Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021

RHEOLI BUSNES MPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn

go iawn, ond byddant wedi gallu gwerthuso heriau gweithio yn y byd go iawn gyda chyfrifoldebau a chael cyfleoedd i ddatblygu cynlluniau datblygu personol yn y maes hwn yn y dyfodol. Yn ogystal â chael cyfarfodydd gyda goruchwylydd drwy gydol y cyfnod, bydd angen i fyfyrwyr dreulio o leiaf 300 awr ar y prosiect marchnata lefel graddedig hwn. Bydd hyn yn cyfateb i 25 awr yr wythnos o leiaf dros y cyfnod o dri mis, sy'n galluogi myfyrwyr i neilltuo 10 awr yr wythnos i wneud yr ymchwil a'r astudiaethau angenrheidiol wrth baratoi ar gyfer yr asesiad o'r adroddiad diwydiannol.

LLEOLIAD GWAITH MARCHNATA STRATEGOL Fel dewis amgen i'r modiwl traethawd estynedig traddodiadol, mae'r cyfle hwn i gael lleoliad gwaith yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol o weithio ar brosiect marchnata o fewn y diwydiant, heb ymestyn eu gradd nac aberthu credyd academaidd. Caiff myfyrwyr dri mis o leoliad gwaith di-dâl mewn BBaCh lleol, gan weithio ar brosiect marchnata penodol. Ar ôl cwblhau'r prosiect seiliedig ar waith hwn, bydd myfyrwyr nid yn unig wedi cymhwyso'n feirniadol gysyniadau damcaniaethol a ddysgwyd yn y dosbarth mewn sefyllfa fusnes

cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil.

Anogir ymgeiswyr i archwilio arbenigedd ymchwil yr Ysgol er mwyn sicrhau cyfatebiaeth dda rhwng cynigion PhD a darpar oruchwylwyr. Ceir gwybodaeth am y gyfadran bresennol a grwpiau ymchwil yr Ysgol yn: abertawe.ac.uk/ysgol- reolaeth/ymchwil

Cwblheais fy semester cyfnewid ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn yn astudio fy ngradd israddedig yn Denmarc. Sylweddolais pa mor dda oedd Prifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn. Cefais y syniad o ddychwelyd i Abertawe i gwblhau gradd meistr ar ôl un ddarlith yn benodol. Cadwais mewn cysylltiad â'r brifysgol drwy gydol y broses gwneud cais ac roedd y tîm mor gymwynasgar. Mae astudio cwrs ôl-raddedig yn golygu y gallwch feithrin perthnasoedd hyd yn oed yn gryfach â darlithwyr, ac mae hyn yn wych. Roeddwn i'n dwlu ar y modiwlau roedd modd i mi eu dewis, a oedd yn cynnwys marchnata digidol a marchnata mewn cymdeithas. Rwyf wedi cwrdd â chynifer o fyfyrwyr o bedwar ban byd ac erbyn hyn mae gennyf ffrindiau o Fongolia a Tsieina. Roedd ymgartrefu'n hawdd: mae Abertawe'n ddinas ddiogel sydd â chymuned gyfeillgar, ac mae'n wych bod mor agos at draeth mor hardd.

MSc MARCHNATA STRATEGOL Bianca Kronemann

115

Made with FlippingBook - Online magazine maker