Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod heb ei thebyg. Mae ei phethau anhysbys, ei chyfnodau cyfyngiadau symud a’i chyfnodau ynysu wedi datgelu teimladau o bryder a thristwch mewn cynifer ohonom. Mae’r pwysau o ran cyflwyno cais i’r Brifysgol a’r newidiadau o ran sut caiff eich graddau terfynol eu pennu, wedi golygu rhagor o straen yn ystod blwyddyn sydd eisoes yn heriol iawn. Mae eich teimladau’n ddilys, rydych chi wedi bod drwy gymaint, a gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i gysur a chymorth yn y llyfryn hwn wrth ichi fwynhau paned. Rydym wedi gofyn i’n myfyrwyr a’n rhwydweithiau cymorth yn yr Ysgol Reolaeth i rannu eu profiadau gyda chi a chynnig cyngor ar reoli cyfnodau heriol. Er nad ydych chi wedi ymuno â ni eto, rydym am ichi wybod eich bod eisoes yn rhan o’r teulu wrth ymgeisio, ac rydym yma i’ch cefnogi. CROESO CYNNES GAN BOB UN OHONOM YN YR YSGOL
Byddwch yn ddiogel, Yr Ysgol Reolaeth
Os oes gennych gwestiynau am eich cynnig, astudio yn Abertawe neu eich graddau, cysylltwch â ni’n uniongyrchol ar studysom@abertawe.ac.uk.
2
Made with FlippingBook HTML5