Gweinyddu Busnes, MBA

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig i’ch helpu i dalu am eich MBA.

YSGOLORIAETH DATBLYGU DYFODOL Os oes gennych gynnig i astudio gyda ni, gallwn gynnig hyd at £4,000 i fyfyrwyr MBA, a fydd yn cael ei dynnu’n awtomatig o’r ffïoedd dysgu. Mae ein rhaglen Datblygu Dyfodol yn fwy na phecyn ysgoloriaeth; ynghyd â chymorth ariannol am flwyddyn academaidd, cewch hefyd gyfle i feithrin sgiliau gwerthfawr a fydd yn gwella eich gyrfa. Bydd derbynwyr yr Ysgoloriaeth yn cael cyfle i weithio gydag academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol yn yr Ysgol ar nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ ysgol-reolaeth/ysgoloriaeth-datblygu-dyfodol BWRSARIAETHAU ÔL-RADDEDIG LLYWODRAETH CYMRU Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr o Gymru/yr UE sy’n dechrau cyrsiau gradd meistr ym mis Medi 2020. Bydd hyn ar ffurf bwrsariaethau nad oes rhaid eu had-dalu ac sy’n cael eu gweinyddu gan bob prifysgol yng Nghymru yn unigol. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ol- raddedig/ysgoloriaethau YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH RHYNGWLADOL Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Rhyngwladol yn werth £4,000, i ymgeiswyr sy’n dangos rhagoriaeth academaidd neu’r potensial i gyflawni hynny yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Dyfernir ysgoloriaethau fel gostyngiad oddi ar ffïoedd dysgu. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/international-students/my- finances/international-scholarships CYN-FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG RHYNGWLADOL Mae’r cyfle hwn ar agor i bob ymgeisydd sy’n gyn-fyfyriwr rhyngwladol o Brifysgol Abertawe sy’n cyflwyno cais am radd Meistr a Addysgir neu drwy Ymchwil mewn unrhyw faes pwnc. Os ydych yn gymwys am yr ysgoloriaeth hon, gallech gael cymorth gwerth hyd at £5,000 y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/ international-students/my-finances/international-scholarships

Made with FlippingBook HTML5