PLANT A PHOBL IFANC CAMPWS PARC SINGLETON
Hunaniaeth Plant a Phobl Ifanc Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr ymchwil yn archwilio'r rhyngweithio rhwng pobl ifanc fel asiantiaid unigol, eu hamgylcheddau cymdeithasol a strwythurau cymdeithasol ehangach sy'n llywio eu dewisiadau a'u cyfleoedd. Datblygiad Plentyn Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr ymchwil yn mynd i'r afael â'r amrywiaeth o ffactorau sy'n dylanwadu ar y ffordd mae plant yn dysgu ac yn datblygu o'r blynyddoedd cynnar tan y glasoed diweddarach, a'r ffyrdd y gellir monitro effeithiau'r ffactorau hyn yn chwarae plant.
IECHYD CYHOEDDUS PLANT PGCert/PGDip/MSc ALl RhA
Bydd y rhaglen hon yn archwilio'r ffactorau cydgysylltiedig niferus sy'n effeithio ar iechyd babanod, plant a theuluoedd. Byddwch yn archwilio'r sail dystiolaeth sy'n ategu polisi iechyd y cyhoedd presennol mewn perthynas â phlant 0-11 oed yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gwmpasu pynciau megis iechyd amenedigol, maeth ac imiwneiddio. Bydd eich astudiaethau'n dilyn dull integredig gan gwmpasu'r dylanwadau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy'n effeithio ar ddatblygiad addysgol ac emosiynol hirdymor plant a'r polisïau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd a all eu cefnogi. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi hanfodol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Cymdeithaseg Iechyd Plant • Dylanwadau ar Iechyd Plant • Maeth a Thwf yn ystod Plentyndod • Traethawd hir • Ymchwilio i Blentyndod Mae modiwlau opsiynol fel arfer yn cynnwys: • Deall ac Arsylwi ar Ddatblygiad Plant • Hawliau Plant a Diogelu Plant a Phobl Ifanc • Mathau Cyffredin o Salwch yn ystod Plentyndod • Ymarfer Uwch gyda Phlant
PLANT A PHOBL IFANC MPhil/PhD ALl RhA
Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar y grwpiau ymchwil canlynol: Iechyd a Lles Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr ymchwil yn ymchwilio i ffactorau sy'n dylanwadu ar les plant a phobl ifanc fel darpariaeth gofal iechyd, cam-drin ac esgeuluso plant, anableddau dysgu, chwarae a digartrefedd. Mae'r prosiectau ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr yn ddiweddar yn trafod dewisiadau chwarae rhydd plant yn yr ysgol a'r cartref, dulliau addysgu o fewn y Cyfnod Sylfaen, a phlant sy'n derbyn gofal.
140
Made with FlippingBook - Online magazine maker