Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

GWYBODAETH AM IECHYD A GOFAL SY’N SEILIEDIG AR WERTH

Mae systemau iechyd a gofal ledled y byd yn wynebu heriau cyfunol galw mwy cymhleth a galw cynyddol, newid demograffig a chyfyngiadau ar adnoddau.

Mae llywodraethau a thalwyr sy’n ymdrechu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r gwasanaethau hanfodol hyn yn canolbwyntio fwyfwy ar Werth: gwella’r deilliannau sydd bwysicaf i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth am y gost isaf bosibl a gwella iechyd y boblogaeth o fewn yr adnoddau sydd ar gael, trwy ailneilltuo adnoddau o weithgareddau gwerth is i werth uwch. Mae gan Brifysgol Abertawe hanes hir o bartneru ag arweinwyr systemau iechyd a gofal a’r diwydiant gwyddorau bywyd. Nawr, mae dwyn arweinyddiaeth meddwl, cipolygon ac ymchwil drylwyr sy’n llywio datblygiad Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, a’i weithredu’n ymarferol, yn ein cyffroi. Bydd cyfranogwyr ein rhaglenni’n elwa o ddealltwriaeth gyfoethog o’r dull hwn sy’n dod i’r amlwg a dônt i gysylltiad ag arweinwyr, ymarferwyr ac ysgolheigion o amrywiaeth o leoliadau gofal ar draws y byd, systemau a sectorau. Byddant yn dysgu o achosion o’r byd go iawn a phrofiadau bywyd a safbwyntiau cyd-gyfranogwyr, ynghyd â dysgu o’r gyfadran arbenigol. Mae Cymru, a gydnabyddir gan Fforwm Economaidd y Byd, yr UE, y G20 a’r OECD am ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad i weithredu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, yn cydnabod pwysigrwydd Gwerth ym mhob agwedd ar ddylunio ac arweinyddiaeth systemau: wrth ddyrannu adnoddau, ar draws llwybrau gofal cyfan ac wrth gaffael gwasanaethau a thechnolegau gofal iechyd. Gyda system iechyd a gofal gyffredin yn gwasanaethu ychydig dros 3 miliwn o ddinasyddion, mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn fan prawf ar gyfer arloesi a modelau newydd o ddarparu gofal.

Mae’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn darparu trylwyredd academaidd wrth addysgu egwyddorion gofal sy’n seiliedig ar Werth, gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Hefyd, mae’n gyfrwng ar gyfer tyfu’r sylfaen ymchwil, gan hoelio enw da Cymru fel arweinydd yn y maes hwn a sicrhau bod staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru’n gallu cael at addysg Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, o safon aur, yn agos at adref.

DR SALLY LEWIS Cyfarwyddwr, Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru

11

Made with FlippingBook HTML5