Donor Report 2020 CYM

CYMORTH RHENG- FLAEN I FYFYRWYR Mae gweld dros fil o’n myfyrwyr meddygol a gofal iechyd yn gwirfoddoli yn ystod pandemig Covid-19 wedi bod yn foment balch i’r Brifysgol: • Cafodd myfyrwyr meddygol yn eu blwyddyn olaf eu sefydlu fel meddygon ar ôl i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gynnig eu cofrestru’n gynnar dros dro.

Mae prifysgolion ledled y DU, fel Prifysgol Abertawe, yn gwneud gwaith bendigedig i gyfrannu at ymdrechion y DU i fynd i’r afael â phandemig Covid-19, felly rydym wrth ein boddau’n parhau i gefnogi myfyrwyr a chymunedau lleol yn ystod y cyfnod critigol hwn.

Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander

Anfonwyd 662 o’n myfyrwyr nyrsio i weithio i’r byrddau iechyd. Gwnaeth pob myfyriwr bydwreigiaeth yn ei flwyddyn olaf gynorthwyo bydwragedd cymwysedig. Gwnaeth dros gant o’n myfyrwyr parameddygol gofrestru i weithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Rydym yn hynod falch o’n holl fyfyrwyr.Mae ar y byd angen pobl alluog a gofalgar fel y rheini.Maen nhwwedi dangos cryfder mawr, gwytnwch a dewrder hyd yn oed, drwy gefnogi ein GIG ar adeg mor unigryw – adeg a allai fod yn beryglus. Yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe Rydym ni’n falch dros ben o’r ymroddiad a’r aberth y mae llawer o’n myfyrwyr yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd wedi’u gwneud wrth gefnogi’r GIG yn ystod y pandemig.Maen nhw’n glod i’w hunain, i’r Coleg ac i’r Brifysgol. Yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Roeddem am wneud yn si ^ wr bod ein myfyrwyr yn gwybod yn union faint rydym yn edmygu eu gwaith arwrol, ac mae hi wedi bod yn bosibl inni wneud hyn diolch i rodd hael gwerth £27,500 gan fenter Prifysgolion Santander. Mae pob myfyriwr wedi derbyn cerdyn arbennig a ddyluniwyd gan That MumMoment, a oedd yn diolch iddynt am yr ymroddiad a’r aberthau y maent wedi eu gwneud eleni.Hefyd, maent wedi derbyn taleb gwerth £24.50 i’w gwario mewn un o chwe busnes lleol - The Gower Coffee Company, Arthur Neave Café and Deli, Fulton Outfitters, Natur Cymru Organic Skincare, Castell Howell a Joe’s Ice Cream. Rydym mor falch y bydd y gwobrau hyn yn helpu i roi arian yn ôl yn yr economi leol a chefnogi ein busnesau lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac unwaith eto hoffem ddiolch i’n myfyrwyr am weithio’n ddiflino i gefnogi’r GIG – rydym yn falch iawn o’u galw’n arwyr i ni.

Made with FlippingBook - Online magazine maker