Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021

DAEARYDDIAETH CAMPWS PARC SINGLETON

Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil sy'n canolbwyntio ar y grwpiau ymchwil canlynol: Gr ŵ p Deinameg Amgylcheddol Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: • Deall amrywioldeb amgylcheddol drwy'r Cyfnod Cwaternaidd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol • Rhanbarthau sy'n arbennig o sensitif i newid amgylcheddol (trofannol, oer a lle ceir tanau gwyllt) • Rhyngweithio rhwng newid yn yr hinsawdd, aflonyddu gan bobl a digwyddiadau trychinebus Gr ŵ p Rhewlifeg Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: • Rhewlifeg a'r cryosffer, gan arbenigo mewn deall y prosesau sy'n rheoli deinameg rhewlifoedd, ymrannu, ansefydlogrwydd llifoedd ac ymchwydd, a rhewlif cyflym. Gr ŵ p Modelu Amgylcheddol Byd-eang ac Arsylwi'r Ddaear (GEMEO) Mae gwaith ymchwil y Gr ŵ p Modelu Amgylcheddol Byd-eang ac Arsylwi'r Ddaear (GEMEO) yn canolbwyntio ar ddeall sut mae newidiadau naturiol a dynol yn effeithio ar y biosffer.

Ymhlith y gwaith diweddar mae: • Canfod newidiadau mewn iechyd coedwigoedd ac ecosystemau • Deall sut mae newidiadau mewn llystyfiant ar raddfa fyd-eang yn effeithio ar y cylchredau carbon a hydrolegol byd-eang • Modelu rhyngweithiadau golau mewn canopïau llystyfiant drwy drosglwyddo ymbelydredd er mwyn efelychu'r signalau y mae lloerenni'n arsylwi arnynt Gr ŵ p Ymfudo, Ffiniau a Hunaniaethau Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: • Creu dinasyddiaeth, cenedlaetholdeb a chenedligrwydd ar sail gymdeithasol a gwleidyddol • Cydberthnasau rhwng ymfudo rhyngwladol (mewnol a rhyngwladol), globaleiddio a'r cysyniad o le • Daearyddiaeth allgáu, trais, ac ymyleiddio, yn enwedig mewn • Gofod gwledig yr 21ain ganrif Gr ŵ p Damcaniaeth Gymdeithasol a Gofod Trefol Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: • Dinasoedd modern ac ôl-fodern • Economi wleidyddol ddaearyddol • Gofodau cyfalafiaeth perthynas â hil, rhywedd, diwylliant a phlentyndod Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein hymchwil ar ein gwefan:  abertawe.ac.uk/daearyddiaeth/ ymchwil-ac-effaith

ARSYLWI'R DDAEAR MSc drwy Ymchwil ALl RhA ASTUDIAETHAU TREFOL MSc drwy Ymchwil ALl RhA CYFRYNGAU DAEARYDDOL MSc drwy Ymchwil ALl RhA DAEARYDDIAETH DDYNOL MPhil/PhD ALl RhA DAEARYDDIAETH FFISEGOL MPhil/PhD ALl RhA DAMCANIAETH A GOFOD CYMDEITHASOL MSc drwy Ymchwil ALl RhA DEINAMEG AMGYLCHEDDOL

MSc drwy Ymchwil ALl RhA MODELUAMGYLCHEDDOL BYD-EANGMSc drwy Ymchwil ALl RhA RHEWLIFEGMSc drwy Ymchwil ALl RhA

YMFUDO BYD-EANG MSc drwy Ymchwil ALl RhA

80

Made with FlippingBook - Online magazine maker