Gweinyddu Busnes, MBA

Mae’r Brifysgol wedi bod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi ers ei sefydlu ym 1920 ac mae ein hymchwil o safon fyd-eang yn cael effaith llawer ehangach ar iechyd, cyfoeth, diwylliant a lles ein cymdeithas. Rydym yn arwain Cymru mewn meysydd ymchwil sy’n hollbwysig i dwf economaidd a lles y boblogaeth, gan gynnwys yn y gwyddorau amgylcheddol, meddygaeth a gwaith cymdeithasol. Rydym yn brifysgol flaenllaw a chynaliadwy sydd ag uchelgais i helpu i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yn y DU ac ymhellach i ffwrdd ac ar hyn o bryd rydym yn yr 8fed safle yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet, ac rydym yn chwarae rôl datblygu cynaliadwy hanfodol yn y rhanbarth, y DU ac yn fyd-eang. Lleolir Prifysgol Abertawe ar ddau gampws trawiadol ar bob pen glan môr Abertawe. Mae Campws Parc Singleton mewn parcdir aeddfed a gerddi botaneg, sy’n edrych dros draeth Bae Abertawe ac mae Campws y Bae ar ymyl y traeth ar y ffordd ddwyreiniol i ddinas Abertawe. Mae ein campws deuol amlddiwylliannol yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr, staff a’r gymuned a ‘Phrofiad Abertawe ’ yw’r enw a ddefnyddir yn aml am yr awyrgylch cyfeillgar a hamddenol Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dyfarnwyd bod 100% o’n hamgylchedd ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol, sef cynnydd o 12.5%. Dyfarnwyd bod 23.4% o’n hallbynnau ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang, sef cynnydd o 14.5%, a bod 80% o effaith ein hymchwil yn rhagorol ac yn creu effeithiau sylweddol i awn o ran eu cyrhaeddiad a’u harwyddocâd. YNGLYN Â PHRIFYSGOL ABERTAWE

CROESO

Mae’n bleser mawr gennym estyn y croeso cynhesaf i’n rhaglen MBA Gweinyddu Busnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu deinamig yn mynd law yn llaw ag ymchwil o fri ac arfer sy’n arwain y diwydiant. Mae ein Hysgol fywiog yn dwyn ynghyd arbenigwyr arloesi sy’n arweinwyr yn ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn yng ngrym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddedig yn galluogi ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol gwybodaeth a damcaniaethau academaidd, gan ddarparu cymorth mewn darlithoedd, seminarau, ac fel mentoriaid academaidd. Mae’n bleser gennyf eich cyflwyno i’r llyfryn hwn sy’n hyrwyddo’r cyfleoedd a gynigir gan y rhaglen MBA. Dan arweiniad arweinwyr academaidd uchel eu parch o ystod o sectorau a disgyblaethau, mae’n cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol a sefydliadau gymryd rhan mewn addysg, ymchwil ar waith, ac arloesi cynaliadwy. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hymrwymiad i feithrin arloesedd cynaliadwy. P’un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio gwella eich datblygiad proffesiynol eich hun, neu’n sefydliad sy’n dymuno gweithredu mentrau newid, mae’r MBA yn darparu addysg wedi’i theilwra, ymchwil ar waith a phrosiect cleient gyda diwydiant lleol i ddiwallu eich anghenion, y mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol. Wrth i chi bori drwy’r pecyn hwn, rwy’n eich gwahodd i archwilio ein rhaglen MBA a darganfod sut y gallwn eich helpu i gyflawni eich nodau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r rhaglen MBA ym Mhrifysgol Abertawe a’ch cefnogi ar eich taith tuag at lwyddiannau newydd.

Dr Paul G. Davies MBA - Cyfarwyddwr Rhaglen

Made with FlippingBook HTML5