Momentum Magazine Autumn 2020 CYM

E R T H Y G L

P R O F F I L Y M C H W I L

SUT MAE CRWBANOD Y MÔR YN DOD O HYD I YNYSOEDD BACH, ANGHYSBELL

DR VICTORIA JENKINS

Mae Dr Victoria Jenkins yn Athro Cysylltiol yn Ysgol y Gyfraith. Mae ei diddordebau ymchwil ym maes cyfraith amgylcheddol ac mae hi wedi treulio dros 20 mlynedd yn cyhoeddi yn y maes hwn. Mae Dr Jenkins yn ymddiddori’n benodol mewn sut gellir defnyddio’r gyfraith a llywodraethu i helpu i fynd i’r afael â heriau cymhleth megis cyflawni datblygu cynaliadwy – neu integreiddio ein nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Yn 2002, cyhoeddodd bapur o’r enw “Placing Sustainable Development at the Heart of Government in the UK: the role of law in the evolution of sustainable development as the central organising principle of government”. Awgrymodd y papur y byddai dyletswydd gyfreithiol parthed datblygu cynaliadwy yn gweithredu fel addysgwr pwerus ar gyfer pob gweithredwr yn ein cymdeithas ac yn rhoi ffocws i weithredu llywodraethol yn benodol. Mae’r syniad hwn wedi bod wrth wraidd deddfwriaeth

newydd yng Nghymru sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mewn llyfr diweddar i nodi pum mlynedd ers i’r Ddeddf ddod i rym ( #futuregen: Lessons from a Small Country ), disgrifiodd pensaer y ddeddfwriaeth honno, Jane Davidson, yr ‘eiliad a roddodd groen gŵydd’ iddi pan sylweddolodd fod Dr Jenkins wedi cynnig y syniad hwn dros ddegawd cyn iddo gael ei drafod gan Aelodau Cynulliad Cymru. Mae Dr Jenkins yn parhau i weithio ar ymchwil sy’n torri tir newydd ym maes cyfraith amgylcheddol a bellach mae hi’n canolbwyntio ar yr heriau cymhleth sy’n gysylltiedig â gwarchod gwerthoedd tirwedd a chyflawni dulliau cynaliadwy o reoli tir. Mae hi wedi cyflwyno ei gwaith fel rhan o ddarlithoedd cyfraith amgylcheddol Brodies, cyfres uchel ei bri, ym Mhrifysgol Caeredin a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru iddi er mwyn ystyried

ymagweddau posib at Fframweithiau Cyffredin y DU i ddiogelu’r amgylchedd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae tirwedd a dulliau cynaliadwy o reoli’r tir yn feysydd ymchwil amlddisgyblaethol ac mae Dr Jenkins yn ceisio cydweithredu ag ymchwilwyr eraill a sefydliadau allanol wrth ymgymryd â’r agendâu ymchwil hyn. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar bapur sy’n ystyried rôl deddfwriaeth wrth ddiogelu mawndiroedd gyda Dr Jonathan Walker, Cydlynydd yr Hyb Ymchwil yng Nghynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru. Mae mawndiroedd yn storfa carbon bwysig ac yn hanfodol i gadernid ecosystemau gwlyptiroedd Cymru. Gyda’i gilydd, mae Dr Jenkins a Dr Walker wedi nodi nifer o wendidau yn y warchodaeth bresennol sydd ar gael i’r adnoddau naturiol hanfodol hyn dan y gyfraith ac maent wedi awgrymu cyfres o ddiwygiadau yn y tymor byr a’r tymor hir i unioni hyn.

Credyd am y ffotograff: RD a BS Kirkby

Ym 1873, roedd gallu crwbanod y môr i ddod o hyd i ynysoedd anghysbell i nythu ynddynt yn destun rhyfeddod i Charles Darwin. Mae astudiaeth arloesol gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe a chydweithwyr o Brifysgol Deakin a Phrifysgol Pisa wedi datgelu sut maent yn gwneud hynny. Gwnaeth y tîm roi tagiau lloeren ar 33 o grwbanod gwyrdd a chofnodi eu trywydd unigryw wrth iddynt fudo’n bell yng Nghefnfor yr India i ynysoedd cefnforol bach. Mae tystiolaeth yr astudiaeth ymysg yr orau a ddarparwyd hyd yn hyn o allu crwbanod y môr i ailgyfeirio yn y cefnfor agored. Teithiodd saith crwban ddegau o gilometrau’n unig i safleoedd chwilota ar Gylchynys Fawr Chagos, teithiodd chwech ohonynt dros 4,000km i dir mawr Affrica, un i Fadagasgar, ac aeth dau grwban arall tua’r gogledd i’r Maldives. Aeth y rhan fwyaf o’r rhywogaethau a gafodd eu holrhain tua’r gorllewin i safleoedd chwilota pell yng Nghefnfor Gorllewinol yr India a oedd yn gysylltiedig ag ynysoedd bach.

Mae’n dangos y gall y crwbanod deithio gannoedd o gilometrau oddi ar y llwybrau uniongyrchol er mwyn cyrraedd eu cyrchfan cyn ailgyfeirio, yn aml yn y cefnfor agored. Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod crwbanod yn aml yn cael trafferthion wrth ddod o hyd i ynysoedd bach, gan fynd yn rhy bell a/neu chwilio am yr ynys yn ystod y camau mudo olaf. Mae canlyniadau’r broses o’u holrhain drwy loeren yn ategu’r awgrym, sy’n deillio o waith blaenorol mewn labordai, fod crwbanod yn defnyddio tirnodau fel system syml o ddod o hyd i’r ffordd yn y cefnfor agored, gan ddefnyddio maes geomagnetig y byd o bosib. Meddai Dr Nicole Esteban o Brifysgol Abertawe, un o gyd-awduron yr astudiaeth: “Cawsom ein synnu pan aeth crwbanod gwyrdd gannoedd o gilometrau y tu hwnt i’w cyrchfan weithiau cyn chwilio’r cefnfor amdano. Mae ein hymchwil yn dangos tystiolaeth bod gan grwbanod synnwyr mapio syml sy’n eu hailgyfeirio yn y cefnfor agored.”

12 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 13

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker