Cam 2 – Pynciau Dewisol (dewiswch dri o'r canlynol) • Anafiadau Personol ac Esgeulustod Clinigol • Cyfraith ac Ymarfer Teulu • Cyfraith Cyflogaeth
Strwythur y cwrs: • Pythefnos (cyn y cwrs) o ddarllen dan gyfarwyddyd ar y System Gyfreithiol yn Lloegr ac egwyddorion ysgolheictod gyfreithiol (dim angen bod yn bresennol, astudio gartref) • Cyfnod sefydlu pedair wythnos (mis Medi i gyd) sy'n cynnwys darlithoedd a seminarau ar y System Gyfreithiol yn Lloegr, sgiliau cyfreithiol, a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd (mae angen bod yn bresennol) • Addysgir pynciau sylfaen cyfraith contract, cyfraith camwedd, cyfraith gyhoeddus, ecwiti ac ymddiriedolaethau, cyfraith tir, cyfraith trosedd a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd drwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau gorfodol dros ddau floc addysgu • Astudir pwnc cyfreithiol pellach drwy brosiect ymchwil a oruchwylir SUT I WNEUD CAIS Gwnewch gais drwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog: lawcabs.ac.uk
DIPLOMA YN Y GYFRAITH I RADDEDIGION (GDL) ALl Mae'r Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL) yn rhaglen 36 wythnos, amser llawn i raddedigion sydd â gradd nad yw yn y gyfraith neu'r rhai â chymwysterau cyfatebol, sydd am ymuno â'r proffesiwn cyfreithiol neu weithio ym maes y gyfraith. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am y gyfraith. Caiff y GDL ei achredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, Bwrdd Safonau'r Bar a Sefydliad Siartredig Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol, ac mae'n bodloni'r holl ofynion academaidd ar gyfer cael eich derbyn i gam galwedigaethol hyfforddi i fod yn gyfreithiwr, yn fargyfreithiwr neu'n swyddog gweithredol cyfreithiol. CYRSIAU PROFFESIYNOL Gofynion Mynediad GDL: Gradd anrhydedd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth nad yw'n ymwneud â'r gyfraith o brifysgol yn y DU neu brifysgol a gydnabyddir dramor. LPC: 2:2 neu uwch mewn gradd anrhydedd gymwys yn y DU yn y gyfraith (fel y nodir gan yr SRA) o brifysgol a gydnabyddir yn y DU neu Ddiploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL) neu gymhwyster tebyg. LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol ac Darfftio Uwch: 2:2 neu uwch mewn gradd anrhydedd gymwys yn y DU yn y gyfraith (fel y nodir gan yr SRA) o brifysgol a gydnabyddir yn y DU neu Ddiploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL) neu gymhwyster cyfatebol. Caiff ymgeiswyr â chymwysterau neu brofiad proffesiynol amgen eu hannog i wneud cais hefyd.
• Cyfraith Fasnachol Uwch • Cyfraith Trosedd Uwch • Datrys Anghydfodau Masnachol • Lesau Busnes SUT I WNEUD CAIS Amser llawn Gwnewch gais drwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog yn: lawcabs.ac.uk Rhan amser Gwnewch gais yn uniongyrchol i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ sut-i-wneud-cais YMARFER CYFREITHIOL A DRAFFTIO UWCH LLM ALl RhA Gwellwch eich sgiliau cyflogadwyedd a chyfreithiol drwy uwchraddio eich Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yn radd meistr. Byddwch yn cwblhau prosiect o leiaf 150,000 o eiriau yn eich amser eich hun ar gam dau o'r LPC (mis Mawrth i fis Mehefin). SUT I WNEUD CAIS Amser llawn Gwnewch gais drwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog: lawcabs.ac.uk Rhan amser Gwnewch gais yn uniongyrchol i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ sut-i-wneud-cais
CWRS YMARFER CYFREITHIOL (LPC) ALl RhA
Mae'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yn gwrs ymarferol proffesiynol sy'n meithrin y sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Caiff myfyrwyr ofal a chymorth bugeiliol ardderchog gan staff cymwysedig proffesiynol, ynghyd ag arweiniad arfer da ar gyfer datblygiad • Cyfraith ac Ymarfer Busnes • Cyfraith ac Ymarfer Eiddo • Cyfrifon Cyfreithwyr • Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau • Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio • Ymgyfreitha (Troseddol A Sifil) personol a hyfforddiant. Cam 1 – Pynciau Craidd
99
Made with FlippingBook - Online magazine maker