EIN TÎM PROFIAD MYFYRWYR
Yn yr Ysgol Reolaeth, mae ein rhwydwaith cymorth yn mynd y tu hwnt i’n darlithwyr a’n tiwtoriaid. Mae ein Tîm Profiad Myfyrwyr yma i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau ac i helpu i wneud yn siwr eich bod yn cael y profiad gorau posibl i fyfyriwr. Mae gan y tîm lawer o brofiad wrth gefnogi myfyrwyr ac mae bob amser yno pan fydd arnoch ei angen. Cewch fynd ato ar gyfer: •eich holl anghenion lles a rhai bugeiliol •cymorth wrth ymsefydlu a dod yn rhan o’n cymuned yn yr Ysgol Reolaeth •gwaith ymgysylltu â myfyrwyr a chyfleoedd i ddefnyddio’ch llais fel myfyriwr
C: Sut gallaf gael y gorau o’m hamser yn Abertawe? A: Manteisiwch ar bopeth sydd ar gael! Gwasanaethau academaidd a chymorth, cymdeithasau a thimau chwaraeon, digwyddiadau cymdeithasol a darlithoedd gwadd, cyngor ar yrfaoedd a chymorth lles - mae cyfleoedd helaeth y tu hwnt i’r darlithoedd sydd ar eich amserlen! C: Rydw i’n cael amser ychwanegol ar gyfer arholiadau yn yr ysgol (e.e. oherwydd dyslecsia, ADHD) - a fydda i’n cael hwn yn y Brifysgol? A: Gallwn ni wneud pob math o drefniadau ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol, ond nid yw’n awtomatig. Siaradwch â Swyddog Profiad Myfyrwyr a’r Swyddfa Anabledd am gymorth gyda’r broses o roi addasiadau ar waith. C: Beth os bydda i’n hwyr gyda’m gwaith? A: Os ydych chi’n cael trafferth gyda modiwl, os oes gennych broblemau iechyd neu broblemau personol, neu os ydych chi’n cael trafferth wrth reoli eich amser, mae cymorth ar gael drwy’r Brifysgol. Rydym yma i helpu, felly peidiwch â theimlo cywilydd wrth ofyn. Rydym wedi gofyn i’r Swyddogion Profiad Myfyrwyr, Laura Male, Amy Genders a Peter Griffiths, i rannu eu Cwestiynau Cyffredin gyda chi, a allai dawelu eich meddwl wrth wybod bod yr un pryderon gan fyfyrwyr eraill:
AMY GENDERS
LAURA MALE
PETER GRIFFITHS
9
Made with FlippingBook HTML5