedi dangos cryfder mawr, gwytnwch a dewrder hyd yn oed, drwy gefnogi ein GIG ar adeg mor unigryw – adeg a allai fod yn beryglus. Yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe Rydym ni’n falch dros ben o’r ymroddiad a’r aberth y mae llawer o’n myfyrwyr yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd wedi’u gwneud wrth gefnogi’r GIG yn ystod y pandemig.Maen nhw’n glod i’w hunain, i’r Coleg ac i’r Brifysgol. Yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Roeddem am wneud yn si ^ wr bod ein myfyrwyr yn gwybod yn union faint rydym yn edmygu eu gwaith arwrol, ac mae hi wedi bod yn bosibl inni wneud hyn diolch i rodd hael gwerth £27,500 gan fenter Prifysgolion Santander. Mae pob myfyriwr wedi derbyn cerdyn arbennig a ddyluniwyd gan That MumMoment, a oedd yn diolch iddynt am yr ymroddiad a’r aberthau y maent wedi eu gwneud eleni.Hefyd, maent wedi derbyn taleb gwerth £24.50 i’w gwario mewn un o chwe busnes lleol - The Gower Coffee Company, Arthur Neave Café and Deli, Fulton Outfitters, Natur Cymru Organic Skincare, Castell Howell a Joe’s Ice Cream. Rydym mor falch y bydd y gwobrau hyn yn helpu i roi arian yn ôl yn yr economi leol a chefnogi ein busnesau lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac unwaith eto hoffem ddiolch i’n myfyrwyr am weithio’n ddiflino i gefnogi’r GIG – rydym yn falch iawn o’u galw’n arwyr i ni.

CEFNOGI’R MEYSYDD Â’R ANGEN MWYAF

Rydym wrth ein boddau’n agor Cronfa’r Angen Mwyaf ar gyfer ceisiadau eleni am y tro cyntaf ers inni ddechrau codi arian yn 2017. Mae’r gronfa hanfodol hon yn cefnogi ystod o brosiectau hynod werthfawr y gallent wedi bod yn anodd eu hariannu oni bai am haelioni bendigedig ein cyn-fyfyrwyr a’n cyfeillion. Rhwng y 31 o geisiadau o’r Brifysgol gyfan y’u haseswyd gan banel* gyda’r Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Martin Stringer yn y gadair, roedd 12 yn llwyddiannus a chawsant gyllid gwerth rhwng £672 a £3,672. O ddigideiddio’r catalog o gasgliadau yn y Ganolfan Eifftaidd, i wella mynediad i wybodaeth ar gyfer plant anabl a gofalwyr, gallwch ddarllen rhagor am rai o’r prosiectau hyn sy’n llawn ysbrydoliaeth, yn y tudalennau canlynol. Hefyd, byddwn yn rhoi’r diweddaraf ichi ynghylch y prosiectau hyn a rhai eraill yn y dyfodol drwy ein cylchlythyron electronig, gan gynnwys:

Hunanddatgelu gan fyfyrwyr ar gyfer y rheini sy’n profi trais rhywiol

• • • •

Hwyluso Sgyrsiau am Hil

Clybiau ysgrifennu creadigol ar ôl ysgol ar gyfer ysgolion cynradd Abertawe

Parth Plant Townhill

Yr Oriel Celf Rithwir

*Am ragor o wybodaeth am y prosiectau a ariennir, am gyfansoddiad y panel, neu os hoffech fod yn aelod o’r panel y flwyddyn nesaf, e-bostiwch Bill Saunders ar w.saunders@swansea.ac.uk

GRYMUSO PLANT YNG NGHYMRU Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn Ysgol y Gyfraith yn ceisio gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru, a bywydau’r rheini sy’n gofalu amdanynt, drwy ddarparu gwybodaeth am eu hawliau. Mae gwefan benodol yn cynnwys gwybodaeth am berthnasoedd, iechyd a lles, siopau a gwasanaethau, a phammae’r gyfraith yn wahanol yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Roedd yr Athro Simon Hoffman a’i dîm yn awyddus i wella hygyrchedd y cynnwys ar gyfer plant anabl a gofalwyr anabl, yn enwedig y rheini sydd â nam ar eu golwg neu ar eu clyw. Cafodd y Ganolfan Gyfreithiol i Blant £2,775 gan Gronfa’r Angen Mwyaf ar gyfer prosiect a arweinir gan fyfyrwyr sy’n cynhyrchu fersiynau sain o ddeunydd a ffeithluniau, yn ogystal â fideos byr yn Iaith Arwyddo Prydain (BSL) sy’n cyd-fynd â chynnwys sain a chynnwys gweledol. Drwy gymorth hael cyn-fyfyrwyr a chyfeillion, bydd yr adnodd hwn yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau plant a phobl ifanc anabl, a gofalwyr anabl yng Nghymru, gan eu helpu i wneud penderfyniadau deallus yn eu bywydau a’u grymuso i fynnu eu hawliau.

ARHOSWCH GARTREF A CHYFRI PRYFED Nod y prosiect Arhoswch Gartref a Chyfri Pryfed yw hybu staff a myfyrwyr (a’u ffrindiau a’u teuluoedd) i fynd allan i’r ardd ac i leoedd gwyrdd lleol yn ystod y cyfnod atal symud ac ar ôl hynny. Mae Dr Wendy Harris o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio gyda’r myfyriwr PhD Ben Clunie, yr entomolegydd lleol Liam Olds a Dr Mike Wilson, Prif Guradur Entomoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, er mwyn creu prosiect hygyrch ar gyfer cofnodwyr anifeiliaid di-asgwrn-cefn profiadol a’r rheini sydd newydd ddarganfod pleser nodi a chofnodi pryfed.Diolch i Gronfa’r Angen Mwyaf, maent wedi llwyddo creu cymuned o unigolion sydd o’r un meddylfryd ac yn awyddus i ddysgu a rhannu eu profiad. Mae dros 50 o gyfranogwyr wedi cwblhau dros 120 o arolygon o anifeiliaid di-asgwrn-cefn yr haf hwn.Bydd y data’n werthfawr dros ben ar gyfer deall mwy am sut mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn defnyddio ein gerddi a’n lleoedd dinesig.Hefyd, caiff ei rannu â chanolfannau cofnodi lleol, gan gyfrannu at y gronfa data genedlaethol a darparu deallusrwydd ynghylch newidiadau yn nosbarthiad rhywogaethau a lefelau poblogaethau, yn ogystal â helpu i fonitro colli bioamrywiaeth. Bydd cyrsiau hyfforddi’n hybu cyfranogwyr i ddysgu rhagor am adnabod anifeiliaid di-asgwrn-cefn, a rôl anifeiliaid di-asgwrn-cefn wrth gynnal a chadw ecosystem iach.Mae siaradwyr gwadd, gan gynnwys Andrew Lucas, cyn-fyfyriwr PhD yn Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe, wedi trafod ystod o bynciau o brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion, megis Helfa Gwlithod Seler y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), i rôl pryfed hofran fel peillwyr, a phwysigrwydd cofnodi biolegol.

Er mwyn ymuno â’n tîm, e-bostiwch Wendy w.e.harris@ swansea.ac.uk neu dilynwch ni ar Twitter @CountBugs.

SU GWENYN AR GAMPWS Y BAE!

MAE’R HEN AIFFT YN MYND YN DDIGIDOL Diolch i Gronfa’r Angen Mwyaf, mae’r casgliadau hynod ddiddorol yng Nghanolfan Eifftaidd y Brifysgol wedi mynd yn ddigidol, gan ddod â miloedd o arteffactau a lluniau at Eifftolegwyr a phobl sy’n frwdfrydig dros yr Aifft o bedwar ban byd.Cafodd Dr Kenneth Griffin, Rheolwr Mynediad i Gasgliadau yn y Ganolfan Eifftaidd, £3,000 er mwyn creu catalog ar-lein newydd, a lansiwyd ym mis Hydref eleni. Tan y 1990au hwyr, gofalwyd am y casgliadau gan Adran y Clasuron a Hanes yr Henfyd, ond ar y cyfan nid oeddent ar agor i’r cyhoedd. Ym 1998, agorodd y Ganolfan Eifftaidd ei drysau, gan ddod â rhyfeddodau'r hen Aifft gerbron cynulleidfa lawer ehangach, gan gynnwys myfyrwyr, ymwelwyr a gwirfoddolwyr. Mae ehangu cyfranogaeth bob amser wedi bod yn egwyddor arweiniol ar gyfer y Ganolfan Eifftaidd, a daeth hyn i’r amlwg oherwydd y pandemig, a wnaeth orfodi’r Ganolfan i gau ei drysau i’r cyhoedd. Rhodd catalog digidol gyfle perffaith i sicrhau bod y hynafion yn aros ar gael i bawb, unrhyw le yn y byd. “I ddechrau, doedden ni ddim yn bwriadu rhyddhau’r catalog tan 2021”, meddai Dr Griffin. “Serch hynny, oherwydd pandemig parhaus Covid a’r amgueddfa’n aros ar gau i’r cyhoedd am y dyfodol rhagweladwy, rydyn ni wedi penderfynu bwrw ymlaen a’i lansio’n gynnar. Mae gan y catalog sawl llwybr thematig, sy’n galluogi ymwelwyr i gymryd taith rithwir o’r casgliad. Caiff nodweddion newydd eu hychwanegu’n fuan, gan alluogi defnyddwyr i greu eu llwybrau eu hun a myfyrwyr i guradu eu casgliad rhithwir eu hun.” Gwnaeth Sam Powell, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe ac yn wirfoddolwr yn y Ganolfan Eifftaidd, ddefnyddio ei phrofiad i ddylunio platfform penodol newydd er mwyn arddangos y casgliad amrywiol ar-lein. Ar hyn o bryd, mae 5,663 o eitemau a 9,882 o luniau yn y casgliad.Casglwyd mwyafrif yr eitemau gan y fferyllydd Syr Henry Wellcome a gwnaethant gyrraedd Abertawe ym 1971 fel rhan o’r gwaith o ddosbarthu ei gasgliad Eifftaidd. egyptcentre.abasetcollections.com

Diolch i Gronfa'r Angen Mwyaf, mae cartref newydd gan ddwy gytref gwenyn Campws y Bae.Mae'r gwenyn wedi cael eu symud o'u cartref blaenorol ar do Adeilad Dwyreiniol Peirianneg i leoliad newydd, mwy cysgodol o fewn y gwrych. Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi'r gr ^ wp 'Gwenyn Campws y Bae' i sefydlu cymuned newydd o ddarpar wenwynwyr brwdfrydig yn y Brifysgol. Bydd myfyrwyr a staff â diddordeb yn gallu cwblhau cwrs gwenynyddiaeth i ddysgu'r sylfeini ac yna gallant roi eu gwybodaeth newydd ar waith drwy ofalu am y cytrefi gwenyn. Mae system ryngweithiol newydd ar waith i fonitro tai’r gwenyn a bydd hon yn cynnig mewnwelediad hynod ddiddorol i ymddygiad a thwf y cytrefi yn y dyfodol. O ran y ddau gwch gwenyn, caiff y cwch glas tywyll ei fonitro’n barhaus, gan asesu’r lleithder y tu fewn a’r tu allan, yn ogystal â’r tymheredd, y pwysau a’r nifer o wenyn yn fras. Yn y cwch glas golau, dim ond y cyflyrau mewnol sy’n cael eu monitro ar hyn o bryd.Gall aelodau awyddus y gymuned ddefnyddio ap i ddiweddaru gwefan a rhannu data a lawrlwythir yn uniongyrchol o’r cychod gwenyn. Gellir gweld y data ar-lein yma.( bit.ly/2HVgycx Mae’r ddwy gytref bellach yn cael gorffwys am y gaeaf, a chyda phob lwc byddant yn dod allan eto yn y gwanwyn i dyfu i fod yn gytrefi sy’n cynhyrchu mêl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Capsiwn llun:Y cwch gwenyn glas tywyll gyda’i haenau rhyngweithiol arno, a’r cyfrifwr gwenyn ar y blaen. Wyddech chi mai Prifysgol Abertawe yw’r brifysgol gyntaf i gael ei chydnabod â dyfarniad statws Caru Gwenyn?Darllenwch ragor yma… swansea.ac.uk/science/news

Y cwch gwenyn glas tywyll gyda’i haenau rhyngweithiol arno, a’r cyfrifwr gwenyn ar y blaen.

PAM GWIRFODDOLI

Gwnaethom gwrdd â Sandeep Sesodia er mwyn dysgu rhagor am beth gwnaeth ei ysgogi i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli i gefnogi myfyrwyr yn Abertawe.

Rydw i wedi meddwl am y cwestiwn hwn yn aml. Beth yw’r diben neu’r budd? Beth mae'n ei olygu i mi?

Rydw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi meddwl yr un peth.Ac eto, rydyn ni i gyd yn gwirfoddoli, drwy’r amser. Os ydyn ni’n mynd am dro, yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol neu’n amlaf, roi amser ar gyfer achos neu elusen sy’n apelio atom ni, rydyn ni’n dewis cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn oherwydd, yn bennaf, rydyn ni’n eu mwynhau. Drwy wirfoddoli, rydyn ni’n dewis rhoi’r peth mwyaf gwerthfawr, sef amser. I fi, mae gwirfoddoli yn ei ystyr puraf yn weithred ddihunan, nid un am elw personol. Rydw i’n dewis rhoi’n ôl, helpu, a rhannu fy ngwybodaeth a’m profiadau er mwyn i bobl eraill allu dysgu ganddynt. Os bydda i’n gallu ysbrydoli pobl eraill, hwn yw’r peth mwyaf gwerth chweil, ond yn aml bydda i’n cael fy ysbrydoli gan y bobl o’m cwmpas a bydda i’n cael fy “moment o oleuni”. Drwy wirfoddoli, rydw i’n dysgu, yn gwella fy sgiliau cymdeithasol ac yn cwrdd â ffrindiau newydd. Fel rhan o dîm, rydw i’n dysgu gan safbwyntiau gwahanol ac yn myfyrio ar farnau, ffyrdd o fyw a gwerthoedd gwahanol:onid dyma wir hanfod bywyd?

Mae Sandeep yn cynnig ei amser drwy wirfoddoli’n rhithwir, gan helpu i dywys ac ysbrydoli myfyrwyr

Allech chi wneud gwahaniaeth? Ceisiwch wirfoddoli’n rhithwir. Mae ein cyfleoedd

gwirfoddoli byrdymor yn golygu y gallwch roi cymaint, neu gyn lleied, o amser ag y dymunwch. Drwy gydol eich taith wirfoddoli, bydd y tîm yma i ddarparu cymorth bryd bynnag a ble bynnag y bydd arnoch ei angen.

OS OES GENNYCH 5 MUNUD

Rhannwch lun o’ch amser ym Mhrifysgol Abertawe â chyn-fyfyrwyr a myfyrwyr ar SwanseaUniConnect

10 MUNUD 15 MUNUD 30 MUNUD 1 AWR

Rhannwch newyddion a’r diweddaraf am gyn-fyfyrwyr drwy eich sianelau yn y cyfryngau cymdeithasol

Bod neu beidio â bod....

Os ydyn ni’n mynd i fod, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth o’n bywydau a helpu’r bobl o’n cwmpas i wneud yr un peth. Mae pob dydd yn her newydd, gadarnhaol. Felly, rydw i’n ymgysylltu ac yn rhoi fy amser i’r gymuned fusnes ac i’m cymuned i. Uchafbwynt diweddar oedd gwirfoddoli i Brifysgol Abertawe. Roeddwn i’n gallu rhannu fy mhrofiad gyrfaol a’m dewisiadau gwaith â myfyrwyr llawn diddordeb a brwdfrydedd drwy drafodaethau rhyngweithiol, gan rannu fy mhrofiad a’m meddyliau ynghylch gwerth chwaraeon yn y Brifysgol. Roedd y gweithgareddau gwirfoddoli hyn mor hiraethus, a gwnaethant roi gwên (haerllug!) ar fy wyneb!

Gwnewch glip fideo byr am eich profiad fel myfyriwr israddedig ymMhrifysgol Abertawe drwy ddefnyddio eich ffôn gamera, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr.

Rhowch wybod inni lle rydych chi bellach drwy greu proffil gyrfa

Drwy wirfoddoli, rydw i’n gallu gwneud gwahaniaeth.

A Sgwrsiwch â myfyrwyr am eich profiadau gwaith a’ch dewisiadau gyrfaol

Sandeep Sesodia, Director, MGPS Commercial Ltd, BSc (Hons) Economics and Politics, 1982

FFURFLEN RHODD Eich Manylion

Enw Cyfeiriad Cartref E-bost Rhestrir rhoddwyr mewn cyhoeddiadau i’r dyfodol. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw gael ei gynnwys, ticiwch y blwch hwn. Rhif Ffôn Cartref Rhif Ffôn Symudol Coˆd Post Blwyddyn Graddio (os yw’n berthnasol)

Anfonwch wybodaeth am gofio’r Brifysgol yn fy ewyllys ataf. (Cydnabyddir gadael rhodd etifeddiaeth i Brifysgol Abertawe gydag aelodaeth i’r ‘Cylch Abaty 1920’)

Dyrannu

Datganiad Rhodd

Hoffwn i’m rhodd gael ei dyrannu i: Cronfa Goffa Hywel Teifi

• Gallwch ddiddymu’ch datganiad unrhyw bryd drwy hysbysu’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. • Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac os nad ydych yn talu’r swm gofynnol o dreth bellach, mae’n rhaid i chi ddiddymu’ch datganiad. • Rhowch wybod i’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr am unrhyw newidiadau yn eich enw a/neu’ch cyfeiriad tra bydd eich datganiad yn weithredol. Nodiadau ar Rodd Cymorth: Hoffwn i Brifysgol Abertawe ymdrin ag unrhyw roddion blaenorol (yn y pedair blynedd ddiwethaf), presennol neu yn y dyfodol gennyf, hyd y byddaf yn rhoi cyfarwyddiadau gwahanol, fel rhoddion o dan y Cynllun Rhodd Cymorth. Cadarnhaf fy mod yn talu trethi yn y DU ac, os byddaf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf na swm y Rhodd Cymorth a hawliwyd ar fy holl roddion yn y flwyddyn dreth honno, deallaf mai fi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw wahaniaeth. Llofnod Dyddiad Os ydych yn talu trethi yn y DU, mae pob £1 rydych yn ei rhoi drwy Rodd Cymorth yn werth £1.25 i’r Brifysgol heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llofnodi’r datganiad isod. Os ydych yn talu trethi ar y gyfradd uwch, gallwch hawlio gostyngiad trethi hefyd ar eich ffurflen hunanasesu trethi.

Rhagoriaeth Academaidd (Ysgoloriaethau) Yr Angen Mwyaf (Anghyfyngedig) Caledi Myfyrwyr Cerddoriaeth Ymchwil Meddygol Chwaraeon Arall (manylwch)

Rhoddion Unigol

Hoffwn wneud rhodd o: £120 £1,000

£5,000

Arall ______

Gallwch wneud eich rhodd drwy: Siec/Siec y Sefydliad Cymorth i Elusennau (CAF) – gwnewch y rhain yn daladwy i Prifysgol Abertawe Cerdyn Credyd/Debyd – gallwch wneud rhodd drwy gerdyn credyd/debyd ar-lein yn: abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr Cymhwysedd Cylchoedd Rhoi Prifysgol Abertawe: £5,000 y flwyddyn: Cylch y Canghellor £1,000 y flwyddyn: Cylch Terne £120 y flwyddyn: Cylch y Canmlwyddiant Gallwch hefyd wneud taliad uniongyrchol i Brifysgol Abertawe. Dyfynnwch:

Rhoddion Rheolaidd (Cyfrifon banc yn y DU yn unig)

Hoffwn wneud rhodd o £ ________________

Cwblhewch y cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol atodedig neu ewch i’n gwefan: abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr bob mis / chwarter / blwyddyn (dileu fel y bo’n briodol) gan ddechrau ar y 1af / 15fed ____ (mis) ____ (blwyddyn)

Lloyds Bank PO Box 66, Abertawe SA1 1HR

Côd Didoli: 30-95-46 Rhif y Cyfrif: 02783215 Cyfeirnod Mewnol: MKZ1011-100 1540 Côd Swift: LOYDGB21101 Rhif IBAN: GB64LOYD30954602783215 Rhowch wybod i’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr pan fyddwch wedi gwneud eich cyfraniad trwy drosglwyddiad banc.

Dychwelwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i:

Rydym yn cadw’ch data’n ddiogel: Mae’r holl ddata’n cael eu cadw’n ddiogel a chânt eu trin yn gyfrinachol. Gweler abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ cysylltugydani/polisi-preifatrwydd am ein datganiad llawn ynghylch diogelu

Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, Prifysgol Abertawe, Abaty Singleton, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP Ffoˆn: +44 (0)1792 295156 E-bost: alumni@abertawe.ac.uk Gwefan: abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr

data. Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig. Rhif 138342. Fersiwn SS2018

Cwblhewch y ffurflen gyfan â beiro, a’i dychwelyd i:

Cyfarwyddyd i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe Abaty Singleton Parc Singleton Abertawe SA2 8PP

9 3 0 4 4 6

AT DDEFNYDD SWYDDOGOL PRIFYSGOL ABERTAWE YN UNIG Nid yw’r adran hon yn rhan o’r cyfarwyddyd i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Enw _____________________________________________ Cyfeiriad ________________________________________ __________________________________________________ __________________________________________________ Coˆd Post ________________________ E-bost ________________________________________

Enw deiliad neu ddeiliaid y cyfrif

Rhif cyfrif banc/cymdeithas adeiladu

Hoffwn greu Debyd Uniongyrchol o bob mis /Chwarter / Blwyddyn:

Côd didoli’r gangen

£5

£10

£25 Arall ________

£50

£100

Debydwch fy nghyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu ar:

Enw a chyfeiriad post llawn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

1af

15ed

At sylw: Y Rheolwr

Banc/Cymdeithas Adeiladu

Cyfarwyddyd i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu Talwch Ddebydau Uniongyrchol Prifysgol Abertawe o’r cyfrif y manylir arno yn y Cyfarwyddyd hwn, yn amodol ar drefniadau diogelu’r Warant Debyd Uniongyrchol. Deallaf y gallai’r Cyfarwyddyd hwn aros gyda Phrifysgol Abertawe, ac os felly, caiff y manylion eu trosglwyddo’n electronig i’m banc/cymdeithas adeiladu.

Cyfeiriad

Coˆd Post

Llofnod (llofnodion)

Cyfeirnod

Dyddiad

P

R

I

F

Y

S

G

O

L

A

B

E

R

T

A

W

E

Y Warant Debyd Uniongyrchol Nodwch y wybodaeth bwysig ganlynol:

• Cynigir y Warant hon gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu debydau uniongyrchol. • Os bydd unrhyw newidiadau i swm, dyddiad neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Prifysgol Abertawe’n dweud wrthych 10 niwrnod gwaith cyn y tynnir arian o’ch cyfrif oni chytunwyd fel arall. Os gofynnwch i Brifysgol Abertawe gasglu taliad, cewch gadarnhad o’r swm a’r dyddiad adeg y cais. • Os gwneir camgymeriad wrth dalu’ch Debyd Uniongyrchol, gan Brifysgol Abertawe neu gan eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu, bydd gennych hawl i gael ad-daliad llawn ar unwaith o’r swm a dalwyd o’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. • Os byddwch yn derbyn addaliad nad oes gennych hawl iddo, bydd rhaid i chi ei ad-dalu ar gais Prifysgol Abertawe. • Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Cofiwch hefyd roi gwybod i ni. Mae’n bosibl na fydd banciau a chymdeithasau adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau debyd uniongyrchol ar gyfer rhai mathau o gyfrifon.

EIN CYMWYNASWYR

Gyda chefnogaeth ein rhoddwyr hael, rydym yn gallu mynd ati i ymchwilio darganfyddiadau meddygol posib; cynorthwyo myfyrwyr mewn argyfwng ariannol; ac ymateb i nifer o anghenion eraill wrth iddynt godi. Am eu haelioni, hoffem ddiolch i bob un o’n rhoddwyr.

CYLCH CANMLWYDDIANT yn cydnabod y rheiny sy’n rhoi o leiaf £120 y flwyddyn CYLCH TERNE yn cydnabod y rheiny sy’n rhoi o leiaf £1,000 y flwyddyn CYLCH Y CANGHELLOR yn cydnabod y rheiny sy’n rhoi o leiaf £5,000 y flwyddyn CYLCH 1920 yn cydnabod y rheiny sy’n addo rhoi rhodd i’r Brifysgol yn eu hewyllys

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook - Online magazine maker