Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021

GWEINYDDU BUSNES, MBA CAMPWS Y BAE

Bydd ein rhaglen MBA yn darparu gwybodaeth uwch am ymarferion busnes allweddol gan osod eich gyrfa ar lwybr carlam tuag at ddod yn arweinydd busnes effeithiol. Mae hon yn rhaglen wahanol sy’n cynnig ymagwedd wahanol at reoli. Gan ganolbwyntio ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol mae’r rhaglen hon yn addas i weithwyr proffesiynol sy’n meddu ar dair blynedd o brofiad perthnasol mewn diwydiant. Wedi’i llunio er mwyn rhoi’r sgiliau i chi ar gyfer trefnu, cystadlu a chydweithio â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a gweithio yn y sectorau hyn, bydd y rhaglen hon yn sicrhau eich bod yn barod i wynebu heriau’r dyfodol.

GWEINYDDU BUSNES, MBA ION Lluniwyd y cwrs i ddysgu sgiliau byd-eang ar gyfer trefnu a chydweithio yn ogystal â chystadlu yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i ddysgwyr. Rydym yn rhoi pwyslais ar ddychmygu posibiliadau yn y dyfodol – megis ffurfiau sefydliadol hybrid, arferion busnes newydd a thueddiadau defnyddio cyfrifol – i fodloni'r heriau o sicrhau gwerthoedd dynol mewn adeg gynyddol ansicr o drawsnewidiadau byd-eang. Mae'r rhaglen MBA yn eich herio chi i feddwl yn feirniadol, gan fyfyrio ynghylch damcaniaeth ac arferion rheoli er mwyn nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Archwilio Pwrpas Sefydliadol • Arwain gyda Chywirdeb • Creu Gwerth Cynaliadwy • Dadansoddi Data a Gwneud Penderfyniadau • Deall Cyllid • Llywio Arloesi a Newid ALl

Pam dewis Prifysgol Abertawe i astudio’ch MBA?

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU YSGOLORIAETH MBA

 abertawe.ac.uk/ ysgol-reolaeth/mba

Mae astudio MBA yn cynnig llawer o fuddion, o ddatblygu rhwydwaith proffesiynol cryf a dymunadwy a fydd yn eich paratoi ar gyfer swyddi rheoli uwch â chyflogau uwch mewn busnes. Rydym yn gwybod bod cost cwrs yn ffactor pwysig wrth wneud penderfyniad, a dyma pam mae’r Ysgol Reolaeth yn gyffrous i gynnig ysgoloriaeth gwerth £5,000 i bedwar myfyriwr MBA. abertawe.ac.uk/ysgol-reolaeth/ mba/ysgoloriaeth-mba

Llyfryn Yr Ysgol Reolaeth:

 abertawe.ac.uk/ ysgol-reolaeth/mba

AELODAETH:

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

90

Made with FlippingBook - Online magazine maker