Wellbeing Booklet (Welsh)

CYNGOR AR REOLI STRAEN A PHRYDER GYDA BYWYDCAMPWS

Mae BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe yn wasanaeth sy’n cynnig cyngor diduedd, anfeirniadol am ddim, a gwasanaethau cymorth i’r holl fyfyrwyr mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a chyfrinachol. Mae’r tîm yn deall bod angen eich cefnogi mewn gwahanol ffyrdd er mwyn i chi allu mwynhau eich amser yn y Brifysgol i’r eithaf. Ar y campws, byddwch yn dod o hyd iddo yn y Goleudy (Campws Singleton) a’r Hafan (Campws y Bae). Ar hyn o bryd, cynhelir ei wasanaethau ar-lein drwy Zoom a thros y ffôn. Gallwch gwrdd â’r tîm am gymorth arbenigol ynghylch popeth gan gynnwys lles, arian, byw oddi ar y campws a ffydd. Mae gwasanaethau BywydCampws yn cynnwys: •Gwasanaeth Gwrando •Cymorth myfyrio •Grwp Cymorth Profedigaeth •Cyngor ar ffydd •Cymorth arbenigol i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws y gallai fod angen cyngor ac arweiniad arnynt ynghylch byw yn y gymuned

Mandy Williams yw Rheolwraig Cymuned@BywydCampws, Mae hi wedi rhoi ei hawgrymiadau gorau isod ynghylch myfyrio er mwyn eich helpu i gael saib, myfyrio a chymryd cam yn ôl o bwysau bywyd beunyddiol. Mae llawer o fyfyrwyr yn ymarfer y rhain, ac maent yn ffordd dda o greu amser ar eich cyfer chi mewn modd ymwybodol - boed wrth godi yn y bore, yn ystod eich amser cinio neu er mwyn eich helpu i ymlacio gyda’r hwyr.

• Dewch o hyd i le tawel, ymlaciol lle ni fydd neb yn torri ar eich traws, neu dewch o hyd i rywle tawel i fynd am dro • Os bydd myfyrio’n newydd i chi, ceisiwch ddefnyddio ap myfyrio (ceir ein hawgrymiadau gorau ar y dudalen nesaf) neu ymunwch â grwp lle bydd rhywun yn eich tywys • Dechreuwch yn araf deg, 5 munud o fyfyrio y dydd yw’r cwbl y bydd ei angen arnoch i ddechrau. Diben myfyrio yw bod yn garedig i’ch hunan, Ewch yn araf deg, os byddwch yn teimlo’n bell eich meddwl canolbwyntiwch ar eich anadlu

5

Made with FlippingBook HTML5