Donor Report 2020 CYM

SU GWENYN AR GAMPWS Y BAE!

MAE’R HEN AIFFT YN MYND YN DDIGIDOL Diolch i Gronfa’r Angen Mwyaf, mae’r casgliadau hynod ddiddorol yng Nghanolfan Eifftaidd y Brifysgol wedi mynd yn ddigidol, gan ddod â miloedd o arteffactau a lluniau at Eifftolegwyr a phobl sy’n frwdfrydig dros yr Aifft o bedwar ban byd.Cafodd Dr Kenneth Griffin, Rheolwr Mynediad i Gasgliadau yn y Ganolfan Eifftaidd, £3,000 er mwyn creu catalog ar-lein newydd, a lansiwyd ym mis Hydref eleni. Tan y 1990au hwyr, gofalwyd am y casgliadau gan Adran y Clasuron a Hanes yr Henfyd, ond ar y cyfan nid oeddent ar agor i’r cyhoedd. Ym 1998, agorodd y Ganolfan Eifftaidd ei drysau, gan ddod â rhyfeddodau'r hen Aifft gerbron cynulleidfa lawer ehangach, gan gynnwys myfyrwyr, ymwelwyr a gwirfoddolwyr. Mae ehangu cyfranogaeth bob amser wedi bod yn egwyddor arweiniol ar gyfer y Ganolfan Eifftaidd, a daeth hyn i’r amlwg oherwydd y pandemig, a wnaeth orfodi’r Ganolfan i gau ei drysau i’r cyhoedd. Rhodd catalog digidol gyfle perffaith i sicrhau bod y hynafion yn aros ar gael i bawb, unrhyw le yn y byd. “I ddechrau, doedden ni ddim yn bwriadu rhyddhau’r catalog tan 2021”, meddai Dr Griffin. “Serch hynny, oherwydd pandemig parhaus Covid a’r amgueddfa’n aros ar gau i’r cyhoedd am y dyfodol rhagweladwy, rydyn ni wedi penderfynu bwrw ymlaen a’i lansio’n gynnar. Mae gan y catalog sawl llwybr thematig, sy’n galluogi ymwelwyr i gymryd taith rithwir o’r casgliad. Caiff nodweddion newydd eu hychwanegu’n fuan, gan alluogi defnyddwyr i greu eu llwybrau eu hun a myfyrwyr i guradu eu casgliad rhithwir eu hun.” Gwnaeth Sam Powell, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe ac yn wirfoddolwr yn y Ganolfan Eifftaidd, ddefnyddio ei phrofiad i ddylunio platfform penodol newydd er mwyn arddangos y casgliad amrywiol ar-lein. Ar hyn o bryd, mae 5,663 o eitemau a 9,882 o luniau yn y casgliad.Casglwyd mwyafrif yr eitemau gan y fferyllydd Syr Henry Wellcome a gwnaethant gyrraedd Abertawe ym 1971 fel rhan o’r gwaith o ddosbarthu ei gasgliad Eifftaidd. egyptcentre.abasetcollections.com

Diolch i Gronfa'r Angen Mwyaf, mae cartref newydd gan ddwy gytref gwenyn Campws y Bae.Mae'r gwenyn wedi cael eu symud o'u cartref blaenorol ar do Adeilad Dwyreiniol Peirianneg i leoliad newydd, mwy cysgodol o fewn y gwrych. Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi'r gr ^ wp 'Gwenyn Campws y Bae' i sefydlu cymuned newydd o ddarpar wenwynwyr brwdfrydig yn y Brifysgol. Bydd myfyrwyr a staff â diddordeb yn gallu cwblhau cwrs gwenynyddiaeth i ddysgu'r sylfeini ac yna gallant roi eu gwybodaeth newydd ar waith drwy ofalu am y cytrefi gwenyn. Mae system ryngweithiol newydd ar waith i fonitro tai’r gwenyn a bydd hon yn cynnig mewnwelediad hynod ddiddorol i ymddygiad a thwf y cytrefi yn y dyfodol. O ran y ddau gwch gwenyn, caiff y cwch glas tywyll ei fonitro’n barhaus, gan asesu’r lleithder y tu fewn a’r tu allan, yn ogystal â’r tymheredd, y pwysau a’r nifer o wenyn yn fras. Yn y cwch glas golau, dim ond y cyflyrau mewnol sy’n cael eu monitro ar hyn o bryd.Gall aelodau awyddus y gymuned ddefnyddio ap i ddiweddaru gwefan a rhannu data a lawrlwythir yn uniongyrchol o’r cychod gwenyn. Gellir gweld y data ar-lein yma.( bit.ly/2HVgycx Mae’r ddwy gytref bellach yn cael gorffwys am y gaeaf, a chyda phob lwc byddant yn dod allan eto yn y gwanwyn i dyfu i fod yn gytrefi sy’n cynhyrchu mêl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Capsiwn llun:Y cwch gwenyn glas tywyll gyda’i haenau rhyngweithiol arno, a’r cyfrifwr gwenyn ar y blaen. Wyddech chi mai Prifysgol Abertawe yw’r brifysgol gyntaf i gael ei chydnabod â dyfarniad statws Caru Gwenyn?Darllenwch ragor yma… swansea.ac.uk/science/news

Y cwch gwenyn glas tywyll gyda’i haenau rhyngweithiol arno, a’r cyfrifwr gwenyn ar y blaen.

Made with FlippingBook - Online magazine maker