SEREMONÏAU SIFIL YNG NGHAERDYDD
Images, Sacha Miller
Ardal Gofrestru Caerdydd
Lleolir Gwasanaeth Cofrestru Caerdydd yn Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd. Agorwyd Neuadd y Ddinas, sydd â golygfa allanol wedi’i gerfio o garreg Portland ac adeiladwyd yn arddull y Dadeni Dysg, ym 1906, flwyddyn ar ôl i Gaerdydd gael statws dinas. Dyma un o ganolfannau ddiensig gorau a godidog y DU mewn ardal llawn gerddi mawreddog a rhodfeydd eang.
Yr un lleiaf o’r ddwy ystafell yw Ystafell Santes Dwynwen, sydd wedi’i haddurno’n hyfryd ac yn cynnig seremoni syml, cerddoriaeth glasurol, eil fach a seddau i hyd at 10 o westeion. Mae’n ddrwg gennym, ond nid yw’n bosibl ysgrifennu eich addunedau eich hunain ar gyfer seremoni yn yr ystafell hon. Fodd bynnag, os hoffech gael mwy o westeion, dewis o addunedau, cerddoriaeth a darlleniadau, mae gennym Ystafell Dewi Sant gyda’i waliau paneli coeth, canhwyllyron, seddau i hyd at 50 o westeion, eil er mwyn cyrraedd mewn ffordd drawiadol a digon o olau o’r ffenestri godidog. Cofiwch fod rhaid i unrhyw ddarlleniadau a cherddoriaeth beidio â bod yn grefyddol. Mae’n ddrwg gennym, ond nid yw’n bosibl ysgrifennu eich addunedau eich hunain ar gyfer seremoni yn yr ystafell hon.
Yma yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd mae gennym ddewis o ystafelloedd seremonïau sydd ar gael ar gyfer dathlu priodasau a phartneriaethau sifil.
Ar gyfer seremoni syml sy’n cynnwys yr addunedau cyfreithiol a chyfnewid modrwyon yn unig gyda 2 westai’n dystion, gallwch ddewis Ystafell y Swyddfa Gofrestru. Mae’r seremoni hon ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau am 10am ac am 10:30am.
Rydym hefyd yn cynnig Lolfa Dewi Sant sy’n cynnwys 2 ystafell seremonïau hyfryd ar flaen Neuadd y Ddinas, yn edrych allan dros y lawntiau.
4
Made with FlippingBook - Online Brochure Maker