RYDYCH CHI’N WYDN - CLYWED GAN EIN MYFYRWYR
Rydych chi’n gryfach nag yr ydych chi’n ei wybod. Rydych chi eisoes wedi gweithio drwy flwyddyn hynod anodd ac wedi derbyn cynnig i astudio gyda ni yn Abertawe. Fodd bynnag, mae’n ddealladwy os ydych chi’n dal i deimlo’n bryderus am eich canlyniadau a’r hyn sydd ar ddod yn y brifysgol. Nid ydych chi ar eich pen eich hun - gwnaethom ofyn i’n myfyrwyr i rannu eu profiadau o flwyddyn 2020 a rhannu eu cyngor ar gyfer dechrau yn y brifysgol yn ystod pandemig byd-eang.
Alexander Edwards, BSc Economeg (Blwyddyn Diwydiant) “Ar ddiwrnod y canlyniadau (2020), ces i ganlyniadau Safon Uwch nad oeddwn i’n eu disgwyl, a oedd yn ddigalon iawn. Fodd bynnag, siaradais i â Phrifysgol Abertawe a gwnaethon nhw helpu llawer iawn. Gwnaethon nhw dawelu fy meddwl, siarad â fi am fy opsiynau ac rydw i’n falch o ddweud fy mod i yn fy mlwyddyn gyntaf ar hyn o bryd, yn astudio Economeg. Siarad â Phrifysgol Abertawe’n uniongyrchol oedd y
peth gorau a ddigwyddodd ar ddiwrnod y canlyniadau, yn bendant.” Top Tip: “Fy nghyngor i fyddai ymaelodi â chlwb neu gymdeithas pan fyddwch yn dechrau yn Abertawe. Mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, hyd yn oed os bydd hynny’n rhithwir. Hefyd, byddwn i’n dweud wrthych chi i ‘fod yn naturiol’. Mae pawb yn yr un cwch ac wrth fod yn agored gyda ffrindiau newydd bydd yn helpu i feithrin perthnasoedd da wrth ichi ddechrau yn y brifysgol.” Chido Ranganayi, BSc Cyfrifeg a Chyllid “Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd dod o hyd i gymuned gefnogol yn hynod o bwysig. Roedd teimlo fel fy mod yn cael fy nghefnogi a’m croesawu, yn sicr yn helpu i mi wneud fy ngorau. Diolch byth, mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi cymorth academaidd, lles a chymunedol anhygoel i mi ers ddechrau.” Top Tip: “Yr awgrymiadau gorau sydd gennyf ar gyfer ymdopi â phrifysgol ar-lein yn ystod y pandemig, yw cymryd pob eiliad wrth iddi ddod, blaenoriaethu eich tasgau dyddiol, ac amserlennu amser i ymlacio.”
3
Made with FlippingBook HTML5