Donor Report 2020 CYM

CEFNOGI’R MEYSYDD Â’R ANGEN MWYAF

Rydym wrth ein boddau’n agor Cronfa’r Angen Mwyaf ar gyfer ceisiadau eleni am y tro cyntaf ers inni ddechrau codi arian yn 2017. Mae’r gronfa hanfodol hon yn cefnogi ystod o brosiectau hynod werthfawr y gallent wedi bod yn anodd eu hariannu oni bai am haelioni bendigedig ein cyn-fyfyrwyr a’n cyfeillion. Rhwng y 31 o geisiadau o’r Brifysgol gyfan y’u haseswyd gan banel* gyda’r Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Martin Stringer yn y gadair, roedd 12 yn llwyddiannus a chawsant gyllid gwerth rhwng £672 a £3,672. O ddigideiddio’r catalog o gasgliadau yn y Ganolfan Eifftaidd, i wella mynediad i wybodaeth ar gyfer plant anabl a gofalwyr, gallwch ddarllen rhagor am rai o’r prosiectau hyn sy’n llawn ysbrydoliaeth, yn y tudalennau canlynol. Hefyd, byddwn yn rhoi’r diweddaraf ichi ynghylch y prosiectau hyn a rhai eraill yn y dyfodol drwy ein cylchlythyron electronig, gan gynnwys:

Hunanddatgelu gan fyfyrwyr ar gyfer y rheini sy’n profi trais rhywiol

• • • •

Hwyluso Sgyrsiau am Hil

Clybiau ysgrifennu creadigol ar ôl ysgol ar gyfer ysgolion cynradd Abertawe

Parth Plant Townhill

Yr Oriel Celf Rithwir

*Am ragor o wybodaeth am y prosiectau a ariennir, am gyfansoddiad y panel, neu os hoffech fod yn aelod o’r panel y flwyddyn nesaf, e-bostiwch Bill Saunders ar w.saunders@swansea.ac.uk

Made with FlippingBook - Online magazine maker