Civil Ceremonies in Cardiff.indd

SEREMONÏAU SIFIL YNG NGHAERDYDD

Images, Sacha Miller

Priodasau A Seremoniau Yng Nghaerdydd Caerdydd yw prifddinas Cymru. Beth bynnag yw’r achlysur, beth bynnag yw eich steil, mae gan Gaerdydd rywbeth sy’n addas i bawb, o gestyll hanesyddol i leoliadau mwy cartrefol, a phopeth arall rhyngddynt. Os ydych yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil, adnewyddu eich addunedau, croesawu plentyn i’r teulu neu os ydych eisiau seremoni am unrhyw reswm arall, byddwch yn dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch yma yng Nghaerdydd.

Eich Arweiniad I Seremoniau Yng Nghaerdydd Trwy ddewis priodi neu gynnal partneriaeth sifil ym mhrifddinas Cymru rydych chi eisoes wedi gwneud penderfyniad rhagorol a chofiwch nid oes rhaid o reidrwydd i chi fyw yng Nghaerdydd i gynnal eich seremoni yma. Ni wath os bydd eich seremoni yn ein swyddfa gofrestru yng nghanol y ddinas, mewn un o’n hadeiladau cymeradwy neu mewn eglwys neu adeilad crefyddol arall, bydd y tudalennau hyn yn gweithredu fel arweiniad i’r trefniadau y bydd eu hangen arnoch o bosibl ac i rai o’r ffurfioldebau sy’n ofynnol. Rydym yn cydnabod bod eich priodas neu eich partneriaeth sifil yn achlysur unigryw ac arbennig ac rydym yma i’ch helpu i sicrhau ei fod yn ddiwrnod i’w gofio. Beth bynnag yw eich trefniadau, beth bynnag yw eich dewis rydym yma i sicrhau bod eich seremoni yn ateb eich anghenion, ac, yr un mor bwysig, y caiff ei gynnal yn unol â’r gyfraith.

Rydym yn haeddiannol falch o’r croeso a’r gwasanaeth proffesiynol rydym yn ei ddarparu.

2

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker