Gweinyddu Busnes, MBA

GWEINYDDU BUSNES, MBA Mae pwyslais ar werthoedd dynol yn ogystal â gwerth rhanddeiliaid wrth wraidd y rhaglen MBA ym Mhrifysgol Abertawe. Ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno cael effaith ar gymdeithas a mynd i’r afael â’r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth a all fodoli ym maes rheolaeth, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i alluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau byd- eang ar gyfer trefnu a chydweithio, yn ogystal â chystadlu, yn y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.

Gweinyddu Busnes, MBA

Mae ein rhaglen MBA yn herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, gan fyfyrio ar ddamcaniaeth ac arferion rheoli er mwyn nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang. Drwy edrych ar ymagweddau arloesol at arferion gorau busnes, tueddiadau defnydd cyfrifol a ffurfiau sefydliadol hybrid, rydym yn paratoi ein myfyrwyr MBA i fynd i’r afael â’r heriau o sicrhau gwerthoedd dynol mewn cyfnod o drawsnewid byd-eang. Fel myfyriwr MBA, byddwch yn rheoli prosiect sy’n mynd i’r afael â phroblem

go iawn sefydliad sy’n gleient, yn cydweithio â chyfoedion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Byddwch yn gweithio gydag academyddion arbenigol, ymchwilwyr arloesol ac arweinwyr mewn busnes i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol allweddol a chael effaith gadarnhaol gyda’r cyfle i adeiladu ar eich profiad eich hun a herio sut mae busnesau’n gweithredu. Mae’r rhaglen yn darparu ymagwedd wahanol at feddylfryd rheoli, a bydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud penderfyniadau ymwybodol ym myd gwaith ac yn deall effaith ehangach y penderfyniadau hyn. EICH PROFIAD GWEINYDDU BUSNES

MENTORA Caiff ein myfyrwyr MBA gyfle hefyd i gael eu mentora gan rywun ym myd busnes er mwyn cael arweiniad a chyngor pwrpasol drwy gydol y rhaglen ac i reoli prosiectau a bennir gan fusnes. Mae hyn yn ein galluogi i ddethol ar sail perfformiad fel y nodir nes ymlaen yn y llyfryn. DOSBARTHIADAU MEISTR Drwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn nifer o ddosbarthiadau meistr a gynhelir gan academyddion ac arweinwyr diwydiant, er mwyn elwa o wybodaeth a chyfleoedd pellach i drafod heriau busnes byd-eang.

Rydym yn manteisio ar arbenigedd yr Ysgol Reolaeth gyfan i annog meddylfryd ‘yr hyn sy’n gweithio’ i heriau na ellir eu datrys gan unigolion neu sefydliadau sy’n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Mae ein MBA yn seiliedig ar egwyddor cyd-greu gwybodaeth berthnasol gan ddefnyddio ymchwil academaidd sefydledig o amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol ochr yn ochr â’ch profiad eich hun a phrofiad busnesau allanol ac arweinwyr cymdeithas. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wrando ar siaradwyr blaenllaw o fyd busnes ac i ddysgu gan arweinwyr busnesau mawr a bach, rhai lleol a rhyngwladol.

Made with FlippingBook HTML5