SEICOLEG CAMPWS PARC SINGLETON
Gwybyddiaeth a Chanfyddiad Ymdrin â meysydd fel canfyddiad, adnabod, a phrosesu gwrthrychau a digwyddiadau, a'r sail wybyddol a niwrol dros ddatblygiad iaith. Mae'r pynciau ymchwil presennol yn cynnwys cynrychioli lliw a siâp yn y cof, ac adnabod a llunio geiriau. Yr Ymennydd ac Ymddygiad Archwilio'r ffordd y mae niwrowyddoniaeth ac ymddygiad yn integreiddio, gan gynnwys cemeg yr ymennydd, niwroseicoleg ac anafiadau i'r ymennydd. Mae'r gwaith ymchwil y mae myfyrwyr yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd yn cynnwys ffactorau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau sy'n effeithio ar sylw, a dysgu, y cof a darllen ymhlith unigolion ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Seicoleg Fforensig Archwilio'r rhyngweithio rhwng seicoleg a'r gyfraith. Mae ymchwil mewn Seicoleg Fforensig yn cynnwys llawer o agweddau, fel proses gyfreithiol, asesu, goruchwylio a thrin y rhai sydd wedi troseddu, gweithio gyda dioddedfwyr troseddau, a mynd i'r afael â risg ac aildroseddu. SEICOLEG IECHYDMPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil ym maes Seicoleg Iechyd. Mae pwysigrwydd ffactorau seicolegol wrth hybu iechyd da a rheoli salwch a risgiau iechyd yn faes astudio cynyddol bwysig. Mae myfyrwyr ymchwil wrthi'n edrych ar y ffactorau seicolegol sy'n hybu iechyd da, a datblygu ymyriadau er mwyn annog plant, pobl ifanc a merched beichiog i fyw bywyd iach.
SEICOLEGGLINIGOL AC IECHYD MEDDWL MSc ALl RhA Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i feithrin lefel uchel o ddealltwriaeth o theori ac ymarfer seicoleg glinigol o fewn lleoliadau gofal iechyd, gan eich paratoi ar gyfer hyfforddiant clinigol proffesiynol pellach ar lefel ddoethurol. Mae llawer o'n staff academaidd yn arweinwyr yn eu meysydd ymchwil arbenigol, gan gynnwys seicoleg glinigol ac iechyd, anafiadau i'r ymennydd, cwsg, gwybyddiaeth, niwrowyddoniaeth lleoliadau clinigol er mwyn rhoi profiad gwerthfawr i chi a gwella eich rhagolygon gyrfa. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Anhwylderau Affeithiol a Thrawma • Anhwylderau Bwyta • Dulliau Ystadegol ac Ymchwil • Niwroseicoleg • Seicopathi a Throseddau Rhyw • Seicosis • Seicotherapi • Sgiliau Ymchwil Generig mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl • Traethawd Hir a seicoleg ddatblygiadol. Gallwn eich helpu i sicrhau
SEICOLEGMSc drwy Ymchwil/ MPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar y grwpiau ymchwil canlynol: Ymddygiad Clinigol ac Iechyd Mynd i'r afael â'r ffordd y mae ymddygiadau'n datblygu ac yn dylanwadu ar benderfyniadau pobl mewn perthynas â'u hiechyd a'u lles, ac effaith ymyriadau iechyd. Mae prosiectau ymchwil diweddar gan fyfyrwyr wedi archwilio rôl marchnata cymdeithasol o ran atal gordewdra ymhlith plant, a thrawma yn dilyn salwch acíwt.
• Ymdopi â Chlefyd Cronig Mae angen gradd 2:1 yn y Du mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth gysylltiedig, neu'r hyn sy'n cyfateb iddi.
148
Made with FlippingBook - Online magazine maker