UCHAF YN Y DU ADRAN BEIRIANNEG (Times & Sunday Times University Guide 2020) 15
PEIRIANNEG CAMPWS Y BAE
Ein nod yw eich helpu i ddatblygu'r potensial i ddod yn arweinydd neu'n hyrwyddwr diwydiant yn y dyfodol, a'ch paratoi i allu wynebu'r heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â gyrfa ym maes ymchwil.
Rydym yn y 10fed safle yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf (2014), gyda 94% o ymchwil yn cael ei hystyried yn ymchwil o'r radd flaenaf (4*) neu ryngwladol ardderchog (3*). Peirianwyr yn Abertawe a wnaeth baratoi'r ffordd o ran datblygu technegau rhifiadol fel y dull elfen feidraidd chwyldroadol, a gydnabyddir fel un o'r 100 o brif ddarganfyddiadau a datblygiadau ym mhrifysgolion y DU sydd wedi newid y byd. Gyda'n canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf a rhaglen fuddsoddi barhaus, mae'r Coleg Peirianneg yn cynnig amgylchedd rhagorol i chi astudio neu wneud gwaith ymchwil.
Ryngwladol ar gyfer Dulliau Rhifiadol mewn Peirianneg (CIMNE, Sbaen). Byddwch yn derbyn hyfforddiant amlddisgyblaethol dwfn wrth gymhwyso'r dull elfen gyfyngedig, yn ogystal â thechnegau rhifiadol a chyfrifiadol o'r radd flaenaf i ddatrys ac efelychu problemau heriol. Bydd eich gwybodaeth gyffredinol am theori mecaneg gyfrifiadol yn cael ei datblygu ochr yn ochr â gwerthfawrogiad o efelychiad cyfrifiadol mewn diwydiant a'r byd academaidd. Darperir hyfforddiant hefyd ar ddatblygu meddalwedd newydd ar gyfer efelychu gwell problemau peirianneg cyfredol. Caiff y cwrs MSc ei achredu gan Gyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM). Mae JBM yn cynnwys Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE), Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth (CIHT), a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd (IHE). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dadansoddiadau Cyfrifiadurol Elfennau Meidraidd
Caiff y rhaglen ei haddysgu mewn blociau byr a dwys dros ddau semester a bydd pwnc eich traethawd hir yn canolbwyntio ar ddadansoddi senario go iawn mewn ffordd strategol, dan arweiniad mentoriaid sy'n flaenllaw mewn diwydiant. Mae hefyd yn ceisio eich helpu i ddatblygu fel unigolyn, drwy fentora proffesiynol un i un drwy gydol y rhaglen. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Arwain, Datblygu Tîm, Cyfathrebu ac Ymgysylltu • Economi Gylchol a Pheirianneg Gynaliadwy
ARWAINA RHEOLI PEIRIANNEG MSc ALl ION Mae'n dra hysbys y gall peirianwyr, gwyddonwyr a graddedigion technegol gyrraedd y lefel uchaf ym maes arwain a rheoli mewn diwydiant. Bydd y rhaglen MSc hon, a gaiff ei haddysgu ar y cyd gan y Coleg Peirianneg a'r Ysgol Reolaeth, yn ehangu eich gorwelion ac yn atgyfnerthu eich dealltwriaeth a'ch sgiliau ym meysydd arwain, rheoli a strategaeth, yn ogystal â rhoi cefndir technegol craidd mewn pynciau arloesol fel Gweithgynhyrchu Deallus, Systemau Ymdrochol a Dadansoddi Amgylcheddol. YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
• Gweithgynhyrchu Deallus • Mentergarwch, Arloesedd ac Eiddo Deallusol • Prosiect/Traethawd Hir • Rheoli Asedau • Rheoli Gweithrediadau • Rheoli Prosiectau • Rhith-systemau • Strategaeth
MECANEGGYFRIFIADUROL MSc ALl Mae hon yn rhaglen ôl-raddedig dwy flynedd a gaiff ei drefnu rhwng Prifysgol Abertawe, Universitat Politècnica de Catalunya (Sbaen), mewn cydweithrediad â'r Ganolfan
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
132
Made with FlippingBook - Online magazine maker