Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021

Dewisais y radd meistr Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu'r sgiliau clinigol yr oedd eu hangen arnaf i gyflawni fy nodau o ran gyrfa. Mae'r cwrs yn cynnwys datblygu dealltwriaeth drylwyr o theori ac ymarfer seicoleg glinigol, gan gynnwys datblygu safbwyntiau personol am briodoldeb diagnosis, dealltwriaeth o bwysigrwydd fformiwleiddiad seicolegol a dadansoddi effeithiolrwydd triniaethau'n feirniadol. Cawsom gyflwyniad i'n darlithwyr ar fy niwrnod cyntaf. Roedd yn wych cwrdd â chynifer o bobl a oedd yn teimlo'n frwdfrydig am wella gwasanaethau iechyd meddwl, a mwynheais ryngweithio â staff academaidd a thrafod eu gwaith ymchwil. Mae'r cwrs yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gyfrannu at y gymuned wyddonol drwy gynnal gwaith ymchwil ochr yn ochr ag academyddion o'r radd flaenaf...mwynheais gynllunio a chynnal fy mhrosiect ymchwil fy hun yn fawr. Roedd fy ngoruchwyliwr yn gefnogol o'm holl syniadau a gwnaeth fy annog i ddewis pwnc roeddwn yn angerddol amdano.

"Ers graddio, rwyf wedi derbyn rôl Seicolegydd Cynorthwyol gydag

Ymddiriedolaeth Sefydliadol y GIG De Llundain a Maudsley, gan weithio gyda phobl ifanc sydd ag anhwylderau bwyta. Mae'r cwrs wedi gwella fy nealltwriaeth o iechyd meddwl a seicoleg glinigol a bydd y sgiliau hyn yn fy ngalluogi i barhau i dyfu fel ymarferydd seicolegol ac yn rhoi'r hyder i mi hyfforddi fel seicolegydd clinigol.

MSc CYN-FYFYRIWR SEICOLEG GLINIGOL AC IECHYD MEDDWL

149

Made with FlippingBook - Online magazine maker