Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

RHAGLEN ACADEMI DYSGU DWYS

Mae’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ym Mhrifysgol Abertawe wedi’i hariannu’n rhannol trwy Raglen yr Academïau Dysgu Dwys a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddi Cymru Iachach, y cynllun tymor hir ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae rhaglen yr Academïau Dysgu Dwys yn cefnogi gallu proffesiynol ac arweinyddiaeth systemau ledled Cymru gyfan i fod yn addas ar gyfer heriau systemau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac yfory. Mae ein Hacademi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn gweithio’n agos gydag Academïau Dysgu Dwys eraill yng Nghymru: • Academi Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Prifysgol Abertawe) • Dysgu Cymwysedig ar gyfer Iechyd Ataliol: ALPHAcademy (Prifysgol Bangor) • Trawsnewidiad Digidol (Prifysgol De Cymru)

Ein lleoliad yng Nghymru, un o nifer bach o systemau iechyd a gofal i arwain ar fabwysiadu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn fyd eang. Mae hyn yn golygu bod yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn gallu galw ar gyfadran a chyrhaeddiad byd eang, sy’n cynnwys tystiolaeth a phrofiad rhyngwladol ac yn denu dysgwyr o lawer o ranbarthau a gwledydd gwahanol. ‘Rydym wrthi’n annog dysgwyr o amryw o ardaloedd wahanol ac o sectorau gwahanol ac o sectorau gwahanol i ddysgu gan ei gilydd a chyda’i gilydd, gan rannu profiad, safbwyntiau, heriau a llwyddiannau. Cyllid Ysgoloriaeth Academïau Dysgu Dwys yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth Mae cyllid grant gan Lywodraeth Cymru’n caniatáu i ni gynnig nifer gyfyngedig o ysgoloriaethau’r Academïau Dysgu Dwys i ddysgwyr proffesiynol ledled Cymru mewn sefydliadau Gofal Cymdeithasol, y GIG a’r Trydydd Sector ar gyfer ein holl raglenni addysgol. I ddysgu rhagor am ein hysgoloriaeth, gweler tudalen 17.

I gael mwy o wybodaeth, sganiwch y cod QR neu e-bostiwch: VBHCAcademy@abertawe.ac.uk

ABERTAWE

CAERDYDD

7

Made with FlippingBook HTML5