Donor Report 2020 CYM

GRYMUSO PLANT YNG NGHYMRU Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn Ysgol y Gyfraith yn ceisio gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru, a bywydau’r rheini sy’n gofalu amdanynt, drwy ddarparu gwybodaeth am eu hawliau. Mae gwefan benodol yn cynnwys gwybodaeth am berthnasoedd, iechyd a lles, siopau a gwasanaethau, a phammae’r gyfraith yn wahanol yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Roedd yr Athro Simon Hoffman a’i dîm yn awyddus i wella hygyrchedd y cynnwys ar gyfer plant anabl a gofalwyr anabl, yn enwedig y rheini sydd â nam ar eu golwg neu ar eu clyw. Cafodd y Ganolfan Gyfreithiol i Blant £2,775 gan Gronfa’r Angen Mwyaf ar gyfer prosiect a arweinir gan fyfyrwyr sy’n cynhyrchu fersiynau sain o ddeunydd a ffeithluniau, yn ogystal â fideos byr yn Iaith Arwyddo Prydain (BSL) sy’n cyd-fynd â chynnwys sain a chynnwys gweledol. Drwy gymorth hael cyn-fyfyrwyr a chyfeillion, bydd yr adnodd hwn yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau plant a phobl ifanc anabl, a gofalwyr anabl yng Nghymru, gan eu helpu i wneud penderfyniadau deallus yn eu bywydau a’u grymuso i fynnu eu hawliau.

ARHOSWCH GARTREF A CHYFRI PRYFED Nod y prosiect Arhoswch Gartref a Chyfri Pryfed yw hybu staff a myfyrwyr (a’u ffrindiau a’u teuluoedd) i fynd allan i’r ardd ac i leoedd gwyrdd lleol yn ystod y cyfnod atal symud ac ar ôl hynny. Mae Dr Wendy Harris o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio gyda’r myfyriwr PhD Ben Clunie, yr entomolegydd lleol Liam Olds a Dr Mike Wilson, Prif Guradur Entomoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, er mwyn creu prosiect hygyrch ar gyfer cofnodwyr anifeiliaid di-asgwrn-cefn profiadol a’r rheini sydd newydd ddarganfod pleser nodi a chofnodi pryfed.Diolch i Gronfa’r Angen Mwyaf, maent wedi llwyddo creu cymuned o unigolion sydd o’r un meddylfryd ac yn awyddus i ddysgu a rhannu eu profiad. Mae dros 50 o gyfranogwyr wedi cwblhau dros 120 o arolygon o anifeiliaid di-asgwrn-cefn yr haf hwn.Bydd y data’n werthfawr dros ben ar gyfer deall mwy am sut mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn defnyddio ein gerddi a’n lleoedd dinesig.Hefyd, caiff ei rannu â chanolfannau cofnodi lleol, gan gyfrannu at y gronfa data genedlaethol a darparu deallusrwydd ynghylch newidiadau yn nosbarthiad rhywogaethau a lefelau poblogaethau, yn ogystal â helpu i fonitro colli bioamrywiaeth. Bydd cyrsiau hyfforddi’n hybu cyfranogwyr i ddysgu rhagor am adnabod anifeiliaid di-asgwrn-cefn, a rôl anifeiliaid di-asgwrn-cefn wrth gynnal a chadw ecosystem iach.Mae siaradwyr gwadd, gan gynnwys Andrew Lucas, cyn-fyfyriwr PhD yn Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe, wedi trafod ystod o bynciau o brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion, megis Helfa Gwlithod Seler y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), i rôl pryfed hofran fel peillwyr, a phwysigrwydd cofnodi biolegol.

Er mwyn ymuno â’n tîm, e-bostiwch Wendy w.e.harris@ swansea.ac.uk neu dilynwch ni ar Twitter @CountBugs.

Made with FlippingBook - Online magazine maker