IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL CAMPWS PARC SINGLETON
YN Y DU EFFAITH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 7 FED
Rydym wedi meithrin a chynnal enw da byd-eang am ymchwil a hyfforddiant ym maes ieithyddiaeth gymhwysol. Yn ogystal â'n hymchwil ddylanwadol i astudiaethau a phrofion geirfaol, mae ein harbenigedd yn cwmpasu caffael ail iaith, asesu iaith ac addysgeg, dwyieithrwydd, ieithyddiaeth corpws, ymarferoleg, dadansoddi mynegiant, ysgrifennu ail iaith, ac astudiaethau Tsieinëeg. Yn rhestr REF rhagoriaeth ymchwil ddiweddaraf Llywodraeth y DU (2014), roedd ymchwil Saesneg yn Abertawe yn y 7fed safle yn y DU a'r safle 1af yng Nghymru, gyda chyfran uchel o ymchwil yn cael ei dyfarnu'n ‘rhyngwladol ardderchog’ neu ‘o'r radd flaenaf’.
Caiff ein holl addysgu ei lywio gan weithgarwch ymchwil staff ac mae gennym gryfderau hirsefydledig ym mhob prif agwedd ar y pwnc. Mae rhaglen gyffrous o seminarau ymchwil, cynadleddau a gweithdai yn golygu bod yr Adran yn lle ysgogol a chymdeithasol i astudio ynddo.
ADDYSGU SAESNEG I SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL (TESOL) MA ALl RhA Mae gan Brifysgol Abertawe un o'r canolfannau addysg a hyfforddiant TESOL mwyaf sefydledig yn y DU ac mae ganddi enw da rhyngwladol am ragoriaeth ym maes ymchwil i eirfa. Mae'r cwrs yn eich helpu chi i feithrin y sgiliau i fynd i'r afael â heriau damcaniaethol ac ymarferol addysgu Saesneg fel iaith dramor neu ail iaith. Gall myfyrwyr ddewis cwblhau traethawd hir neu brosiect seiliedig ar addysgu. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Addysgu Iaith Gyfathrebol • Caffael Ail Iaith • Dadansoddi Gramadegol • Dadansoddi Mynegiant at Ddibenion Addysgu Iaith • Dulliau Addysgu yn yr Ystafell Ddosbarth • Dulliau Ymchwil ar gyfer Ieithyddiaeth Gymhwysol • Geirfa: Dysgu ac Addysgu • Ymarfer Myfyriol Proffesiynol
CYFIEITHU TSIEINËEG-SAESNEG AC ADDYSGU IAITHMA ALl RhA ION Mae'r MA Cyfieithu Tsieinëeg- Saesneg ac Addysgu Iaith wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer siaradwyr Tsieinëeg (neu fyfyrwyr sydd bron yn siaradwyr iaith gyntaf) ac mae'n anelu at eu helpu i feithrin gwybodaeth a sgiliau iaith-benodol mewn astudiaethau cyfieithu ac ieithyddiaeth gymhwysol. Mae'r rhaglen yn cynnig modiwlau theori ac ymarferol, gan gynnwys arsylwi ar ddosbarthiadau addysgu Mandarin a chyfleoedd ymarfer addysgu posibl. Mae'r modiwlau cyfieithu hefyd yn hynod ymarferol ac ar lefel broffesiynol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Astudiaethau Tsieinëeg • Dysgu ac Addysgu Iaith drwy Dechnoleg • Egwyddorion Cyfieithu a Dehongli Tsieinëeg • Sylfaen Ieithyddol ar gyfer Cyfieithu ac Addysgu Iaith • Theori ac Ymarfer Cyfieithu Tsieinëeg-Saesneg • Y Cyfryngau a Chyfieithu • Ymarfer Addysgu yn yr Ystafell Ddosbarth (Tsieinëeg)
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
109
Made with FlippingBook - Online magazine maker