Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021

• O s ydych wedi cael eich cymeradwyo gan Reolwr Clinigol ac Arweinydd Rhagnodi'r Bwrdd Iechyd • Os oes gennych archwiliad cofnodion troseddol cyfredol i fodloni gofynion penodol y corff proffesiynol • Os ydych wedi nodi ymarferydd meddygol dynodedig cymwys a phriodol • Os ydych yn dangos y gallu i astudio ar lefel academaidd 7 Nid yw'r rhaglen hon yn cydnabod dysgu blaenorol. Nid oes modd achredu rhan o fodiwl, waeth beth fo'ch profiad neu'ch dysgu blaenorol. Nid oes gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) unrhyw ofynion penodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ond rhaid bod ganddynt brofiad addas a'u bod wedi ymsefydlu yn y rôl y maent am ragnodi ynddi. RHAGNODI ANFEDDYGOL INYRSYS ABYDWRAGEDDPGCert RhA Bydd y rhaglen hon, sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), yn eich gwneud yn gymwys i ymarfer yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol fel rhagnodwr anfeddygol annibynnol neu atodol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragnodi'n ddiogel ac yn briodol yn eich maes ymarfer. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Asesu Clinigol a Gwneud Penderfyniadau ym maes Rhagnodi Anfeddygol (NMC) • Egwyddorion ac Ymarfer Ffarmacoleg (NMC) Gofynion mynediad Gallwch wneud cais am y cwrs hwn: • Os ydych yn nyrs gofrestredig (Lefel 1), bydwraig gofrestredig neu Nyrs Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol • Mae’r strwythurau llywodraethu angenrheidiol ar waith yn eich maes ymarfer (gan gynnwys cymorth clinigol, amser dysgu neilltuedig a chefnogaeth cyflogwr

• Rheoli Cyflyrau sy'n Gysylltiedig â Chlefyd Parkinson

lle bo’n briodol) i’ch galluogi i ymgymryd â’r rhaglen a chael eich cefnogi’n ddigonol drwy gydol y rhaglen • Rydych chi’n gallu ymgymryd ag ymarfer diogel ac effeithiol ar lefel hyfedredd sy’n briodol i’r rhaglen. Dylai eich maes ymarfer rhagnodi arfaethedig fod yn un o’r meysydd canlynol: clinigol/asesu iechyd/ diagnosteg/rheoli gofal neu gynllunio a gwerthuso gofal. • Os ydych yn dangos y gallu i astudio ar lefel academaidd 7 Mae ymgeiswyr am raglenni rhagnodi ategol/annibynnol V300 wedi bod yn gofrestredig gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol am o leiaf 5 mlynedd cyn cyflwyno cais am le. RHEOLI CYFLYRAU CRONIG A HIRDYMOR MSc ALl RhA Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddeall anghenion pobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor a chronig a phobl y mae cyflyrau o'r fath yn effeithio arnynt, a chynllunio a rheoli gwasanaethau iechyd a gofal yn unol â hynny. Byddwch yn astudio mewn modd amlddisgyblaethol a chewch eich annog i gydweithio â'r proffesiynau amrywiol sy'n ymwneud â rheoli cyflyrau hidymor a chronig. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Agweddau Cymdeithasol ar Salwch Hirdymor a Chronig • Seicoleg Iechyd Salwch Hirdymor a Chronig • Sylfeini Hybu Iechyd • Sylfeini Ymchwil • Theori ac Ymarfer Rheoli Cyflyrau Hirdymor a Chronig • Traethawd Hir Mae modiwlau arbenigol dewisol yn cynnwys: • Anatomeg a Phathoffisioleg Gymhwysol ar gyfer Rheoli Cyflyrau Hirdymor Cronig • Rheoli Cyflyrau Cronig: Diabetes

• Rheoli Poen Cronig Gofynion mynediad

Bydd angen gradd briodol neu'r hyn sy'n cyfateb iddi gan sefydliad cymeradwy yn y DU (2:1 neu uwch yn ddelfrydol) a thystiolaeth o astudiaethau academaidd diweddar. Gallai fod gennych hefyd gymhwyster proffesiynol ac o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith a chyfrifoldebau perthnasol. RHEOLI GOFAL IECHYD MSc ALl RhA ION Os ydych yn gweithio fel rheolwr yn y maes iechyd ar hyn o bryd ac yn awyddus i adeiladu ar eich profiad neu ddatblygu eich gyrfa yn y maes hwn, bydd y rhaglen hon yn rhoi sylfaen berffaith i chi. Byddwch yn dysgu sut i gynllunio a gwneud gwelliannau i wasanaethau, rheoli newid, gweithio gydag eraill i gyflawni nodau sefydliadol, cyfathrebu'n effeithiol a defnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosibl. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau arwain y gellir eu cymhwyso mewn amrywiaeth eang o rolau rheoli yn y maes gofal iechyd a meysydd cysylltiedig. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Cyd-destun Cymdeithasol, Diwylliannol ac Economaidd o Iechyd • Gwleidyddiaeth a Pholisïau • Theori ac Ymarfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Traethawd Hir • Trefnu Gofal Iechyd • Tystiolaeth ac Ymchwil ar gyfer Rheoli Gofal Iechyd Mae modiwlau arbenigol opsiynol fel arfer yn cynnwys: • Gwella Ansawdd • Gwerthusiadau Economaidd mewn Gofal Iechyd • Seicoleg Rheoli Gofal Iechyd • Sylfeini Iechyd y Cyhoedd a Gofal Iechyd Sylfaenol

127

Made with FlippingBook - Online magazine maker