Yn ystod fy mlwyddyn olaf,
roeddwn i’n wynebu’r posibilrwydd y byddwn i’n ddigartref ar ôl cwblhau fy astudiaethau.Roedd y straen a’r gofid yn dechrau cael effaith negyddol ar fy ngwaith paratoi ar gyfer arholiadau.Gwnaeth y bwrsariaethau a’r cyllid ychwanegol fy ngalluogi i ddatrys fy mhroblemau llety ac ymdrechu’n galetach ar gyfer fy arholiadau.
Myfyriwr yn ei flwyddyn olaf sydd wedi ymddieithrio
CALEDI MYFYRWYR YN YSTOD Y PANDEMIG Wrth i bob blwyddyn fynd heibio, mae heriau newydd a datblygol yn ymddangos ger ein bron y mae’n rhaid inni eu datrys gyda’n gilydd.Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn hynod heriol, gydag effaith pandemig y coronafeirws yn cael ei theimlo ym mhopeth yr ydym yn ei wneud ac ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Gronfa Caledi Myfyrwyr yn hanfodol, nawr yn fwy nag erioed, er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr mwyaf bregus.Mae’n darparu cymorth ariannol hanfodol ac ar frys i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser nad oes ganddynt unman arall i fynd.Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, gofalwyr, a myfyrwyr nad oes ganddynt riant sy’n byw. Eleni, mae’r galw am ein gwasanaethau wedi cynyddu y tu hwnt i bob rhagolwg. Mae’r caredigrwydd a’r cydymdeimlad yr ydym yn eu gwerthfawrogi cymaint yn ein cymuned ymMhrifysgol Abertawe wedi bod mor bwysig yn ystod y misoedd diwethaf.Mae’r arian a roddwyd gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion wedi ein galluogi i ddarparu cymorth yn syth i lawer o fyfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol ar yr adeg
hon – y mae llawer ohonynt yn teimlo effaith negyddol Covid-19.
Hefyd, mae’r Gronfa Caledi Myfyrwyr wedi darparu Pecynnau Croeso wedi’u llenwi ag ystod o eitemau cartrefol defnyddiol, megis dillad gwely, llestri cegin a nwyddau glanhau, ar gyfer y myfyrwyr nad ydynt yn gallu gofyn am gymorth gan eu teuluoedd. Mae’r ddarpariaeth bwrsariaethau ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal, a gofalwyr, wedi cael ei chynyddu ar gyfer 2020/21, ac mae ein Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio, sydd wedi cael ei chyflwyno am y tro cyntaf, gan ddarparu cymorth ariannol y mae gwir angen amdano i fyfyrwyr sydd heb deulu i’w cefnogi. Gyda’ch cymorth chi, ac er gwaethaf gorfod symud ein gwasanaethau ar-lein, rydym yn parhau i gynnig cymorth i ystod helaeth o fyfyrwyr, o’r rheini sy’n gadael gartref am y tro cyntaf, neu’r rheini sy’n gorfod aros gartref, i’r rheini sy’n byw yn lleol sydd â’u teuluoedd ifanc eu hunain. ”Mae eich rhoddion yn cefnogi ein hymrwymiad parhaus i fyfyrwyr ymMhrifysgol Abertawe sydd dan anfantais. Diolch eto am eich haelioni a’ch ystyrioldeb.” - Alison Maguire, Rheolwr Arian@BywydCampws
Made with FlippingBook - Online magazine maker