Donor Report 2020 CYM

CROESO Annwyl gyn-fyfyrwyr a chyfeillion,

Yn ogystal â’n gweithgaredd sy’n ymwneud â Covid-19, mae ymchwilwyr a staff ein Prifysgol wedi parhau i ganolbwyntio ar heriau mawr, mwy hirdymor ein byd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhoddion gan gyn- fyfyrwyr a chyfeillion wedi cefnogi nifer o brosiectau sy’n ymdrin â rhai o broblemau mwyaf cymhleth y byd, megis colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd, a gwella cysylltiadau hiliol. Mae rhai o’r prosiectau gwych hyn wedi’u cynnwys yma hefyd. Yn olaf, hoffwn ddiolch o galon i’n gwirfoddolwyr. Maent wedi rhoi amser sy’n werthfawr dros ben, yn enwedig i’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr ifanc y mae nifer ohonynt wedi elwa’n aruthrol o’r gefnogaeth hon yn ystod cyfnod mor anodd. Gobeithiaf, er enghraifft, y cewch eich ysbrydoli fel y gwnes i, gan dystlythyr ein gwirfoddolwr a chyn-fyfyriwr a raddiodd ym 1982, Sandeep. Diolch eto am eich cefnogaeth wych, sydd wedi bod mor hanfodol i ni eleni. Gobeithiwn yn fawr y gallwn weld nifer ohonoch eto yn fuan ac yn y cyfamser, gobeithiaf y byddwch chi a’ch teuluoedd yn cadw’n ddiogel ac yn iach

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anhygoel i bawb. Mae cychwyniad pandemig byd-eang, a’i effeithiau parhaus a deimlir ledled y byd ac ar gymaint o agweddau o’n bywydau, wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio gyda’n gilydd. Rydym ni, fel sawl sefydliad arall, wedi dibynnu’n fawr ar nerth ein cysylltiadau wrth i ni addasu i’n byd newydd, mwy rhithwir. Yn ystod blwyddyn ein canmlwyddiant, mae wedi bod yn ddefnyddiol gallu edrych yn ôl ar dros ganrif o hanes ein gwydnwch yn wyneb adfyd. Er gwaetha’r heriau, rwy’n hynod falch o gymuned Prifysgol Abertawe a’n hymateb ni i ddigwyddiadau 2020. Mae ein safle fel sefydliad ymchwil arweiniol wedi ein galluogi i gefnogi ymatebion cenedlaethol a rhyngwladol i Covid-19, o archwilio triniaethau meddygol newydd, i ddarparu tystiolaeth a deallusrwydd sy’n hysbysu polisïau ac yn mynd i’r afael ag effeithiau’r feirws ar ein cymdeithas. Rwyf yr un mor falch, o’n rhwydwaith gwych o gyn- fyfyrwyr a chefnogwyr, sydd wedi bod mor hael eu cefnogaeth, yn foesol ac yn ariannol, i waith y Brifysgol, ac rwy’n falch o allu rhannu cipolwg o’r gwaith hwnnw gyda chi yma. Mae hi wedi bod yn ysbrydoledig i weld yr holl ffyrdd y mae pobl wedi dod at ei gilydd i ymateb yn gadarnhaol a gyda phwrpas, ar lefel unigol ac ar y cyd. Mae eich rhoddion a’ch cefnogaeth chi yn rhan allweddol o’r ymdrechion hynny, wrth gyllido gwaith na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall, a helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr mwyaf bregus yn derbyn cefnogaeth y Gronfa Galedi Myfyrwyr.

Yr Athro Paul Boyle Is-ganghellor

Made with FlippingBook - Online magazine maker