ARWEINYDDIAETH AR GYFER HERIAU BYD-EANG Gallwch feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a’r offer deallusol i allu cychwyn newid a gwneud gwahaniaeth yn y byd o’ch cwmpas â’r radd BSc Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang. Gyda’n harbenigedd academaidd, byddwn yn darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer dysgu a fydd yn agor cyfleoedd gyrfa i chi mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Ar y radd hon, byddwch yn archwilio problemau a heriau cymdeithasol sy’n croesi ffiniau gwledydd, gan feithrin y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu a hyrwyddo atebion arloesol a chynaliadwy sydd â’r potensial i wella bywydau pobl.
EIN GRADDAU
LN33 LN3A LN3I
Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang, BSc (Anrh) Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh) Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Mae’r radd hon wedi’i strwythuro o amgylch thema heriau byd-eang sy’n archwilio materion hanfodol fel newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, ymfudo, terfysgaeth, anghydraddoldeb a thlodi, a sut maent yn effeithio ar y byd rydym yn byw ynddo. Byddwch yn meithrin gwybodaeth mewn cyfuniad o ddisgyblaethau; gwleidyddiaeth, athroniaeth, astudiaethau datblygu, polisi cymdeithasol, rheoli a’r cyfryngau, sy’n cael eu cyd-blethu i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o faterion byd-eang allweddol, prosesau gwneud penderfyniadau a’r dulliau i ymchwilio ac eirioli atebion posibl ar gyfer newid.
Made with FlippingBook HTML5