Molly Wyatt, BSc Marchnata “Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn gefnogol ac yn ddeallgar dros ben yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaeth y Brifysgol lyfnhau’r symud o addysgu ar y safle i addysgu ar-lein. Un fantais sydd gan ddysgu ar-lein yw aros yn y gwely cyn seminar am 9am!” Top Tip: “Fy awgrym euraidd ar gyfer llwyddo ar-lein yn y brifysgol yw cynllunio eich diwrnod a gwneud yn siwr eich bod chi’n mynd allan i’r
awyr agored ar gyfer ymarfer corff bob dydd. Mae mynd am dro neu redeg bob dydd wir wedi fy helpu i ymdopi â’m hiechyd meddwl a chael seibiant o sgrîn am ychydig o oriau.”
Victoria Ioannidou, BSc Rheoli Busnes (Blwyddyn Diwydiant) “Roedd yr Ysgol Reolaeth yn gefnogol iawn yn enwedig fel myfyrwr o wlad Groeg, ac yn enwedig drwy gydol fy wythnosau cyntaf yn y brifysgol, a oedd yn hollol newydd i mi. Gwnaeth yr Ysgol gynnal digwyddiadau ar ein cyfer, er mwyn inni gwrdd â phobl ar ein cwrs, a gwnaeth roi imi’r holl arweiniad yr oedd ei angen arnaf tan imi gael fy nghefn ataf!”
Top Tip: “Mae astudio yn ystod pandemig yn gallu bod yn llawn straen ond peidiwch ag ofni bod yn agored gyda phobl a mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus i chi, cael blas ar bethau newydd, gosod nodau a chymryd rhan yn yr holl gyfleoedd gwahanol sydd ar gael.”
Jalal Yousif, BSc Economeg (Blwyddyn Diwydiant) “Roedd symud i ddysgu ar-lein yn heriol ac mae’n anodd peidio â gweld ffrindiau yn y cnawd a pheidio â gallu gofyn cwestiynau i ddarlithwyr yn y cnawd. Fodd bynnag, mae darlithwyr yn hapus iawn ichi eu e-bostio’n uniongyrchol am gymorth ychwanegol, sydd wedi bod yn wych. Rydw i’n credu bod dysgu ar-lein yn gallu bod yn effeithlon drwy aros yn drefnus a chysylltu am gymorth os oes angen.”
Top Tip: “Mae’n helpu i gymryd seibiannau rheolaidd a siarad â chyfoedion. Rydyn ni’n lwcus bod gennym Swyddogion Profiad Myfyrwyr yn yr Ysgol Reolaeth - alla i ddim diolch iddynt ddigon am ofalu amdanom bob amser a threfnu llawer o ddigwyddiadau hwyl, er yn rhithwir.”
4
Made with FlippingBook HTML5