Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021

Mwynheais fy amser yn astudio fy ngradd baglor yma; gwnes i lawer o ffrindiau gwych a pherthnasoedd gwerthfawr, felly roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau aros am flwyddyn arall. Mwynheais ddysgu ac roeddwn i am ddatblygu'r sylfaen a gefais yn ystod fy ngradd baglor. Micro-economeg oedd fy hoff fodiwl, oherwydd ei fod yn ymwneud â mathemateg sy'n cyd-fynd â'm sgiliau cryf yn y maes hwnnw. Mae'r darlithwyr wedi bod yn gymwynasgar ac yn gefnogol iawn bob amser; mae nhw'n dda iawn am roi hwb yn y cyfeiriad cywir i chi ac yna'n gadael i'ch creadigrwydd chi ddatrys problem. Yn benodol, gwnaeth fy ngoruchwyliwr roi llawer o ryddid a lle i mi archwilio'r pwnc. Byddwn yn argymell Abertawe'n fawr; mae'n lle gwych i gael addysg dda iawn a phrofiad gwych i fyfyrwyr.

MSc ECONOMEG A CHYLLID

83

Made with FlippingBook - Online magazine maker