PAM GWIRFODDOLI
Gwnaethom gwrdd â Sandeep Sesodia er mwyn dysgu rhagor am beth gwnaeth ei ysgogi i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli i gefnogi myfyrwyr yn Abertawe.
Rydw i wedi meddwl am y cwestiwn hwn yn aml. Beth yw’r diben neu’r budd? Beth mae'n ei olygu i mi?
Rydw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi meddwl yr un peth.Ac eto, rydyn ni i gyd yn gwirfoddoli, drwy’r amser. Os ydyn ni’n mynd am dro, yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol neu’n amlaf, roi amser ar gyfer achos neu elusen sy’n apelio atom ni, rydyn ni’n dewis cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn oherwydd, yn bennaf, rydyn ni’n eu mwynhau. Drwy wirfoddoli, rydyn ni’n dewis rhoi’r peth mwyaf gwerthfawr, sef amser. I fi, mae gwirfoddoli yn ei ystyr puraf yn weithred ddihunan, nid un am elw personol. Rydw i’n dewis rhoi’n ôl, helpu, a rhannu fy ngwybodaeth a’m profiadau er mwyn i bobl eraill allu dysgu ganddynt. Os bydda i’n gallu ysbrydoli pobl eraill, hwn yw’r peth mwyaf gwerth chweil, ond yn aml bydda i’n cael fy ysbrydoli gan y bobl o’m cwmpas a bydda i’n cael fy “moment o oleuni”. Drwy wirfoddoli, rydw i’n dysgu, yn gwella fy sgiliau cymdeithasol ac yn cwrdd â ffrindiau newydd. Fel rhan o dîm, rydw i’n dysgu gan safbwyntiau gwahanol ac yn myfyrio ar farnau, ffyrdd o fyw a gwerthoedd gwahanol:onid dyma wir hanfod bywyd?
Mae Sandeep yn cynnig ei amser drwy wirfoddoli’n rhithwir, gan helpu i dywys ac ysbrydoli myfyrwyr
Allech chi wneud gwahaniaeth? Ceisiwch wirfoddoli’n rhithwir. Mae ein cyfleoedd
gwirfoddoli byrdymor yn golygu y gallwch roi cymaint, neu gyn lleied, o amser ag y dymunwch. Drwy gydol eich taith wirfoddoli, bydd y tîm yma i ddarparu cymorth bryd bynnag a ble bynnag y bydd arnoch ei angen.
OS OES GENNYCH 5 MUNUD
Rhannwch lun o’ch amser ym Mhrifysgol Abertawe â chyn-fyfyrwyr a myfyrwyr ar SwanseaUniConnect
10 MUNUD 15 MUNUD 30 MUNUD 1 AWR
Rhannwch newyddion a’r diweddaraf am gyn-fyfyrwyr drwy eich sianelau yn y cyfryngau cymdeithasol
Bod neu beidio â bod....
Os ydyn ni’n mynd i fod, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth o’n bywydau a helpu’r bobl o’n cwmpas i wneud yr un peth. Mae pob dydd yn her newydd, gadarnhaol. Felly, rydw i’n ymgysylltu ac yn rhoi fy amser i’r gymuned fusnes ac i’m cymuned i. Uchafbwynt diweddar oedd gwirfoddoli i Brifysgol Abertawe. Roeddwn i’n gallu rhannu fy mhrofiad gyrfaol a’m dewisiadau gwaith â myfyrwyr llawn diddordeb a brwdfrydedd drwy drafodaethau rhyngweithiol, gan rannu fy mhrofiad a’m meddyliau ynghylch gwerth chwaraeon yn y Brifysgol. Roedd y gweithgareddau gwirfoddoli hyn mor hiraethus, a gwnaethant roi gwên (haerllug!) ar fy wyneb!
Gwnewch glip fideo byr am eich profiad fel myfyriwr israddedig ymMhrifysgol Abertawe drwy ddefnyddio eich ffôn gamera, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr.
Rhowch wybod inni lle rydych chi bellach drwy greu proffil gyrfa
Drwy wirfoddoli, rydw i’n gallu gwneud gwahaniaeth.
A Sgwrsiwch â myfyrwyr am eich profiadau gwaith a’ch dewisiadau gyrfaol
Sandeep Sesodia, Director, MGPS Commercial Ltd, BSc (Hons) Economics and Politics, 1982
Made with FlippingBook - Online magazine maker