GRADD MEISTR MEWN GWEINYDDU BUSNES, MBA
O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL SYDD WEDI’I GRADDIO’N ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL 100%
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/addysg-weithredol am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae’r Brifysgol wedi bod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi ers ei sefydlu ym 1920 ac mae ein hymchwil o safon fyd-eang yn cael effaith llawer ehangach ar iechyd, cyfoeth, diwylliant a lles ein cymdeithas. Rydym yn arwain Cymru mewn meysydd ymchwil sy’n hollbwysig i dwf economaidd a lles y boblogaeth, gan gynnwys yn y gwyddorau amgylcheddol, meddygaeth a gwaith cymdeithasol. Rydym yn brifysgol flaenllaw a chynaliadwy sydd ag uchelgais i helpu i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yn y DU ac ymhellach i ffwrdd ac ar hyn o bryd rydym yn yr 8fed safle yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet, ac rydym yn chwarae rôl datblygu cynaliadwy hanfodol yn y rhanbarth, y DU ac yn fyd-eang. Lleolir Prifysgol Abertawe ar ddau gampws trawiadol ar bob pen glan môr Abertawe. Mae Campws Parc Singleton mewn parcdir aeddfed a gerddi botaneg, sy’n edrych dros draeth Bae Abertawe ac mae Campws y Bae ar ymyl y traeth ar y ffordd ddwyreiniol i ddinas Abertawe. Mae ein campws deuol amlddiwylliannol yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr, staff a’r gymuned a ‘Phrofiad Abertawe ’ yw’r enw a ddefnyddir yn aml am yr awyrgylch cyfeillgar a hamddenol Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dyfarnwyd bod 100% o’n hamgylchedd ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol, sef cynnydd o 12.5%. Dyfarnwyd bod 23.4% o’n hallbynnau ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang, sef cynnydd o 14.5%, a bod 80% o effaith ein hymchwil yn rhagorol ac yn creu effeithiau sylweddol i awn o ran eu cyrhaeddiad a’u harwyddocâd. YNGLYN Â PHRIFYSGOL ABERTAWE
CROESO
Mae’n bleser mawr gennym estyn y croeso cynhesaf i’n rhaglen MBA Gweinyddu Busnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu deinamig yn mynd law yn llaw ag ymchwil o fri ac arfer sy’n arwain y diwydiant. Mae ein Hysgol fywiog yn dwyn ynghyd arbenigwyr arloesi sy’n arweinwyr yn ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn yng ngrym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddedig yn galluogi ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol gwybodaeth a damcaniaethau academaidd, gan ddarparu cymorth mewn darlithoedd, seminarau, ac fel mentoriaid academaidd. Mae’n bleser gennyf eich cyflwyno i’r llyfryn hwn sy’n hyrwyddo’r cyfleoedd a gynigir gan y rhaglen MBA. Dan arweiniad arweinwyr academaidd uchel eu parch o ystod o sectorau a disgyblaethau, mae’n cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol a sefydliadau gymryd rhan mewn addysg, ymchwil ar waith, ac arloesi cynaliadwy. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hymrwymiad i feithrin arloesedd cynaliadwy. P’un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio gwella eich datblygiad proffesiynol eich hun, neu’n sefydliad sy’n dymuno gweithredu mentrau newid, mae’r MBA yn darparu addysg wedi’i theilwra, ymchwil ar waith a phrosiect cleient gyda diwydiant lleol i ddiwallu eich anghenion, y mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol. Wrth i chi bori drwy’r pecyn hwn, rwy’n eich gwahodd i archwilio ein rhaglen MBA a darganfod sut y gallwn eich helpu i gyflawni eich nodau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r rhaglen MBA ym Mhrifysgol Abertawe a’ch cefnogi ar eich taith tuag at lwyddiannau newydd.
Dr Paul G. Davies MBA - Cyfarwyddwr Rhaglen
Roedd astudio am MBA ym Mhrifysgol Abertawe’n un o’r pethau gorau dwi wedi’u gwneud erioed. Roedd yn brofiad unigryw sydd wedi fy helpu’n fawr i ddatblygu fy ngyrfa. GANESH UDEWAR VIJAYSHANKAR Rheolwr Datblygu Busnes Cyn-fyfyriwr ar raglen MBA Prifysgol Abertawe
YNGLYN Â’R YSGOL REOLAETH
Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe’n un o’r darparwyr mwyaf blaenllaw yn y DU ym maes addysg Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid, Marchnata, Twristiaeth ac Economeg. Mae’n darparu amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyfleoedd cydweithredu. Adlewyrchir ein cysylltiadau cryf â diwydiant a chyrff achredu proffesiynol yn ein gweithgareddau addysgu blaengar a’n hymchwil sy’n torri tir newydd, gan sicrhau cychwyn gwych i yrfaoedd ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid. Lleolir yr Ysgol ar gampws trawiadol y Bae, sy’n dafliad carreg yn unig o’r traeth cyfagos a hanner milltir o goridor yr M4; mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i dros 150 o staff a thros 2000 o fyfyrwyr. Mae ei chyfleusterau o safon fyd-eang, gan gynnwys atriwm ysblennydd, ystafelloedd addysgu, ystafelloedd cyfarfod a labordai cyfrifiaduron, yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol i’w myfyrwyr.
Mae gan yr Ysgol brofiad rhagorol o addysgu rhai o raddedigion mwyaf llwyddiannus y DU. Mae’r profiad hwnnw, ynghyd â’i staff egnïol a blaengar, ei chyfleusterau o’r radd flaenaf a’i chysylltiadau agos â diwydiant yn golygu ei bod yn lle hollol unigryw i astudio ynddo. Mae safleoedd yr Ysgol yn cynnwys: Mae’r pwnc Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi cael ei restru yn safle 78 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2024 . Mae’r pwnc Astudiaethau Marchnata wedi cael ei restru ymysg y 50 Uchaf yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2024 .
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Reolaeth, ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth
GWEINYDDU BUSNES, MBA Mae pwyslais ar werthoedd dynol yn ogystal â gwerth rhanddeiliaid wrth wraidd y rhaglen MBA ym Mhrifysgol Abertawe. Ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno cael effaith ar gymdeithas a mynd i’r afael â’r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth a all fodoli ym maes rheolaeth, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i alluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau byd- eang ar gyfer trefnu a chydweithio, yn ogystal â chystadlu, yn y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.
Gweinyddu Busnes, MBA
Mae ein rhaglen MBA yn herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, gan fyfyrio ar ddamcaniaeth ac arferion rheoli er mwyn nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang. Drwy edrych ar ymagweddau arloesol at arferion gorau busnes, tueddiadau defnydd cyfrifol a ffurfiau sefydliadol hybrid, rydym yn paratoi ein myfyrwyr MBA i fynd i’r afael â’r heriau o sicrhau gwerthoedd dynol mewn cyfnod o drawsnewid byd-eang. Fel myfyriwr MBA, byddwch yn rheoli prosiect sy’n mynd i’r afael â phroblem
go iawn sefydliad sy’n gleient, yn cydweithio â chyfoedion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Byddwch yn gweithio gydag academyddion arbenigol, ymchwilwyr arloesol ac arweinwyr mewn busnes i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol allweddol a chael effaith gadarnhaol gyda’r cyfle i adeiladu ar eich profiad eich hun a herio sut mae busnesau’n gweithredu. Mae’r rhaglen yn darparu ymagwedd wahanol at feddylfryd rheoli, a bydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud penderfyniadau ymwybodol ym myd gwaith ac yn deall effaith ehangach y penderfyniadau hyn. EICH PROFIAD GWEINYDDU BUSNES
MENTORA Caiff ein myfyrwyr MBA gyfle hefyd i gael eu mentora gan rywun ym myd busnes er mwyn cael arweiniad a chyngor pwrpasol drwy gydol y rhaglen ac i reoli prosiectau a bennir gan fusnes. Mae hyn yn ein galluogi i ddethol ar sail perfformiad fel y nodir nes ymlaen yn y llyfryn. DOSBARTHIADAU MEISTR Drwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn nifer o ddosbarthiadau meistr a gynhelir gan academyddion ac arweinwyr diwydiant, er mwyn elwa o wybodaeth a chyfleoedd pellach i drafod heriau busnes byd-eang.
Rydym yn manteisio ar arbenigedd yr Ysgol Reolaeth gyfan i annog meddylfryd ‘yr hyn sy’n gweithio’ i heriau na ellir eu datrys gan unigolion neu sefydliadau sy’n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Mae ein MBA yn seiliedig ar egwyddor cyd-greu gwybodaeth berthnasol gan ddefnyddio ymchwil academaidd sefydledig o amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol ochr yn ochr â’ch profiad eich hun a phrofiad busnesau allanol ac arweinwyr cymdeithas. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wrando ar siaradwyr blaenllaw o fyd busnes ac i ddysgu gan arweinwyr busnesau mawr a bach, rhai lleol a rhyngwladol.
MODIWLAU Mae’r rhaglen MBA yn seiliedig ar y rhyngweithio rhwng damcaniaeth ac ymarfer. Bydd yn rhoi gwerthfawrogiad beirniadol i chi o werthoedd dynol yng nghyd-destun busnes a rheoli drwy ystod o fodiwlau; rhai wedi’u seilio mewn meysydd academaidd, eraill wedi’u hysbrydoli’n fwy uniongyrchol gan ofynion ymarfer. Cyflwynir y modiwlau sy’n llunio’r MBA i fyfyrwyr amser llawn dros dri bloc addysgu. Mae’r wybodaeth lawn am yr opsiynau amser llawn a rhan-amser ar ein gwefan: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes/mba- gweinyddu-busnes
LLAWN AMSER Archwilio Diben Sefydliadol MODIWLAU GORFODOL Ymdrin ag Arloesi a Newid Datblygu Sgiliau Proffesiynol Deall Cyllid
Creu Gwerth Cynaliadwy Dadansoddi Data a Gwneud Penderfyniadau Arwain gydag Uniondeb Ymchwil ar Waith
RHAN AMSER
Arwain gydag Uniondeb BLWYDDYN 2: MODIWLAU GORFODOL Creu Gwerth Cynaliadwy Ymchwil ar Waith (Rhan 2) Dadansoddi Data a Gwneud Penderfyniadau
BLWYDDYN 1: MODIWLAU GORFODOL
Archwilio Diben Sefydliadol: Hanfodion
Archwilio Diben Sefydliadol: Ymatebion a Chymwysiadau
Ymdrin ag Arloesi a Newid: Hanfodion Ymdrin ag Arloesi a Newid: Defnyddio Deall Cyllid
Ymchwil ar Waith (Rhan 1)
CYSYLLTU Â NI: E-bost: studyFHSS@abertawe.ac.uk Tel: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ mba
DYSGWCH RAGOR AM Y CWRS GAN GYFARWYDDWR Y RHAGLEN. Sganiwch y côd QR.
CYMERWCH Y CAM NESAF YN EICH GYRFA
1.
EDRYCHWCH AR Y GOFYNION MYNEDIAD: Mae’r rhain yn cynnwys o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol. Dyma’r meysydd eraill i’w hystyried o ran cefndir:
• Gwneud penderfyniadau • Cyfrifoldeb am adnoddau • Arwain tîm • Cydlynu perthnasoedd â chyrff allanol
CYFLWYNO CAIS AR-LEIN Cyflwynwch eich cais ynghyd â’r holl ddogfennaeth ategol. Cofiwch gynnwys CV gyda’ch cais. Os nad ydych yn cynnwys yr holl ddogfennau gofynnol, gall hyn arafu’ch cais. Ewch i: apply.swansea.ac.uk 2. WEDI CYFLWYNO EICH CAIS? Byddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys eich rhif myfyriwr. Rhaid i chi gadw hwn yn ddiogel a’i ddefnyddio yn eich holl ohebiaeth gyda ni o hyn allan. 3. YN AROS AM BENDERFYNIAD? Rydym yn ceisio gwneud penderfyniad ar eich cais cyn gynted â phosib. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn o fewn naw niwrnod gwaith. 4. CYFWELIAD Gallwn gysylltu â chi i gael trafodaeth fer am eich cais fel y gall cyfarwyddwr y rhaglen asesu eich addasrwydd am y cwrs ac ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych . 5.
PENDERFYNIAD Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd penderfyniad wedi’i wneud ar eich cais. 6.
YMGEISIO AM YSGOLORIAETH Mae gennych nifer o opsiynau ysgoloriaeth sydd ar gael i chi i helpu i ariannu eich MBA. 7.
Roedd safon yr addysgu’n ardderchog. Roedd y modiwlau’n heriol ac yn ddiddorol. Roedd y dosbarth yn fach, felly roedd y dysgu’n eithaf dwys ac roedd yn wych astudio gyda phobl â chymaint o brofiadau busnes mewn gwahanol sectorau.
SERENA M. JONES Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Grwp Tai Coastal Cyn-fyfyriwr ar raglen MBA Prifysgol Abertawe
GWRANDEWCH AR EIN CANLLAWIAU GORAU AM SUT I GYFLWYNO CAIS Sganiwch y côd QR i glywed gan gyfarwyddwr y cwrs.
CYMRYD Y CAM NESAF YN EICH GYRFA
CYMORTH CYFLOGADWYEDD Mae gan yr Ysgol Reolaeth dîm cyflogadwyedd ymroddedig i ddiwallu’ch anghenion chi fel myfyriwr MBA. Mae’r gwasanaeth hwn yn sicrhau bod eich dyheadau am yrfa a’ch cyflogadwyedd yn cael eu hybu a’u bod yn parhau’n flaenoriaeth drwy gydol eich cwrs. Gall y cymorth gynnwys: •Cyfleoedd pwrpasol i rwydweithio •Mireinio eich presenoldeb proffesiynol ar-lein •Cyfleoedd i fentora a chael eich mentora •Cyfle i ymuno â rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr • Dosbarthiadau meistr Ni fydd y cymorth cyflogadwyedd yn dod i ben ar ôl i chi raddio o’ch rhaglen MBA. Byddwch yn dal i allu elwa o amrywiaeth eang o fanteision, gan gynnwys cyfweliadau gyrfa un i un, cyngor drwy e-bost a LinkedIn, digwyddiadau rhwydweithio ac arweiniad ar ddatblygiad proffesiynol parhaus am hyd at bum mlynedd ar ôl i chi raddio. CYSWLLT PRIFYSGOL ABERTAWE Gallwch ddod o hyd i gysylltiadau drwy gymuned fyd-eang Prifysgol Abertawe a hyrwyddo eich gyrfa gyda rhwydweithio proffesiynol drwy gofrestru ar gyfer Cyswllt Prifysgol Abertawe . Mae’r wefan yn eich galluogi i ailgysylltu â hen gyd-fyfyrwyr yn ogystal â’ch galluogi i ddefnyddio amgylchedd dibynadwy ym Mhrifysgol Abertawe i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol. Cofrestrwch heddiw: swanseauniconnect.com
CREU DYFODOL CYNALIADWY I BAWB
Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol gynaliadwy flaenllaw a chanddi uchelgeisiau i helpu i ysgogi datblygu cynaliadwy, yn y DU ac yn fyd- eang. Mae Prifysgol Abertawe yn y 9fed safle ar hyn o bryd yng Nghynghrair Prifysgolion Gwyrdd The Guardian, ac rydym yn falch o’n cyflawniadau niferus i wreiddio cynaliadwyedd ym mywyd y Brifysgol. Wrth astudio am MBA gyda ni, cewch gyfle i weithio mewn Prifysgol lle mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein holl weithgarwch, gyda’r tîm ymroddedig o arbenigwyr cynaliadwyedd sy’n gweithio yn y Brifysgol. Mae aelodau ein tîm yn cyfuno arbenigedd o ddiwydiant a’r byd academaidd, ac maent yn ymrwymedig i gydweithio â staff, myfyrwyr a’r gymuned i sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu ar sail gadarn a chynaliadwy, gan gydymffurfio â’r rheoliadau priodol, fel yr amlinellwyd yn ein Cynllun Strategol 2020. Mae’r tîm yn rheoli cyllideb flynyddol sy’n cynyddu bob blwyddyn i gefnogi ein gwaith mewn meysydd megis trafnidiaeth a theithio cynaliadwy, rheoli Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, gwastraff ac ailgylchu, a datblygu prosiectau a mentrau cynaliadwyedd.
DOSBARTH GWOBR 1 AF (peopleandplanet.org/university-league)
LLYTHYROL CARBON ARDYSTIO
GRADDFA GYNALADWY 100 YN Y UCHAF
EIN TÎM MBA
YR ATHRO PAUL JONES Meysydd Arbenigedd Ymddygiad Entrepreneuraidd Rheoli Busnes Bach Defnyddio Technoleg Gwybodaeth Entrepreneuriaeth yng nghyd-destunau’r Byd Datblygol Addysg Entrepreneuriaeth
DR PAUL DAVIES Meysydd Arbenigedd Strategaeth Meddwl trwy Systemau Cymunedau Ymarfer Ymarfer Cydweithredol
DR SIMON BROOKS Meysydd Arbenigedd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Economi gylchol Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ar gyfer Busnesau Bach Moeseg busnes
DR JOCELYN FINNIEAR Meysydd Arbenigedd Rheoli Adnoddau Dynol Perthnasoedd Cyflogaeth
Profiadau Gwaith Ymchwil Ansoddol
YR ATHRO KATRINA PRITCHARD Meysydd Arbenigedd Y Cyfryngau Digidol Hunaniaeth ac Amrywiaeth mewn Cyflogaeth Ymagweddau Methodolegol Ansoddol Rhywedd, Gwaith a’r Sefydliad
MS SIAN RODERICK Meysydd Arbenigedd Dulliau Ymchwil Ymddygiad Sefydliadol Rheoli Arloesedd Seicoleg Defnyddwyr
DR LOUISA HUXTABLE-THOMAS Meysydd Arbenigedd Entrepreneuriaeth Arweinyddiaeth Datblygu Cynaliadwy Dysgu Seiliedig ar Waith Dulliau Addysgeg ar gyfer Graddau Ymchwil Ôl-raddedig
MRS SARAH JONES Meysydd Arbenigedd Cyfrifeg Rheoli Cyfrifeg Rheoli Strategol Penderfynu ar gyfer Busnes
YR ATHRO MIKE BUCKLE Meysydd Arbenigedd Marchnadoedd Ariannol Rheoli Portffolios Buddsoddi Cyfrifol/Cynaliadwy Strategaethau Datgronni
I gael rhagor o wybodaeth am academyddion yr ysgol reolaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/staff/ysgol-reolaeth
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gennym dîm Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth ymroddedig wrth law i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, myfyriwr-ganolog ar draws sawl maes allweddol gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
Mae’r rhaglen MBA wedi trawsnewid sut rwy’n meddwl ac mae wedi ail-lunio fy nealltwriaeth o arweinyddiaeth, o gynaliadwyedd ac o gyfrifoldeb corfforaethol. Mae’r gefnogaeth ardderchog a’r ystod eang o adnoddau o ansawdd uchel wedi grymuso’r fam hon i ddau fab ifanc o Nigeria i anelu’n uwch yn ei gyrfa. Mae’r MBA o ansawdd bydeang, ac rwy’n ei argymell i unrhyw un ni waeth beth yw eich cefndir, yn enwedig os ydych wedi blino ar y status quo.
ENIOLA OYEBANJI Dadansoddwr Busnes, GIG Cyn-fyfyriwr MBA Prifysgol Abertawe
EIN PARTNERIAETHAU DIWYDIANT
Mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau â nifer o bartneriaid diwydiannol sy’n gweithio’n agos gyda ni i wella ein harferion addysgu a phrofiad y myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn cydweithredu â chwmnïau megis TATA Steel, Admiral, Fujitsu, Pfizer, Land Rover a llawer mwy. Gall y partneriaethau hyn gynnig cyfleoedd i dreulio blwyddyn mewn diwydiant, ymgymryd â phrosiectau a arweinir gan fyfyrwyr, nawdd a chydweithrediadau ymchwil; mae pob un o’r rhain yn gwella ein safleoedd yn y tablau o brifysgolion ac yn darparu cyfleoedd gwell i’n myfyrwyr. Yn ystod eich MBA, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ar sail anghenion cleient, a allai gael ei lywio gan bartneriaid yr MBA, gan gynnwys Fujitsu, Pfizer a Siambr Fasnach De Cymru. I fyfyrwyr sy’n rhagori yn eu hastudiaethau, bydd cyfleoedd i gael eich mentora gan ymarferwyr proffesiynol mewn diwydiant a fydd yn rhoi hwb i’ch cymhwyster a’ch profiad.
PARTNERIAID DIWYDIANNOL Y RHAGLEN MBA
Mae Pfizer yn cydweithredu â Phrifysgol Abertawe ar brosiectau ymchwil ac arloesi sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y sector iechyd a gwyddor bywyd, gan gefnogi’r cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ag uchelgais i effeithio ar economïau iechyd eraill.
Y nod yw rhannu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i ddatblygu system iechyd sy’n gweithio gyda diwydiant, y GIG ac academyddion i wella gofal iechyd yn y rhanbarth hwn; gan greu ecosystemau cysylltiedig ar yr un pryd, sy’n cysylltu meysydd academaidd, busnes, iechyd a data i gyfnewid syniadau a chynnal ei gilydd er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer cleifion a rhoi arloesi iechyd ar waith yn fyd-eang.
Mae Siambr Fasnach De Cymru’n cysylltu pobl a busnesau allweddol â’i gilydd – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae eu digwyddiadau eithriadol ac addysgol yn ysbrydoli, yn ysgogi ac yn addysgu. Gall un cyswllt allweddol gynyddu eich cyfleoedd i wneud y cysylltiadau gwerthfawr hynny.
Bydd eu digwyddiadau, eu cysylltiadau â busnesau bach a chanolig a’r cyflwyniadau personol gallant eu cynnig i chi agor y drws i fyd newydd o gyfleoedd a dyna pam mae’r bartneriaeth yn bwysig i’r Ysgol Reolaeth ac yn fuddiol i’n myfyrwyr MBA.
EFFAITH EIN HYMCHWIL
PODLEDIAD ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG
CANOLFANNAU YMCHWIL: Labordy Arloesi Abertawe (i-lab): Yn datblygu dealltwriaeth ehangach o arloesedd, ei reolaeth a’i ddylanwad ar ddefnyddwyr, gweithwyr, dinasyddion, sefydliadau, marchnadoedd a chymdeithas. Canolfan Cyllid Empirig Hawkes: Ei nod yw hyrwyddo dealltwriaeth, datblygiad a chymhwysiad offer a thechnegau sy’n berthnasol i ddadansoddi data a ffenomenau ariannol a macro- economaidd. Y Ganolfan Pobl a Sefydliadau (C4PO) : Ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol sy’n ymwneud â materion sy’n gysylltiedig ag Ymddygiad Sefydliadol a Rheoli Adnoddau Dynol. Y Ganolfan Ymchwil i’r Economi Ymwelwyr (CVER): Ymroddedig i greu, marchnata a rheoli cymunedau bywiog, cynhwysol a chynaliadwy ledled Cymru a’r tu hwnt. YN FYD-EANG O WLEDYDD Drwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob cwr o’r byd, ein nod yw creu ymchwil gydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol a mynd i’r afael â heriau byd-eang. Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, cefnogwyr diwydiannol a myfyrwyr drwy ymgorffori gweithio mewn partneriaeth a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni a lledaenu gwaith ymchwil o’r radd flaenaf er mwyn meithrin gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth ac effaith. SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH • Addysgu diwydiant am ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol • Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â marchnadoedd datblygol • Dylanwadu ar drafodaethau sy’n llywio polisi CYDWEITHREDIADAU Â SEFYDLIADAU MEWN 53
Mae’r Athro Yogesh K. Dwivedi yn Farchnata Digidol ac Arloesedd a Dr Laurie Hughes ‘GENERATIVE AI: WHAT IS IT AND WHAT ARE THE IMPLICATIONS FOR SOCIETY?’
Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn gangen o ddeallusrwydd artiffisial sy’n defnyddio algorithmau dysgu dwfn a hyfforddwyd ar gronfeydd data mawr i greu cynnwys megis testun, lluniau, fideos a cherddoriaeth. Mae ChatGPT yn un enghraifft yn unig o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol a all greu ymatebion tebyg i’r hyn a geir gan bobl i awgrymiadau testun a gellir ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion megis sgwrsfotiaid, cyfieithu ieithoedd a chreu cynnwys. Wrth i’r technolegau hyn barhau i ddatblygu, mae ganddynt y potensial i weddnewid y ffordd rydym yn rhyngweithio â pheiriannau a’n gilydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r goblygiadau moesegol posib a sicrhau bod y technolegau hyn yn cael eu defnyddio er budd pawb. Yn y bennod hon, mae’r Athro Yogesh Dwivedi a Dr Laurie Hughes yn trafod y manteision, yr heriau a’r risgiau posib sy’n gysylltiedig â defnyddio platfformau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol megis ChatGPT mewn addysg a goblygiadau posib deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i unigolion, cyrff a sefydliadau yn y gymdeithas ehangach.
I glywed mwy am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, sganiwch y cod QR neu ewch i: swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ podlediadau/tymor-3/goblygiadau- deallusrwydd-artiffisial-cynhyrchiol
CYFLEUSTERAU Mae gan ddysgwyr proffesiynol yn yr Ysgol Reolaeth fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau sy’n arwain y sector, gan gynnwys: CAMPWS Y BAE Mae Campws y Bae yn gartref i lawer o gyfleusterau sydd â’r nod o ddarparu amgylchedd dysgu gwych. Mae hyn yn cynnwys mannau astudio ym mhob adeilad ar y campws, llyfrgell o’r radd flaenaf, siopau coffi (gan gynnwys Costa Coffee), Tesco Express a Subway. YSTAFELL DYSGWYR PROFFESIYNOL Ystafell Dysgu Proffesiynol bwrpasol ar gyfer addysgu a gweithio cydweithredol. Gweithfannau â chyfrifiaduron a mannau gweithio i grwpiau er mwyn meithrin meddwl yn greadigol a phrosiectau arloesol. YSGOL REOLAETH Mae adeilad pwrpasol yr Ysgol Reolaeth yn cynnwys derbynfa, ystafelloedd cyfweld â chleientiaid, mannau cydweithio i fyfyrwyr a swyddfeydd i staff. Hefyd ceir gofod mawr lle gall ein partneriaid gydweithio mewn amgylchedd anffurfiol, creadigol. LLYFRGELL Y BAE Mae Llyfrgell Campws y Bae yn llyfrgell fodern sy’n darparu gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd uchel i’r holl fyfyrwyr a staff, yn ogystal â’r cyhoedd. Rydym yn datblygu’r gwasanaethau’n hyn drwy’r amser er mwyn cefnogi gweithgareddau dysgu, addysgu, ymchwil a chorfforaethol y Brifysgol.
ARCHWILIO ABERTAWE
Mae Abertawe’n ddinas arfordirol yn ne Cymru a chanddi awyrgylch modern a chosmopolitan, yn agos at benrhyn Gwyr a’i draethau arobryn.
Mae Cymru’n un o’r bedair gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig, mae ganddi ei hiaith ei hun – iaith
BAE’R TRI CHLOGWYN
fyw hynaf Ewrop – ac mae’r Brifysgol yn cynnig gwersi Cymraeg am bris rhad os hoffech ddysgu’r iaith. Mae gan Gymru nifer helaeth o gestyll i’w harchwilio, mynyddoedd i’w dringo a seigiau lleol blasus i’w profi – ffordd berffaith o ymlacio ar ôl wythnos hir o astudio. P’un a ydych yn gwirioni ar chwaraeon, yn dwlu ar ddiwylliant neu’n awchu am antur awyr gored, bydd digon i’ch difyrru. Y MWMBWLS Mae’r Mwmbwls yn bentref bywiog ar lan y môr ar ochr orllewinol Bae Abertawe lle ceir dros 120 o siopau, bwytai a thafarndai. Mae’r pentref pert yn gartref i Bier y Mwmbwls, pier Fictoraidd 254 metr o hyd a adeiladwyd ym 1898, a Chastell Ystumllwynarth, castell carreg o oes y Normaniaid sy’n sefyll mewn tir helaeth â golygfeydd dros Fae Abertawe. Mae Gwyl Wystrys y Mwmbwls yn un o lawer o atyniadau ar gyfer y rhai sy’n dwlu ar fwyd, ac mae’r dadlau ynglyn â pharlwr hufen iâ gorau’r Mwmbwls yr un mor ffyrnig ag erioed. CANOLFAN DYLAN THOMAS Mae Canolfan Dylan Thomas yn gartref i arddangosfa barhaol am fywyd a gwaith un o gewri llenyddol yr 20fed ganrif. Ganwyd a magwyd Dylan Thomas yn Abertawe ac mae amrywiaeth o deithiau a llyfrau sy’n eich galluogi i adnabod mab enwocaf Abertawe’n well. GERDDI CLUN Mae Gerddi Clun yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion mewn parcdir hardd. Yn enwog yn fyd-eang am y casgliad rhagorol o rododendronau, ieir gwynion ac enkianthus, mae’r gerddi’n cynnig hafan o lonyddwch, planhigion toreithiog a nodweddion diddorol. Mae’r parciau mawreddog â statws y faner werdd yn ddihangfa i bobl rhag bwrlwm bywyd y ddinas. Mae’r gerddi’n wirioneddol ysblennydd drwy gydol y flwyddyn.
STRYD Y GWYNT
MARINA ABERTAWE
BAW ABERTAWE
PENRHYN GWYR Mae Penrhyn Gwyr yn gartref i bum traeth baner las a hon oedd yr ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Felly, Penrhyn Gwyr yw’r lle perffaith i adolygu, ymlacio neu fwynhau barbeciw ac mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer anturiaethau awyr agored. Rhaid i chi weld y dirwedd ogoneddus â’ch llygaid eich hun. BAE’R TRI CHLOGWYN Mae Bae’r Tri Chlogwyn ymhlith enillwyr pleidleisiau am dirweddau mwyaf dramatig Prydain yn rheolaidd. Mae ei leoliad hardd, wedi’i amgylchynu gan dri chlogwyn calchfaen, yn berffaith i ffotograffwyr brwd neu anturiaethwyr. Ar ben taith 20 munud ar hyd llwybr i ddatgelu’r tri chlogwyn trawiadol, mae’r traeth yn un o atyniadau arfordirol llonydd a braf Cymru. BAE RHOSILI Mae Bae Rhosili yn gyrchfan eiconig sy’n cynnig golygfeydd panoramig trawiadol a llwybrau cerdded da. Wedi’i amgylchynu gan lwybrau serth i lawr wyneb y clogwyn, cafodd y traeth ei bleidleisio’n Draeth Gorau Cymru 2017 ac yn un o 10 Traeth Gorau’r DU (Gwobrau Dewis y Teithiwr Trip Advisor). Mae’n hafan i fywyd gwyllt hefyd lle mae nifer o rywogaethau adar yn nythu ar y clogwyni a gwelir defaid yn crwydro’r glaswellt. BAE LANGLAND Mae Bae Langland yn atyniad arfordirol poblogaidd ar benrhyn Gwyr. Mae’n draeth syrffio poblogaidd sy’n ennill gwobr y Faner Las Ewropeaidd yn rheolaidd am ei ansawdd. Yn enwog am ei ‘chymuned’ o gytiau traeth gwyrdd, mae’r ardal yn ddelfrydol ar gyfer ffotograffwyr brwd.
MARINA ABERTAWE
STADIWM SWANSEA.COM
POBLOGAETH 245,500
PELLTER O LUNDAIN: 300 CILOMEDR
BAE LANGLAND
PELLTER O FAES AWYR RHYNGWLADOL CAERDYDD: 70 CILOMEDR
PELLTER O FAES AWYR RHYNGWLADOL HEATHROW: 277 CILOMEDR
ˆ
CARTREF GWYR Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.
3 AWR AR Y TRÊN O ABERTAWE I LUNDAIN
Y MWMBWLS
YR YSGOL REOLAETH SY’N WIRIONEDDOL FYD-EANG
Ar ôl i chi raddio o Brifysgol Abertawe, byddwch yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o dros 115,000 o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol. Gyda chymuned gynyddol o gyn-fyfyrwyr sy’n byw ac yn gweithio dramor, byddwch yn cwrdd â ffrindiau a chydweithwyr o’r un meddylfryd lle bynnag yr ewch chi yn y byd.
“Mae’r darlithwyr yn wych. Maen nhw bob amser wrth law os oes angen cymorth arnoch ac ar gael drwy e-bost. Mae oriau swyddfa hefyd yn gyfle
gwych i fyfyrwyr ofyn cwestiynau.” Peter Doyle, Minnesota, UDA.
“Roedd fy narlithwyr yn gymwys iawn ac roedden nhw’n defnyddio arddulliau dysgu amrywiol i wneud modiwlau’n ddiddorol. Roedd llawer o’r darlithwyr o wledydd gwahanol a oedd yn rhoi cyfle i mi fanteisio ar gael fy addysgu gan academyddion â gwybodaeth helaeth ar lefel ryngwladol.” Abdulaziz Alrefaie, Kuwait
“Dewch i’r brifysgol â meddylfryd agored. Manteisiwch ar y cyfleusterau; mae’r brifysgol yn cynnig adnoddau helaeth ac yn rhoi sylfaen gadarn i’ch paratoi ar gyfer byd gwaith.” Osman Faisal, Lloegr
“Ar ôl cymhwyso, symudais i’r swyddfa yn Canary Wharf, Llundain, ac ymunais â’r adran sicrwydd estynedig i ddarparu sicrwydd parhaus i reoleiddwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr.” Chengyao Fan, Chengdu, Tsieina
“Rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am roi i mi’r platfform, yr adnoddau a’r cymorth delfrydol i gyflawni amcan sylfaenol fy ngyrfa, Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf!” Leonard Savio, Bangalore, India
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Mae rhaglen MBA Prifysgol Abertawe yn rhoi dealltwriaeth eang o sut mae busnesau’n gweithredu, o gyllid a marchnata i weithrediadau ac arweinyddiaeth. Mae’r wybodaeth gyfannol hon o fudd i weithwyr proffesiynol wrth ddechrau busnes newydd neu gael dealltwriaeth gryfach o fyd busnes. Mae’r rhaglen hefyd yn meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau ac arweinyddiaeth sy’n werthfawr mewn busnes, ac mewn sawl agwedd ar fywyd hefyd. Hefyd, mae’n helpu graddedigion i wella rhwydweithio â myfyrwyr rhyngwladol eraill sydd â llwybrau gyrfa tebyg.
ALINA RODRÍGUEZ PALACIOS Gweinyddu Busnes, MBA
Gwnaeth y cwrs ragori ar ddisgwyliadau, drwy gynnig technegau arloesi a rheoli busnes blaengar, a hefyd drwy roi cyfle i ddysgu gan academyddion blaenllaw sydd â chyfoeth o wybodaeth. Creodd hyn, ynghyd â chefndiroedd a phrofiadau amrywiol fy nghyd-fyfyrwyr, amgylchedd dysgu gwirioneddol gyfoethog a phleserus.
JUNE ZHANG Gweinyddu Busnes, MBA
Mae dilyn cwrs MBA ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn brofiad trawsnewidiol, gan roi cyfuniad unigryw o graffter busnes i mi, sy’n cynnwys agweddau hanfodol megis arloesi, diben sefydliadol, rheoli newid, dealltwriaeth ariannol, arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau, dadansoddi data, a chreu gwerth cynaliadwy. Mae’r rhaglen wedi atgyfnerthu fy 18 mlynedd o brofiad ymarferol a hefyd mae wedi fy rhoi i mi safbwyntiau ffres a syniadau arloesol, gan feithrin yr hyder ynof i fynd i’r afael â heriau mewn unrhyw wlad neu faes.
SAM TANEJA Gweinyddu Busnes, MBA
Fel myfyriwr rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i gael cyfle i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi bod yn brofiad gwych fel myfyriwr. Fel myfyriwr, gwnes i
elwa o gyfuniad cyfoethog o ragoriaeth academaidd a bywyd bywiog y campws. Roedd y darlithoedd yn afaelgar a cheir academyddion profiadol sydd bob amser yn barod i’n harwain yn ein cynnydd academaidd. Mewn dosbarth o fyfyrwyr amlddiwylliannol, roedd yn brofiad gwych cysylltu â phawb a rhannu ein profiadau bywyd. Ar y cyfan, mae astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn daith fythgofiadwy i mi gan gyfrannu at fy natblygiad academaidd a phersonol.
ANINDA HALDER Gweinyddu Busnes, MBA
Roedd symud o Goa i Abertawe yn frawychus i ddechrau, ond roedd yr amgylchedd croesawgar a chynhwysol yn y brifysgol yn ei wneud yn brofiad hwylus a phleserus. Wrth fyw mewn gwlad newydd, rwyf wedi dod i gysylltiad â diwylliannau, safbwyntiau a syniadau amrywiol, sydd wedi dylanwadu ar fy meddylfryd yn sylweddol. Mae’r safbwynt rhyngwladol hwn yn un o agweddau mwyaf gwerthfawr fy nhaith MBA. Mae wedi meithrin dealltwriaeth ddyfnach o arferion busnes byd-eang a gwella fy ngalluedd diwylliannol.
PRIYANKA PRATIK SALKAR Gweinyddu Busnes, MBA
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig i’ch helpu i dalu am eich MBA.
YSGOLORIAETH DATBLYGU DYFODOL Os oes gennych gynnig i astudio gyda ni, gallwn gynnig hyd at £4,000 i fyfyrwyr MBA, a fydd yn cael ei dynnu’n awtomatig o’r ffïoedd dysgu. Mae ein rhaglen Datblygu Dyfodol yn fwy na phecyn ysgoloriaeth; ynghyd â chymorth ariannol am flwyddyn academaidd, cewch hefyd gyfle i feithrin sgiliau gwerthfawr a fydd yn gwella eich gyrfa. Bydd derbynwyr yr Ysgoloriaeth yn cael cyfle i weithio gydag academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol yn yr Ysgol ar nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ ysgol-reolaeth/ysgoloriaeth-datblygu-dyfodol BWRSARIAETHAU ÔL-RADDEDIG LLYWODRAETH CYMRU Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr o Gymru/yr UE sy’n dechrau cyrsiau gradd meistr ym mis Medi 2020. Bydd hyn ar ffurf bwrsariaethau nad oes rhaid eu had-dalu ac sy’n cael eu gweinyddu gan bob prifysgol yng Nghymru yn unigol. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ol- raddedig/ysgoloriaethau YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH RHYNGWLADOL Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Rhyngwladol yn werth £4,000, i ymgeiswyr sy’n dangos rhagoriaeth academaidd neu’r potensial i gyflawni hynny yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Dyfernir ysgoloriaethau fel gostyngiad oddi ar ffïoedd dysgu. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/international-students/my- finances/international-scholarships CYN-FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG RHYNGWLADOL Mae’r cyfle hwn ar agor i bob ymgeisydd sy’n gyn-fyfyriwr rhyngwladol o Brifysgol Abertawe sy’n cyflwyno cais am radd Meistr a Addysgir neu drwy Ymchwil mewn unrhyw faes pwnc. Os ydych yn gymwys am yr ysgoloriaeth hon, gallech gael cymorth gwerth hyd at £5,000 y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/ international-students/my-finances/international-scholarships
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
CYSYLLTWCH Â NI
Addysg Weithredol Ysgol Reolaeth Campws y Bae
Abertawe SA1 8EN Cymru, DU
StudyFHSS@abertawe.ac.uk
swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch am Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28Made with FlippingBook HTML5