“
Mae'r MA mewn Astudiaethau Plentyndod yn ffordd wych i roi'r sylfaen ddamcaniaethol a'r ddealltwriaeth i chi o ddatblygiad plentyn. Mae'r ymagwedd amlddisgyblaethol yn helpu i ehangu dealltwriaeth o ddatblygiad y plentyn ac archwilio'r materion cyfredol sy'n ymwneud â datblygiad cynnar plentyn (hynny yw plant sydd wedi'u geni yn yr oes ddigidol) o safbwyntiau rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn eich annog i wneud gwaith gwirfoddol gyda phlant ac mae hyn yn gyfle i weld, i ddeall ac i gymhwyso'r hyn rydych yn ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n wych pan rydych yn darganfod sut mae theori ac ymarfer yn gweithio.
MA ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD
141
Made with FlippingBook - Online magazine maker