Addysg Weithredol: Egwyddorion Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth
Mae cwricwlwm y cwrs addysg weithredol dwys hwn yn cwmpasu meysydd allweddol Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, y manylion ynghylch gweithredu a’r sgiliau a’r wybodaeth graidd y mae eu hangen i arwain y gwaith o greu systemau Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, ynghyd â phartneru er gwerth ar draws sectorau. Gan ddefnyddio dulliau dysgu gwahanol, gan gynnwys trafodaethau seiliedig ar achos, gweithio mewn grwpiau bach, cyflwyniadau panel ac efelychu, caiff dysgwyr gyfleoedd i drafod, gyda chymheiriaid o’u sectorau eu hunain a sectorau eraill, sut y gallent gymhwyso’r dysgu i’w hamgylcheddau gwaith eu hunain. ‘Cyflwynir y cwrs hwn drwy ddwy ffordd yn ystod y flwyddyn: mewn person ac ar-lein (yn rhithwir).
MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)
Mae’r radd meistr hon, sydd â llwybr Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth arbenigol ac a ddatblygwyd yn benodol i ddysgwyr proffesiynol, yn caniatáu i fyfyrwyr ymdrochi yn y paradeim Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth sy’n dod i’r amlwg, ei hanes, ei theori a’i weithredu yn ymarferol ar lefel poblogaeth ac ar lefel unigol. Bydd myfyrwyr yn datblygu strategaeth Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ar gyfer eu sefydliad eu hunain a chynllun gweithredu sy’n cynnwys mesuriadau deilliannau, defnyddio technolegau digidol, cymhwyso modelau prisio newydd, partneriaethau caffael arloesol, ynghyd ag ymagweddau arwain sy’n ofynnol ar gyfer llwyddiant. Bydd yr holl fyfyrwyr, sy’n astudio ar sail amser llawn am flwyddyn neu’n hyblyg yn rhan-amser am ddwy flynedd, yn ymgymryd â phrosiect wedi’i asesu, y gellir ei seilio yn y gweithle.
Doethuriaeth Gweinyddu Busnes, DBA
Mae DBA yr Ysgol Reolaeth yn ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser a luniwyd ar gyfer uwch reolwyr ac arweinwyr ym mhob sector: preifat, cyhoeddus ac nid er elw. Yn y rhaglen hon, gall dysgwyr gymryd rhan mewn ymchwil gymwysedig yn benodol ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, gan gymhwyso theori sefydledig a blaengar i’w problemau sefydliadol ymarferol. Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eu maes, ynghyd â chyfrannu at ein dealltwriaeth o’r sylfaen ddamcaniaethol ar gyfer y gwaith.
e-ddysgu
Mae ein platfform e-ddysgu rhithwir (Canvas Catalog™) yn ffordd rymus ac effeithiol o ennill gwybodaeth sylfaenol yn eich amser ac yn ôl eich pwys eich hun, heb fod angen ymrestru fel myfyriwr Prifysgol llawn. Gall dysgwyr ddewis o blith amrywiaeth o gyrsiau addysgol ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth o’r gwaith neu adref. Mae’r cyrsiau ar-lein yn llwyr ac yn cynnig cyfleustra, hyblygrwydd a hygyrchedd anhygoel. Mae Tystysgrifau Cwblhau ar gael gan y Brifysgol.
‘Am ragor o wybodaeth am ba gwrs fydd orau i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/academi-igsw
4
Made with FlippingBook HTML5