ARWEINYDDIAETH AR GYFER HERIAU BYD-EANG
Y GYFRAITH 13EG YN Y DU PROFIAD MYFYRWYR (TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024)
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/gwyddorau-cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.
CROESO
Croeso cynnes i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel mentoriaid academaidd. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
Opsiynau modiwlau hyblyg Cyfleoedd i astudio dramor Lleoliadau gwaith a chynlluniau ym myd diwydiant RYDYM YN CYNNIG:
Cyfathrebu a gweithio mewn tîm Datrys problemau Rheoli amser SGILIAU SY’N CAEL EU MEITHRIN:
Meithrin sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol Elwa o gymorth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol MAE EIN MYFYRWYR YN:
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
ARWEINYDDIAETH AR GYFER HERIAU BYD-EANG Gallwch feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a’r offer deallusol i allu cychwyn newid a gwneud gwahaniaeth yn y byd o’ch cwmpas â’r radd BSc Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang. Gyda’n harbenigedd academaidd, byddwn yn darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer dysgu a fydd yn agor cyfleoedd gyrfa i chi mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Ar y radd hon, byddwch yn archwilio problemau a heriau cymdeithasol sy’n croesi ffiniau gwledydd, gan feithrin y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu a hyrwyddo atebion arloesol a chynaliadwy sydd â’r potensial i wella bywydau pobl.
EIN GRADDAU
LN33 LN3A LN3I
Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang, BSc (Anrh) Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh) Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Mae’r radd hon wedi’i strwythuro o amgylch thema heriau byd-eang sy’n archwilio materion hanfodol fel newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, ymfudo, terfysgaeth, anghydraddoldeb a thlodi, a sut maent yn effeithio ar y byd rydym yn byw ynddo. Byddwch yn meithrin gwybodaeth mewn cyfuniad o ddisgyblaethau; gwleidyddiaeth, athroniaeth, astudiaethau datblygu, polisi cymdeithasol, rheoli a’r cyfryngau, sy’n cael eu cyd-blethu i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o faterion byd-eang allweddol, prosesau gwneud penderfyniadau a’r dulliau i ymchwilio ac eirioli atebion posibl ar gyfer newid.
CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau a ragwelir, geirda a’r cymysgedd o bynciau i bennu telerau pob cynnig. Bwriad y tabl isod yw rhoi trosolwg a chanllaw.
COURSE TITLE
A-LEVEL OR EQUIVALENT OFFER
INTERNATIONAL BACCALAUREATE
BTEC EQUIVALENT TYPICAL OFFER
GCSE OR EQUIVALENT
ARWEINYDDIAETH AR GYFER HERIAU BYD-EANG, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant neu hebddi
English and Maths Minimum Grade C (4)
ABB
DDM or higher
32-33
Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein studyFHSS@swansea.ac.uk .
Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol: Mae 90% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe. (HESA 2022)
Am ragor o wybodaeth, sganiwch y côd QR neu ewch i’n gwefan.
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/gwleidyddiaeth- athroniaeth-cysylltiadau-rhyngwladol/bsc-arweinyddiaeth-heriau-byd-eang
MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi ar yr hyn y gallech ei astudio ar ein gradd BSc 3 blynedd mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang. Mae’r rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs ar gael yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/gwleidyddiaeth-athroniaeth- cysylltiadau-rhyngwladol/bsc-arweinyddiaeth-heriau-byd-eang
ARWEINYDDIAETH AR GYFER HERIAU BYD-EANG, BSc (Anrh): Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd sy’n cynnwys 8 modiwl gorfodol
MODIWLAU GORFODOL
Byw yn Dda a Gwneud yn Dda - Cyflwyniad i Foeseg Mentergarwch a Chreadigrwydd: Entrepreneuriaeth ar Waith
Cyflwyno Polisi Cymdeithasol
Rheoli Pobl
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth a Heriau Byd-eang Twyllwybodaeth, Ideoleg a Rhagfarn: Ymchwilio ac Archwilio Data Gwleidyddol
SEMESTER 1
Y Gyfraith, Cyfiawnder Troseddol a Hawliau Dynol
Cysylltiadau Cyhoeddus: Cyfathrebu Strategol
SEMESTER 2
Blwyddyn 2 (Lefel 5): Cyfanswm o 120 credyd sy’n cynnwys Semester 1 – 2 fodiwl gorfodol (30 credyd) a 2 fodiwl opsiynol (30 credyd). Semester 2 - 2 fodiwl gorfodol (40 credyd) ac 1 modiwl dewisol (20 credyd). Dewisir modiwlau dewisol o amrywiaeth o fodiwlau sy’n gysylltiedig ag Economeg, Busnes, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Hanes, Marchnata ac Athroniaeth.
SEMESTER 1 MODIWLAU GORFODOL SEMESTER 2
Globaleiddio
Archwilio Dulliau Gwyddor Gymdeithasol Meintiol
Defnyddio Tystiolaeth at ddibenion Ymchwil, Polisi ac Ymarfer
Efelychu Uwchgynhadledd Fyd-eang
Blwyddyn 3 (Lefel 6): 120 credyd sy’n cynnwys 1 modiwl gorfodol (20 credyd), 1 modiwl gorfodol (40 credyd) a 3-4 modiwl dewisol (60 credyd). Dewisir modiwlau dewisol o amrywiaeth o fodiwlau sy’n gysylltiedig ag Economeg, Busnes, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Hanes, Marchnata ac Athroniaeth).
Arweinyddiaeth SEMESTER 1 SEMESTER 2 MODIWLAU GORFODOL
Prosiect - Heriau Byd-eang
MODIWLAU DEWISOL
Gall dewis modiwlau dewisol fod yn seiliedig ar astudiaethau rhagofynnol ar lefel is.
Gallai cynnwys y cwrs gael ei ddiweddaru a gallai modiwlau fod yn destun newid - gweler Ymwadiad y Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio
Mae’r tablau isod yn ddangosol ac yn cael eu darparu fel canllaw i nodi ehangder y modiwlau sydd ar gael.
Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/gwleidyddiaeth-athroniaeth-cysylltiadau- rhyngwladol/bsc-arweinyddiaeth-heriau-byd-eang
ARWEINYDDIAETH AR GYFER HERIAU BYD-EANG, BSc (Anrh) – MODIWLAU DEWISOL DANGOSOL BLWYDDYN 2 - Semester 1: Bydd myfyrwyr yn dewis 30 o gredydau o’r rhestr isod BLWYDDYN 3 - Semester 1:
Bydd myfyrwyr yn dewis 30 neu 40 credyd o’r rhestr isod Pŵer a Sefydliad (15 credyd)
Hil ac Ethnigrwydd: Safbwyntiau Americanaidd (20 credyd)
Hil ac Ethnigrwydd: Safbwyntiau Americanaidd (10 credyd)
Rheoli Prosiectau (15 credyd)
Rheoli Newid (20 credyd)
Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol (20 credyd)
Gwneud Penderfyniadau a Dadansoddi (20 credyd)
Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol (10 credyd)
Y Wladwriaeth a Sefydliadau Gwleidyddol (20 credyd)
BLWYDDYN 3 – Semester 2: Bydd myfyrwyr yn dewis 20 neu 30 credyd o’r rhestr isod
Y Wladwriaeth a Sefydliadau Gwleidyddol (10 credyd)
Niweidiau Cymdeithasol ac Amgylcheddol (20 credyd)
Deall a Gwrthweithio Terfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar (20 credyd)
BLWYDDYN 2 – Semester 2: Bydd myfyrwyr yn dewis 20 o gredydau o’r rhestr isod
Tlodi a Chyfiawnder Cymdeithasol (20 credyd)
Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol (20 credyd)
Diwylliannau’r Cyfryngau Cymdeithasol (20 credyd)
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (15 credyd)
Moesoldebau Rhyfel a Heddwch (20 credyd)
Rheoli Argyfyngau a Thrychinebau (15 credyd)
Diogelwch Rhyngwladol (20 credyd)
Cyfalafiaeth a Chyfiawnder (20 credyd)
Y Llinell Lliw: Hil a Hiliaeth yng Ngwleidyddiaeth y Byd (20 credyd)
Cynaliadwyedd a Rheoli Amgylcheddol (15 credyd)
YR YSGRIFENNYDD CLINTON A PHRIFYSGOL ABERTAWE Mae Prifysgol Abertawe wedi mwynhau perthynas agos gyda’r Ysgrifennydd Clinton sy’n dyddio’n ôl i 2017. Ym mis Hydref y flwyddyn honno, roedd y Brifysgol yn falch o roi Doethuriaeth er Anrhydedd i Hillary Rodham Clinton, i gydnabod ei gyrfa wleidyddol, ei hymrwymiad i hawliau dynol a’i chysylltiadau teuluol â’r ddinas. Yn ystod y seremoni, rhoddodd yr Ysgrifennydd Clinton ddarlith bwysig ar hawliau dynol plant a datgelodd blac i ddathlu enwi Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Dychwelodd yr Ysgrifennydd Clinton i Abertawe i gwrdd â chydweithwyr yn Ysgol y Gyfraith yn 2018, ac eto yn 2019 i lansio’r Rhaglen Heriau Byd-eang, a chwrdd â’r pum ysgolhaig cyntaf. Roedd hi hefyd yn westai anrhydeddus ym mhanel ‘Menywod Mentrus Cymru’ gerbron cynulleidfa o gannoedd o fenywod busnes blaenllaw, entrepreneuriaid, staff a myfyrwyr y Brifysgol, ac aelodau o gymuned ehangach y Brifysgol. Cynhaliwyd cyswllt agos â’r Brifysgol drwy gydol 2020, gyda’r Ysgrifennydd yn rhannu ei phrofiadau a’i dealltwriaeth â’r Ysgolheigion, gan draddodi Darlith Goffa James Callaghan fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Brifysgol. Mae’r Ysgrifennydd Clinton wedi cynnal perthynas frwd gyda phob carfan ddilynol o Ysgolheigion Heriau Byd-eang, gan gwrdd â phob carfan nifer o weithiau i drafod eu hymchwil unigryw a chynnig ei chraffter a’i chyngor ei hun. Ategwyd eu dysgu gan y Gyfres Darlithoedd Heriau Byd-eang; cyfres o sesiynau gydag arweinwyr ac arbenigwyr y byd, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Clinton ei hun. GWEITHDAI ARWEINYDDIAETH Yn Abertawe, rydym yn ailddiffinio’r profiad dysgu confensiynol yn y brifysgol drwy eich cysylltu ag arbenigwyr byd mewn amrywiaeth o feysydd. Fel myfyrwyr ar y BSc Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang, bydd gennych fynediad unigryw at gyfres o weithdai arweinyddiaeth a gynigir mewn cysylltiad â’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Rodham Clinton; ac ar adegau bydd y gweithdai hynny’n ei chynnwys hithau. Drwy’r sesiynau deinamig a rhyngweithiol hyn, byddwch yn dysgu nid yn unig grefft arweinyddiaeth, ond byddwch hefyd yn meithrin y sgiliau a’r weledigaeth sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â heriau mwyaf dybryd y byd, drwy gael eich ysbrydoli gan y rhai sy’n sbarduno newid a’r arweinwyr hyn. Dychmygwch ymgysylltu ag arbenigwyr blaenllaw ac ymdrochi mewn strategaethau blaengar i gael craffter amhrisiadwy. Craffter a fydd yn eich llywio tuag at ddod yn arweinydd trawsnewidiol ar lwyfan byd-eang, sydd â’r dulliau a’r wybodaeth i ysgogi newid go iawn mewn perthynas â’r materion rydych chi’n poeni amdanyn nhw fwyaf. Drwy astudio am y radd hon, gallwch chi gychwyn ar daith gyffrous o dwf personol a phroffesiynol gyda’n rhaglen Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang. Gallwch uchafu eich potensial, meithrin eich sgiliau arweinyddiaeth a helpu i lywio dyfodol gwell.
O
BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.
Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,
byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith
Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Cwblheais flwyddyn yn astudio dramor ym Mhrifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada. Y peth gorau oedd teithio a chwrdd â llawer o bobl newydd. Roedd hyn wedi fy ngalluogi i ehangu fy ngorwelion a thyfu fy rhwydwaith proffesiynol. Byddwn yn argymell y profiad cant y cant; dyma oedd hoff ran fy ngradd hyd yn hyn.
HELENA BAILEY Blwyddyn Dramor: Prifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada
BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio.
Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.
Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir.
MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS
Es i ar leoliad gwaith i Senedd Cymru fel rhan o staff cymorth un o’r Aelodau. Mwynheais i’r lleoliad gwaith yn fawr ynghyd â’r tasgau gwnes i eu cwblhau, ac wrth fod ar y lleoliad gwaith roeddwn i wir yn teimlo fy mod i’n rhan o’r staff amser llawn. Gwnaeth i mi sylweddoli bod hwn yn llwybr cyflogaeth hoffwn i ei ddilyn, ac mae’r profiad wedi rhoi cysylltiadau rhagorol i mi a fydd yn fy helpu yn fy ymdrechion yn y dyfodol.
JOE GAPE Lleoliad gwaith yn Senedd Cymru
CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD DYFODOL
Sector Bancio Sector Busnes
Llywodraeth a gwleidyddiaeth Newyddiaduraeth
Sefydliadau anllywodraethol Y Cenhedloedd Unedig
Mae Abertawe’n cynnig cwrs gwych yn ogystal â chyfleoedd datblygiad proffesiynol gwych ochr yn ochr ag astudio. Yn ogystal â bod yn brifysgol ddethol i gynnal modiwl interniaeth yn Senedd Cymru, mae Abertawe’n un o ychydig sefydliadau yn y DU sy’n cynnig modiwl astudiaethau seneddol ar y cyd â San Steffan. Llwyddais i sicrhau lleoliad profiad gwaith 5 wythnos yng nghlinig y gyfraith y Brifysgol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd gen i gynghorydd gyrfa personol a oedd yno i siarad am CVs, cyfweliadau, ac ati. Fel myfyriwr, rwyf wedi cael hysbysiadau rheolaidd gan y tîm cyflogadwyedd yn fy hysbysu o unrhyw sgyrsiau, interniaethau, swyddi neu gyfleoedd i raddedigion a allai fwyafu fy natblygiad proffesiynol fy hun.
HILDA SALES Myfyriwr Llysgennad
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol
Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni
Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol
Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd
Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
ARIAN A CHYNGOR
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu
PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:
Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. MAE’R CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS:
MERCHED YN Y GYFRAITH
AMNESTY INTERNATIONAL
MERCHED MEWN BUSNES
GWLEIDYDDIAETH & CR
BUSNES
Y GYFRAITH
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Dewisais Abertawe oherwydd strwythur gwych y cwrs, yr amrywiaeth eang o ddewisiadau modiwl sydd ar gael, a’r campws croesawgar y byddwn i’n dysgu arno. Y peth pwysicaf i mi wrth ymgymryd â’m gradd, yw fy mod yn mwynhau’r hyn rwy’n ei ddysgu a’m bod yn cael fy nghefnogi drwy gydol y broses o wneud hynny. O’r cam cyntaf a gymerais ar Gampws Singleton yn ystod Diwrnod Agored, roeddwn i’n teimlo’n siŵr y byddai Abertawe’n sicrhau hynny i mi, ac y byddai’r radd a ddewisais yn gyfle perffaith i barhau i ddysgu am bynciau sy’n fy ysgogi.
MEGAN SALTER Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, BA (Anrh)
Dewisais Brifysgol Abertawe gan fy mod yn credu y byddai fy addysg yn ffynnu yno, a gallwn dyfu fel person a gwneud y gorau o’r cyfleoedd niferus y byddai gradd ym Mhrifysgol Abertawe yn eu cynnig i mi.
ELEANOR ADDISON Cysylltiadau Rhyngwladol, BA (Anrh)
YMCHWIL
Nodau’r Gyfadran a’r Ysgol yw creu ymchwil gydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol drwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a mwyaf disglair o bob cwr o’r byd. Mae ein cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol fywiog yn ymgorffori ystod eang o arbenigeddau ac yn tynnu ar waith cydweithwyr o feysydd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, y Cyfryngau a Chyfathrebu ac Athroniaeth. Ein gweledigaeth yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw darparu ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol, yn llywio llywodraethu byd-eang ac yn gwella ymgysylltiad gwleidyddol a chynhwysiant dinesig.
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn amrywiol feysydd i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflawni. Mae ein harbenigedd yn cynnwys: Ymagweddau gwyddor gymdeithasol at astudiaethau ardal a pholisi rhyngwladol. Astudiaethau athronyddol a beirniadol ynghylch rhyfel, diogelwch a gwrthdaro. Llywodraeth, llywodraethu a gwleidyddiaeth gymharol.
Dyfarnwyd bod 100% o effaith ymchwil a gynhaliwyd mewn Gwleidyddiaeth,
Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau’r Cyfryngau yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ymchwil/fry-2021/gwleidyddiaeth-ac-astudiaethau-rhyngwladol
CYFLEUSTERAU
HYB CYFLOGADWYEDD Mae myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd dynodedig. Mae gan y tîm hanes o gael swyddi i fyfyrwyr ac yn gallu eich cynorthwyo trwy gydol eich astudiaethau, yn ogystal â chynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. GOFODAU CYMDEITHASOL A GOFODAU ASTUDIO AR GYFER MYFYRWYR Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol amrywiaeth o ofodau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu gael ychydig o amser tawel i astudio. Mae nifer o socedi trydanol a phyrth, ynghyd â Wi-Fi ar draws yr adeiladau, yn cynorthwyo mynediad at adnoddau digidol. DARLITHFEYDD AC YSTAFELLOEDD SEMINAR Mae’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf wedi’i gosod yn ein hystafelloedd addysgu, gan gynnwys technoleg cofnodi darlithoedd, i’ch galluogi i ailedrych ar unrhyw un o’ch darlithoedd ar-lein ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael profiad o addysgu mewn darlithfeydd, sy’n gallu dal dros 150 o fyfyrwyr, ac ystafelloedd seminar llai, sy’n gallu dal hyd at 30, ar gyfer eich gwaith grwp a sesiynau mwy personoledig gyda darlithwyr a thiwtoriaid.
SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL
STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • An opening paragraph outlining your passion for the subject and your drive to succeed, • Your academic studies and work experience, • Interests/hobbies 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.
EICH CAMAU NESAF
MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.
HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.
TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.
EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £
CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!
ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.
MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.
AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.
MAI LLETY
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk
YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau
CHWARAEON
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:
•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian
DARPARIAETH GYMRAEG
DIWYLLIANT
Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at fentoriaid academaidd sy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!
Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored
CYSYLLTWCH Â NI
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU
E-bost: StudyFHSS@swansea.ac.uk
www.swansea.ac.uk/cy/gwyddorau- cymdeithasol
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch am Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24Made with FlippingBook HTML5