Donor Report 2020 CYM

plaid eu hun mewn cymhariaeth â’r blaid arall. Y rheswm dros hyn, yn rhannol, oedd ymddiried yn eich grŵp eich hun ac anymddiried ym mhobl y tu allan i’r grŵp. Yn bwysicach fyth, gwnaethant ddangos bod y cyhoedd yn cefnogi’r polisïau a gynigir gan arbenigwyr ac yn ymddiried ynddynt yn fwy nag y maent yn ymddiried ym mholisïau a gynigir gan y blaid o’u dewis. Mae hwn yn ganfyddiad pwysig,” meddai Dr Jiga-Boy, “oherwydd ei fod yn gwrthddweud y gred boblogaidd bod y cyhoedd cyffredinol ‘wedi cael digon ar arbenigwyr’. Mewn gwirionedd, yn ystod adegau o argyfwng fel hyn, mae’n dangos efallai y bydd y “Ymdrech anhygoel gan y gr ^ wp yw’r prosiect hwn, ar y cyd â chydweithwyr o brifysgolion ledled y byd,” meddai Dr Jiga-Boy.“Derbyniais £3,672 gan Gronfa’r Angen Mwyaf Prifysgol Abertawe, y gwnaethom ei ddefnyddio ym mis Ebrill 2020 er mwyn talu cyfranogwyr ar gyfer un arbrawf a gynhaliwyd yn yr UD 1 a dwy astudiaeth yn y DU 2 .Cafodd y protocol, y deunyddiau a’r cynllun dadansoddi data eu cofrestru ymlaen llaw cyn casglu’r data 3 a chaiff yr erthygl gyntaf ei chyflwyno’n fuan er mwyn cael ei hadolygu gan gymheiriaid. cyhoedd wedi ‘cael digon’ ar wleidyddiaeth a gwleidyddion pleidiol yn hytrach. “Roedd y cyllid hwn yn hanfodol ar gyfer ein galluogi i gasglu data mewn cyfnod mor fyr.Fel arfer, bydd yn cymryd llawer o amser, ymdrech ac arian i recriwtio samplau o gyfranogwyr sy’n ddigon mawr.Mae natur brys a byrhoedlog y pandemig hwn wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwaith, ac ni allen ni fod wedi casglu data o ansawdd cystal heb gymorth gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion a gefnogodd Gronfa’r Angen Mwyaf.Yn syml, gwnaeth y gronfa ein galluogi i wneud cymaint dros gyfnod mor fyr.Mewn byd delfrydol, byddai angen y math hwn o gymorth ar unrhyw ymchwilydd er mwyn cynyddu gwybodaeth.Rydym ni’n ddiolchgar o gael y cymorth hwn ar yr adeg hon.”

YMATEBION RHAG-GYMDEITHASOL I COVID-19 Ym mis Mawrth 2020, gwnaeth rhoddion gan gyn-fyfyrwyr alluogi Dr Gabriela Jiga-Boy i gychwyn prosiect ynghylch ‘meithrin ymatebion rhag-gymdeithasol i bandemig Covid-19’, gan gyfuno seicoleg gymdeithasol a gwyddor wleidyddol. Mae llawer o bynciau wedi’u polareiddio yn ôl safbwyntiau pleidiau: mae’r ‘effaith plaid cyn polisi’ yn dangos y bydd safbwyntiau pobl o ran pleidiau gwleidyddol yn eu gwneud yn fwy tebygol o gefnogi polisïau a gynigir gan y blaid honno mewn cymhariaeth â’r un polisi a gynigir gan yr wrthblaid. Er enghraifft, yn yr UD o leiaf, bydd pobl yn fwy tebygol o gymeradwyo polisi ynghylch y newid yn yr hinsawdd os caiff ei gynnig gan eu plaid eu hun, er gallai’r polisi fod o fudd i’r gymdeithas gyfan. Mae’r effaith hon yn gallu bod yn niweidiol o ran y cyhoedd yn cydymffurfio ag argymhellion i reoli pandemig Covid-19. Roedd Dr Jiga-Boy a’i chydweithredwyr am ddysgu a oedd ymateb y cyhoedd i bandemig Covid-19 yn y DU a’r UD yn fater pleidiol: a yw pobl yn fwy tebygol o gefnogi’r argymhellion pan ddaw’r rhain gan wleidyddion y maent eisoes o’u plaid, yn wahanol i’r blaid arall. Gwnaeth y canlyniadau gadarnhau’r rhagfynegiad hwn: roedd pleidleiswyr y Democratiaid / Llafur a’r Gweriniaethwyr / Ceidwadwyr yn cefnogi polisi er mwyn lleddfu Covid-19 pan roedd yn dod o’u

1 (N = 2000, CPrime Panels gan Cloud Research) 2 (N = ~1000 yr un, Prolific Academic) 3 https://osf.io/75h3p

Made with FlippingBook - Online magazine maker