Gweinyddu Busnes, MBA

YNGLYN Â’R YSGOL REOLAETH

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe’n un o’r darparwyr mwyaf blaenllaw yn y DU ym maes addysg Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid, Marchnata, Twristiaeth ac Economeg. Mae’n darparu amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyfleoedd cydweithredu. Adlewyrchir ein cysylltiadau cryf â diwydiant a chyrff achredu proffesiynol yn ein gweithgareddau addysgu blaengar a’n hymchwil sy’n torri tir newydd, gan sicrhau cychwyn gwych i yrfaoedd ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid. Lleolir yr Ysgol ar gampws trawiadol y Bae, sy’n dafliad carreg yn unig o’r traeth cyfagos a hanner milltir o goridor yr M4; mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i dros 150 o staff a thros 2000 o fyfyrwyr. Mae ei chyfleusterau o safon fyd-eang, gan gynnwys atriwm ysblennydd, ystafelloedd addysgu, ystafelloedd cyfarfod a labordai cyfrifiaduron, yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol i’w myfyrwyr.

Mae gan yr Ysgol brofiad rhagorol o addysgu rhai o raddedigion mwyaf llwyddiannus y DU. Mae’r profiad hwnnw, ynghyd â’i staff egnïol a blaengar, ei chyfleusterau o’r radd flaenaf a’i chysylltiadau agos â diwydiant yn golygu ei bod yn lle hollol unigryw i astudio ynddo. Mae safleoedd yr Ysgol yn cynnwys: Mae’r pwnc Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi cael ei restru yn safle 78 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2024 . Mae’r pwnc Astudiaethau Marchnata wedi cael ei restru ymysg y 50 Uchaf yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2024 .

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Reolaeth, ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

Made with FlippingBook HTML5