YR YSGRIFENNYDD CLINTON A PHRIFYSGOL ABERTAWE Mae Prifysgol Abertawe wedi mwynhau perthynas agos gyda’r Ysgrifennydd Clinton sy’n dyddio’n ôl i 2017. Ym mis Hydref y flwyddyn honno, roedd y Brifysgol yn falch o roi Doethuriaeth er Anrhydedd i Hillary Rodham Clinton, i gydnabod ei gyrfa wleidyddol, ei hymrwymiad i hawliau dynol a’i chysylltiadau teuluol â’r ddinas. Yn ystod y seremoni, rhoddodd yr Ysgrifennydd Clinton ddarlith bwysig ar hawliau dynol plant a datgelodd blac i ddathlu enwi Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Dychwelodd yr Ysgrifennydd Clinton i Abertawe i gwrdd â chydweithwyr yn Ysgol y Gyfraith yn 2018, ac eto yn 2019 i lansio’r Rhaglen Heriau Byd-eang, a chwrdd â’r pum ysgolhaig cyntaf. Roedd hi hefyd yn westai anrhydeddus ym mhanel ‘Menywod Mentrus Cymru’ gerbron cynulleidfa o gannoedd o fenywod busnes blaenllaw, entrepreneuriaid, staff a myfyrwyr y Brifysgol, ac aelodau o gymuned ehangach y Brifysgol. Cynhaliwyd cyswllt agos â’r Brifysgol drwy gydol 2020, gyda’r Ysgrifennydd yn rhannu ei phrofiadau a’i dealltwriaeth â’r Ysgolheigion, gan draddodi Darlith Goffa James Callaghan fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Brifysgol. Mae’r Ysgrifennydd Clinton wedi cynnal perthynas frwd gyda phob carfan ddilynol o Ysgolheigion Heriau Byd-eang, gan gwrdd â phob carfan nifer o weithiau i drafod eu hymchwil unigryw a chynnig ei chraffter a’i chyngor ei hun. Ategwyd eu dysgu gan y Gyfres Darlithoedd Heriau Byd-eang; cyfres o sesiynau gydag arweinwyr ac arbenigwyr y byd, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Clinton ei hun. GWEITHDAI ARWEINYDDIAETH Yn Abertawe, rydym yn ailddiffinio’r profiad dysgu confensiynol yn y brifysgol drwy eich cysylltu ag arbenigwyr byd mewn amrywiaeth o feysydd. Fel myfyrwyr ar y BSc Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang, bydd gennych fynediad unigryw at gyfres o weithdai arweinyddiaeth a gynigir mewn cysylltiad â’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Rodham Clinton; ac ar adegau bydd y gweithdai hynny’n ei chynnwys hithau. Drwy’r sesiynau deinamig a rhyngweithiol hyn, byddwch yn dysgu nid yn unig grefft arweinyddiaeth, ond byddwch hefyd yn meithrin y sgiliau a’r weledigaeth sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â heriau mwyaf dybryd y byd, drwy gael eich ysbrydoli gan y rhai sy’n sbarduno newid a’r arweinwyr hyn. Dychmygwch ymgysylltu ag arbenigwyr blaenllaw ac ymdrochi mewn strategaethau blaengar i gael craffter amhrisiadwy. Craffter a fydd yn eich llywio tuag at ddod yn arweinydd trawsnewidiol ar lwyfan byd-eang, sydd â’r dulliau a’r wybodaeth i ysgogi newid go iawn mewn perthynas â’r materion rydych chi’n poeni amdanyn nhw fwyaf. Drwy astudio am y radd hon, gallwch chi gychwyn ar daith gyffrous o dwf personol a phroffesiynol gyda’n rhaglen Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang. Gallwch uchafu eich potensial, meithrin eich sgiliau arweinyddiaeth a helpu i lywio dyfodol gwell.
Made with FlippingBook HTML5