ASTUDIAETHAU GWLEIDYDDOL A DIWYLLIANNOL CAMPWS PARC SINGLETON
• Theori wleidyddol a diwylliannol: Mae hwn yn canolbwyntio ar theori ac athroniaeth wleidyddol sy'n ymwneud â datblygiadau ym meysydd globaleiddio, democratiaeth, diwylliant rhyddfrydol, sofraniaeth, cymdeithas sifil, crefydd a thechnolegau cyfryngau newydd. Mae arbenigeddau'n cynnwys: rhyddfrydiaeth a'i beirniaid, hawliau dynol, meddylfryd gwleidyddol y cyfandir, ôl- strwythuriaeth; a damcaniaethau rhywedd a gwrywdod. • Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol: Mae hwn yn canolbwyntio ar astudiaethau empirig o lywodraeth, gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus gyda diddordeb cryf mewn theori a dulliau. Mae astudiaethau polisi, gwleidyddiaeth ddatblygu, cyfranogiad sifil yn Ewrop, yr UE, Dwyrain Ewrop a'r economi wleidyddol, gwleidyddiaeth America, gwleidyddiaeth y DU, datganoli a llywodraeth leol, dulliau meintiol, poblyddiaeth, etholiadau. • Gwleidyddiaeth ryngwladol a chyfathrebu rhyngddiwylliannol: Mae hwn yn canolbwyntio ar astudio dimensiynau amrywiol gwrthdaro, p ŵ er ac ymerodraeth. Mae arbenigeddau'n cynnwys: damcaniaeth Rhyfel Gyfiawn, astudiaethau diogelwch a therfysgaeth, polisi gofod, gwleidyddiaeth o dan Ymerodraeth ac mewn gwladwriaethau arbenigeddau'n cynnwys: gwleidyddiaeth gymharol, gwleidyddiaeth ranbarthol, ôl-drefedigaethol, ailadeiladu yn dilyn gwrthdaro, polisi cyffuriau rhyngwladol, addysg gwrthdaro, a rhyfeloedd cartref a hil-laddiadau. Ymhlith yr arbenigeddau ardal mae; De-ddwyrain Asia; y Dwyrain Canol ac Affrica.
YR AMGYLCHEDD YMCHWIL Mae ochr ymchwil yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a
Diwylliannol yn ganolog i bedwar grŵp ymchwil, gyda phob grŵp yn cynnwys staff â'u myfyrwyr ymchwil yn unol â meysydd arbenigedd sy'n gorgyffwrdd. Gall myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ymgysylltu ag ystod eang o ddigwyddiadau hyfforddiant a lledaenu drwy'r grwpiau hyn, yn ogystal â chymryd rhan yn y gwaith o'u llywodraethu. I gael manylion am bob un o'r grwpiau hyn, gweler y wybodaeth isod: CANOLFANNAU YMCHWIL • Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS) • Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH) • Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG) • Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-Eang Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil Astudiaethau Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Diogelwch Rhyngwladol, Athroniaeth Polisi Cyhoeddus a Datblygu yn perthyn i'r Ganolfan Graddedigion yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth bugeiliol yn ogystal â chymorth gweinyddol ac mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth ym maes sgiliau ymchwil, a hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i gymuned ymchwil ôl-raddedig y Coleg o 200 o fyfyrwyr. Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil Astudiaethau Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Diogelwch Rhyngwladol, Polisi Cyhoeddus a Datblygu hefyd yn cael mynediad at adnoddau hyfforddi Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru. Bob blwyddyn trefnir rhaglen o gynadleddau a seminarau ar y cyd â Phrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth.
ASTUDIAETHAU DATBLYGUMPhil/ PhD ALl RhA ATHRONIAETHMA drwy Ymchwil/ PhD ALl RhA CYSYLLTIADAUGWLEIDYDDOL A RHYNGWLADOL MPhil/PhD ALl RhA CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL MA drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA DATBLYGU RHYNGWLADOL MA drwy Ymchwil ALl RhA GWLEIDYDDIAETHMA drwy Ymchwil ALl RhA Mae ymchwil bresennol yn cynnwys prosiectau hynod gyfoes ar faterion fel Brexit, gwleidyddiaeth ddigidol, ymgyrchoedd gwleidyddol ac ymddygiad pleidleisio, y system wleidyddol ryngwladol, technolegau a dulliau rhyfela newydd, polisi trais ar sail rhywedd, seilwaith datblygu, polisi a chyfundrefnau datblygu cyffuriau rhyngwladol, gwleidyddiaeth bygythiadau i iechyd y cyhoedd a chynnydd terfysgaeth ac achosion o ladd wedi'u targedu. Croesawn gynigion newydd ar gyfer prosiectau ymchwil ôl-raddedig sy'n ategu diddordebau ymchwil staff. Mae diddordebau ymchwil staff yn cwmpasu tri maes eang:
55
Made with FlippingBook - Online magazine maker