YMCHWIL
Nodau’r Gyfadran a’r Ysgol yw creu ymchwil gydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol drwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a mwyaf disglair o bob cwr o’r byd. Mae ein cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol fywiog yn ymgorffori ystod eang o arbenigeddau ac yn tynnu ar waith cydweithwyr o feysydd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, y Cyfryngau a Chyfathrebu ac Athroniaeth. Ein gweledigaeth yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw darparu ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol, yn llywio llywodraethu byd-eang ac yn gwella ymgysylltiad gwleidyddol a chynhwysiant dinesig.
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn amrywiol feysydd i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflawni. Mae ein harbenigedd yn cynnwys: Ymagweddau gwyddor gymdeithasol at astudiaethau ardal a pholisi rhyngwladol. Astudiaethau athronyddol a beirniadol ynghylch rhyfel, diogelwch a gwrthdaro. Llywodraeth, llywodraethu a gwleidyddiaeth gymharol.
Dyfarnwyd bod 100% o effaith ymchwil a gynhaliwyd mewn Gwleidyddiaeth,
Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau’r Cyfryngau yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ymchwil/fry-2021/gwleidyddiaeth-ac-astudiaethau-rhyngwladol
Made with FlippingBook HTML5