Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

YMGYNGHORI

Rydym yn cydnabod bod gweithredu iechyd a gofal sy’n seiliedig ar werth yn newid sylfaenol i systemau iechyd a gofal ac i ddiwydiannau gwyddorau bywyd, ac y gall fod yn heriol yn ymarferol. Mae ein gwasanaethau ymgynghori yn darparu cymorth mwy parhaus, pwrpasol ac arweinyddiaeth meddwl i systemau gofal iechyd a phartneriaid mewn diwydiant, a gellir eu cyfuno ag ymchwil i ddeall anghenion gwaelodlin a rhaglenni addysgol mewnol er mwyn paratoi uwch arweinwyr a’u timau â’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol. Rydym yn treulio amser yn deall anghenion eich sefydliad neu’ch tîm ac yn cyd-greu’r cymorth a ddarparwn i chi. A ninnau’n sefydliad academaidd, gallwn drosi’r meddwl diweddaraf yn gynnyrch cyflawnadwy. Mae gennym nifer o arbenigwyr rhyngwladol o feysydd gofal iechyd, diwydiant gwyddorau bywyd ac academia sy’n cefnogi ein rhaglenni addysgol ac ymgynghori, a gallant fod yn rhan o’r tîm ymgynghori yn ôl yr arbenigedd y mae ei angen. Rydym yn gweithio gyda rhai o sefydliadau mwyaf y byd ond rydym yn mwynhau partneru â thimau bach a busnesau bach a chanolig (BBaCh) hefyd.

Emma Clifton-Brown, Pennaeth Iechyd a Gwerth, y DU, Pfizer

“Mae’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn allweddol wrth dywys taith Pfizer i Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Trwy raglen a ymrestrodd dros 90 o arweinwyr, mae Pfizer wedi gwreiddio ethos gwerth mewn iechyd yn llwyddiannus ar draws holl haenau’r sefydliad. Mae cael golwg mwy cyfannol ar ystyr gwerth i wahanol randdeiliaid ar draws y system iechyd wedi bod yn sylfaen i ffyrdd newydd o ymdrin â phartneriaethau, yng Nghymru yn fwyaf nodedig, ac mae wedi cryfhau ymagwedd Pfizer at fynd i’r afael â deilliannau sy’n bwysig. Mae’r meddylfryd hwn yn hollbwysig i’n helpu i sicrhau datblygiadau sy’n newid bywyd cleifion.”

James McHale, Rheolwr Partneriaethau Seiliedig ar Werth Byd Eang, Mölnlycke

“Mae’r Academi wir yn arweinwyr ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ac yn allweddol o ran gyrru dysgu, creu a chymhwyso gan Mölnlycke ar y pwnc. A hwythau’n arbenigwyr ar system GIG y DU, gyda gwerthfawrogiad a rhwydwaith byd eang, maent yn bartner academaidd hynod gredadwy sy’n rhannu ein nodau cyffredin ynghylch datblygu a gweithredu partneriaethau strategol Seiliedig ar Werth. Gyda’u cymorth, rydym yn parhau i archwilio sut y gallwn yrru’r gwerth mwyaf i systemau gofal iechyd a chleifion.”

9

Made with FlippingBook HTML5