SEREMONÏAU SIFIL YNG NGHAERDYDD
Castell Caerdydd (Wedi’i drwyddedu ar gyfer Seremonïau Sifil)
Neuadd y Ddinas, Caerdydd (Wedi’i drwyddedu ar gyfer Seremonïau Sifil) Neuadd y Ddinas yw canolbwynt un o’r canolfannau dinesig gorau’r byd yng nghanol ardal ag adeiladau, gerddi a rhodfeydd eang, mawreddog. Yn y lleoliad trawiadol hwn y mae ystafelloedd urddasol o bob maint a disgrifiad, y gellir eu haddasu ar gyfer eich priodas chi, ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich seremoni. Yma, gallwch ddathlu mewn steil go iawn. Neuadd y Ddinas, Canolfan Ddinesig Caerdydd, Caerdydd Ffôn: 029 2087 1736 Gwefan: www.cardiffcityhall.com/cymraeg
Y Plasty (Wedi’i drwyddedu ar gyfer Seremonïau Sifil)
Os ydych yn chwilio am leoliad eiconig heb ei ail i gynnal eich priodas, yna does dim rhaid i chi chwilio ymhellach na Chastell Caerdydd. Mae’r adeilad mawreddog hwn yng nghalon canol y ddinas yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd i fod yn llwyfan i ddiwrnod mwyaf bythgofiadwy eich bywyd. Mae’r tiroedd bendigedig yn gefndir perffaith i’ch lluniau hefyd. Gyda phecynnau priodas wedi’u teilwra i chi, mae gan Gastell Caerdydd rywbeth at ddant pawb.
Y Plasty preifat ac arbennig hwn, gyda’i erddi lliwgar a’i ystafelloedd crand, yw un o’r lleoliadau priodas â’r galw mwyaf amdano yng Nghymru. Gallwch chi a’ch gwesteion fwynhau moethusrwydd t yˆ preifat crand, lleoliad godidog lle mae’r bwyd a’r lleoliad arbennig yn siwˆ r o roi diwrnod i’w gofio i chi a’ch gwesteion.
Y Plasty, Richmond Road, Caerdydd Ffôn: 029 2087 1736 Gwefan: www.mansionhousecardiff.co.uk/cy/cartref/
Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd Ffôn: 029 2087 8100 Gwefan: www.castell-caerdydd.com
12
Made with FlippingBook - Online Brochure Maker