COPTER: ASTUDIAETH COFRESTRU MYNEDIAD EHANGEDIG THERAPI PLASMA YMADFER COVID-19 Dyfarnwyd grant gwerth £2,000 gan gronfa ymateb brys i'r coronafeirws a ariennir gan gyn-fyfyrwyr i'r Athro Greg Fegan i'w alluogi i wneud gwaith paratoadol ar astudiaeth o effeithiau posib defnyddio 'plasma ymadferol' i drin cleifion â Covid-19 difrifol. Plasma gwaed yw hwn a roddwyd gan gleifion sydd wedi gwella yn sgil cadarnhad bod haint SARS-CoV 2 ganddynt, a allai gynnwys gwrthgyrff amddiffynnol. Mae'r gwaith yn golygu addasu’r system casglu data a ddefnyddiwyd mewn astudiaeth ar raddfa fawr yn yr UD gan glinigau MAYO i gasglu data ar gyfer cofrestrfa yng Nghymru a fydd yn helpu gwyddonwyr i ddeall yn well a allai therapi plasma ymadferol wella canlyniadau ar gyfer cleifion ac os felly, sut. Gwneir y gwaith hwn mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwaed Cymru ac imiwnolegwyr yn Ysbyty Prifysgol Cymru sy'n arwain y gwaith.
GWAITH NODI A DATBLYGU TRINIAETHAU
NEWYDD AR GYFER HEINTIAU FEIRWS, A GYNORTHWYIR GAN GYFRIFIADURON Mae grant gan Gronfa Ymateb Brys i’r Coronafeirws yn galluogi Marcella Bassetto, sy’n ddarlithydd yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, i ddod o hyd i driniaethau newydd a allai helpu i atal canlyniadau marwol y coronafeirws. Mae gan goronafeirysau dynol hynod bathogenig, gan gynnwys SARS-CoV, MERS-CoV a SARS-CoV-2, y gallu i achosi i’n systemau imiwnedd or-ymateb, sy’n arwain at lidio difrifol yn yr ysgyfaint a niwmonia difrifol, sy’n gyfrifol am gyfraddau marwolaeth uchel. Caiff yr ymateb ei sbarduno gan ryngweithiad rhwng protein coronafeirws a phrotein dynol, sy’n achos allweddol y broses lidio. Nod y prosiect yw dod o hyd i weithredwyr y gallent atal canlyniadau marwol y coronafeirysau hyn, a choronafeirysau newydd y gallent ddod i’r amlwg yn y dyfodol. Defnyddir technegau a gynorthwyir gan gyfrifiaduron, fel docio protein- protein, deinameg foleciwlaidd a sgrinio llyfrgell o gyffuriau masnachol presennol yn rhithwir, er mwyn nodi atalwyr y rhyngweithio rhwng y proteinau. Diolch i’r cymorth gan gyn-fyfyrwyr, caiff y ‘llwyddiannau’ rhithwir gorau a nodir eu prynu a’u gwerthuso er mwyn asesu eu gallu i atal y symptomau difrifol a achosir gan goronafeirysau rhag datblygu.
Made with FlippingBook - Online magazine maker