CYMRYD Y CAM NESAF YN EICH GYRFA
CYMORTH CYFLOGADWYEDD Mae gan yr Ysgol Reolaeth dîm cyflogadwyedd ymroddedig i ddiwallu’ch anghenion chi fel myfyriwr MBA. Mae’r gwasanaeth hwn yn sicrhau bod eich dyheadau am yrfa a’ch cyflogadwyedd yn cael eu hybu a’u bod yn parhau’n flaenoriaeth drwy gydol eich cwrs. Gall y cymorth gynnwys: •Cyfleoedd pwrpasol i rwydweithio •Mireinio eich presenoldeb proffesiynol ar-lein •Cyfleoedd i fentora a chael eich mentora •Cyfle i ymuno â rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr • Dosbarthiadau meistr Ni fydd y cymorth cyflogadwyedd yn dod i ben ar ôl i chi raddio o’ch rhaglen MBA. Byddwch yn dal i allu elwa o amrywiaeth eang o fanteision, gan gynnwys cyfweliadau gyrfa un i un, cyngor drwy e-bost a LinkedIn, digwyddiadau rhwydweithio ac arweiniad ar ddatblygiad proffesiynol parhaus am hyd at bum mlynedd ar ôl i chi raddio. CYSWLLT PRIFYSGOL ABERTAWE Gallwch ddod o hyd i gysylltiadau drwy gymuned fyd-eang Prifysgol Abertawe a hyrwyddo eich gyrfa gyda rhwydweithio proffesiynol drwy gofrestru ar gyfer Cyswllt Prifysgol Abertawe . Mae’r wefan yn eich galluogi i ailgysylltu â hen gyd-fyfyrwyr yn ogystal â’ch galluogi i ddefnyddio amgylchedd dibynadwy ym Mhrifysgol Abertawe i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol. Cofrestrwch heddiw: swanseauniconnect.com
Made with FlippingBook HTML5