UCHAF YN Y DU EFFAITH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 10
DAEARYDDIAETH CAMPWS PARC SINGLETON
Fe'n cydnabyddir fel un o'r prif ganolfannau byd-eang am addysgu ac ymchwil ym maes daearyddiaeth ddynol a ffisegol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf (2014), cafodd yr Adran Ddaearyddiaeth ei rhoi yn yr 8fed safle yn y DU am effaith ymchwil ac yn yr 11eg safle am amgylchedd ymchwil. Nodwyd bod ein hamgylchedd ymchwil ac effaith ein hymchwil 100% o'r radd flaenaf neu'n rhyngwladol ardderchog.
Mae ein staff ymchwil rhyngwladol weithgar a'n cymuned fawr o ymchwilwyr ôl-raddedig yn creu amgylchedd dynamig, llawn ysbrydoliaeth i astudio ynddo. Mae llawer o'r prosiectau a gyflawnir gan ein staff a'n myfyrwyr yn gwneud cyfraniad gwirioneddol at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
DEINAMEG AMGYLCHEDDOL A NEWID YN YR HINSAWDDMSc ALl RhA
GWYBODAETH DDAEARYDDOL ANEWID YN YR HINSAWDDMSc ALl RhA Mae'r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant trawsddisgyblaethol mewn perthynas â sail wyddonol GIS, synhwyro lloeren o bell a modelu systemau daear ynghyd ag agweddau ar newid yn yr hinsawdd. Mae'r cwrs yn rhoi pwyslais arbennig ar agweddau technegol ar GIS ac arsylwi ar y ddaear, yn ogystal â newidiadau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd ranbarthol a byd-eang ddoe, heddiw ac yfory. Ar gyfer y ddau gwrs uchod mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Ecosystemau: Ecoleg, Cadwraeth a Rheoli Adnoddau • Egwyddorion Dynameg Amgylcheddol • Gwaith Asesu a Rheoli Amgylcheddol • Gwyddor a Pholisi Hinsawdd
Mae'r cwrs rhyngddisgyblaethol hwn yn rhoi pwyslais arbennig ar sail wyddonol newid yn yr hinsawdd
ranbarthol a byd-eang, a chyfyngiadau modelau a
thechnegau casglu data. Byddwch yn meithrin gwybodaeth helaeth am y materion gwyddonol presennol sydd wrth wraidd newid amgylcheddol a dynameg ecosystemau, ynghyd â'r sgiliau datrys problemau, TGCh, a chyfathrebu sydd eu hangen er mwyn dilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant gwasanaethau amgylcheddol, cyrff rheoleiddio neu academia.
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. Ewch i: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
• Modelu Systemau Daear • Newid yn yr Hinsawdd – y Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol • Sgiliau Gwyddoniaeth a Dulliau Ymchwil • Synhwyro Lloeren o Bell • Systemau Gwybodaeth ddaearyddol
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
78
Made with FlippingBook - Online magazine maker