Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

CROESO

RYDYM YN CYNNIG:

Croeso i’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe.

Rhaglenni Addysgol o’r Radd Flaenaf Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a digwyddiadau i helpu paratoi pobl â’r wybodaeth, y sgiliau a’r agwedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gyflwyno Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ar draws y byd. Ymchwil Arloesol Mae ein tîm ymchwil yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan ddarparu’r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio gweithredu, arloesi a datblygu polisi. Gwasanaeth Ymgynghori Pwrpasol Mae gan ein hymgynghorwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr o systemau iechyd a gofal, a phrofiad o weithio gyda sefydliadau gofal iechyd a’r diwydiant gwyddorau bywyd i nodi a mynd i’r afael â heriau. Rydym yn cyd-greu ein cyngor a’n cymorth pwrpasol gyda sefydliadau wrth iddynt weithredu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth.

Rydym yn ddarparu Addysg, Ymchwil ac Ymgynghori ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, rydym yn un o grwp dethol iawn o brifysgolion o gwmpas y byd sy’n cynorthwyo â deall a gweithredu’r ymagwedd newydd a chyffrous hon ar gyfer systemau gofal iechyd er mwyn cyflwyno deilliannau gwell a bod yn gynaliadwy yn ariannol. Mae gennym raglenni addysgol ar bob lefel, o’r sylfaen i’r doethurol, gyda’r ymchwil ddiweddaraf yn sail iddynt, a’r rhaglenni wedi’u dylunio ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, diwydiannau gwyddorau bywyd, y Llywodraeth a llunio polisi. Rydym yn darparu gwasanaethau ymgynghori i rai o’r cwmnïau gwyddorau bywyd mwyaf yn y byd a gallwn alw ar arbenigwyr cydnabyddedig yn rhyngwladol yng Nghymru ac ar draws y byd ar gyfer ein holl weithgareddau. 

Edrychwn ymlaen at glywed gennych ac at eich helpu ar eich taith Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth.

Yr Athro Hamish Laing Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

2

Made with FlippingBook HTML5